主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


The Illusionist (2007)
Hud, lledrith, dialedd a brad yn mudlosgi

PG

Pedair seren allan o bump

Y s锚r
Edward Norton, Paul Giamatti, Jessica Biel, Rufus Sewell, Eddie Marsan, Jake Wood

Cyfarwyddo
Neil Burger

Sgrifennu
Neil Burger yn dilyn stori fer gan Steven Millhauser, enillydd gwobr Pulitzer.

Hyd
109 munud

Sut ffilm
Ffilm serch, gyda chysgodion sinistr, sy'n mudlosgi yn Vienna troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cymysgedd o ramant a dialedd ac o hud a lledrith wrth i gonsuriwr gorau'r byd geisio ennill ei gariad yn 么l oddi ar dywysog coronog.

Lleisiau isel mewn stafelloedd tywyll.
Llawer o sibrwd bygythion.

Byddwch yn barod am rywfaint o flas Ruritania ar adegau!

Y stori
Mae'r ffilm yn cychwyn gyda'r consuriwr Eisenheim (Edward Norton) yn cael ei gipio gan yr Arolygydd Uhl (Paul Giamatti) a'i heddweision oddi ar lwyfan un o theatrau Vienna.

Ond diwedd, nid dechrau'r stori yw hynny a threulir cryn amser wedyn gydag Uhl yn olrhain beth arweiniodd at yr arestio dramatig.

Ef sy'n datgelu sut yr etifeddodd Abramovitz, mab i saer tlawd - mae'n swnio'n fwy arwyddocaol fyth yn y Gymraeg o gymharu 芒'r Saesneg cabinet maker - ddoniau hud a lledrith oddi wrth sipsi a gyferfu ar ochr ffordd.

Yn llanc ifanc ar ei brifiant mae Abramovitz a'r Ddugus von Teschen (Jessica Biel) yn syrthio mewn cariad a'i gilydd ond mae'n garwriaeth sydd wedi ei thynghedu i fod yn fethiant oherwydd eu gwahanol safleoedd cymdeithasol ac fe'u gwahenir.

Am bymtheng mlynedd mae Abramovitz yn crwydro'r gwledydd yn perffeithio ei gonsuriaeth i'r fath raddau y mae'n ddyn triciau gyda'r gorau erioed ac yn perfformio dan yr enw, Eisenheim.

A phan yw'n perfformio yn Vienna pwy sy'n cael ei galw o'r gynulleidfa i'w gynorthwyo gyda thric ond y Dduges sydd, erbyn hyn, yn ddyweddi i'r Uchel Dywysog Coronog Leopold (Rufus Sewell).

Buan y gwelir ei bod yn haws i gonsuriwr na neb gynnau t芒n ar hen aelwyd ac wrth i'r dewin a'r Dduges glosio mae dicter a dichell y Tywysog yn cynyddu. Buan iawn mae bywyd Eisenheim mewn perygl.

Y canlyniad
Y cwestiwn hawsaf i'w ateb am y ffilm hon yw'r un sy'n gofyn a fydd y consuriwr dawnus yn drech na'r tywysog dialgar sydd hefyd yn coleddu syniadau bradwrus tuag at ei bobl?

Yn wir, dyw'r cwestiwn anos yngl欧n 芒 sut y bydd Eisenheim yn llwyddo ddim yn un hynod o anodd ychwaith ond dyw hynny ddim yn bwysig gan nad y datrys sy'n rhoi i'r ffilm hon ei gwefr ond ei mudlosgi sinistr a'r ymdaro du a thawel rhwng y cymeriadau.

Wrth ei bwysau y mae'r tyndra yn magu. Ymenyddol yw'r herio ac er bod yma gleddyfau a gwaed y ciledrychiad dan aeliau duon sy'n trywanu a'r peryg mewn gwefusau meinion a locsiau duon.

Mae hon yn ffilm sy'n teimlo'n dda ac er yn ymylu ar fod yn swrth ar adegau y mae hi, mewn gwirionedd, yn ein tywys yn dwyllodrus o rwydd yn ei llaw.

Mae'r plot yn gofyn am rywfaint o hygoeledd ac weithiau dyw'r llinell amser ddim fel pe byddai'n gyson yn ystod y cyfnod datrys llofruddiaeth.

Perfformiadau
Mae Edward Norton, ei farf ddu a'i gilolwg amheus yn lledrithiol fel Eisenheim gyda Paul Giamatti, fel Uhl y plismon gonest, sy'n cael ei ddal ym magl cynllwyn nad yw wrth fodd ei galon, yn wrthgyferbyniad perffaith i Eisenheim ac hefyd i'r tywysog bradwrus y mae'n ei wasanaethu.

Nid oes neb ar y sgrin nad yw'n gwneud diwrnod da o waith.

Ambell i farn
Mae llawer mwy o ganmol nac o gicio gyda'r rhan fwyaf o'r beirniaid wedi eu bodloni i ryw raddau neu'i gilydd ac yn cymharu'r ffilm yn ffafriol 芒 ffilm Christopher Nolan am ddau ddyn hud yn herio'i gilydd, The Prestige, a welodd olau dydd y llynedd ond a ddiflannodd yn gynt na chwningen hud unrhyw gonsuriwr.

Yn yr Unol Daleithiau heriai'r ddwy ffilm ei gilydd wyneb yn wyneb ond ar gyfer y farchnad Brydeinig sicrhawyd bron i flwyddyn o olau dydd rhwng y ddwy fel na bo'r naill yn amharu ar y llall.

Er mai dim ond ychydig a welodd The Prestige y farn gyffredinol yw fod The Illusionist yn rhagori er ei bod yn fwy swil ac yn llai ymfflamychol ei natur.

Yn wir, y mae hynny yn siwr o fod yn rhan o'i hap锚l.

  • "Mae The Illusionist yn edrych yn wych," meddai gwefan ffilm Saesneg y 主播大秀 gan gyfeirio nid yn unig at y cymeriad a chwaraeir mor drawiadol gan Edward Norton ond at y ffilm yn ei chyfanrwydd.

  • Y gair exquisit ddefnyddiodd gan Philip French yn yr Observer.

  • Canmol mae'r Guardian hefyd gan ddweud fod y ffilm yn ei ffordd dawel yn dangos bod mwy o ddirgelwch i realaeth nag i'r lledrithiol.

  • Pennawd bachog y Daily Mirror oedd, "Trick's a real treat" gan ddisgrifio'r ffilm fel un fechan ond bleserus.

  • Ond ni phlesiwyd o gwbl Deborah Ross yn y Spectator.
    "Mae . . . yn un o'r ffilmiau hynny sy'n ennill pwyntiau am geisio bod yn glyfar ac yn wahanol ac yna'n eu colli nhw'n syth a beidio a bod yn ddigon gwahanol a dyfeisgar," meddai.

  • Doedd y ddau Times ddim mewn llesmair ychwaith gan ddweud mai twll mawr sydd yna lle dylai'r dirgelwch fod.

    Darnau gorau
  • Mae golygfeydd allanol gwefreiddiol gyda tharth a niwl sy'n hofran ar ryw ffin rhwng peintiad a ffotograff.

  • Chwilio'r goedwig.

  • Y pasej llawn cyrn ceirw sy'n arwain at ystafell Leopold.

  • Golygfa 'cledd yn y garreg' Leopold.

  • Triciau Eisenheim ar lwyfan - er nad yw rhywun yn cael ei hudo'n llwyr wrth gwrs o sylweddoli mai tric dangos triciau yw'r sinema ei hun ac o'r herwydd mae peryg i'r twyllo dwbl golli ei elfen hanfodol o ryfeddod.

    Gwerth ei gweld?
    Ydi - ond nid i'r sawl a hudwyd i gredu bod mai rhuthr a ffrwydro a gweiddi a sgrechian sy'n gwneud ffilmiau da.
    Ond fe allai'r diweddglo fod ychydig yn siomedig.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy