Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Casino Royale (2006)
00 dyma newid

15

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Daniel Craig, Eva Green, Mads Mikkelsen, Judi Dench, Jeffrey Wright, Giancarlo Giannini

Cyfarwyddo
Martin Campbell

Sgrifennu
Paul Haggis, Neal Purvis, Robert Wade - yn seiliedig ar nofel Ian Fleming

Hyd
144 munud

Sut ffilm
Bydd y rhai hynny sydd wedi'u magu ar 007 y ffilmiau yn ei chael yn anodd dygymod â'r James Bond hwn.

Yn arwr sy'n cystadlu gyda Dr Who yn y rasus ymgnawdoli bu i 007 fyw yng nghyrff rhai mor wahanol â Sean Connery, George Lazenby, Roger Moore, Timothy Dalton a Pierce Brosnan. Ond yr un mor wahanol ag arwr y funud, Daniel Craig.

Er bod mân wahaniaethau rhwng y lleill i gyd rhyw geisio cyrraedd at yr un lle oedden nhw ond mae Daniel Craig mor wahanol i bob un ohonyn nhw fel na ellir ei adnabod fel y "Bond - James Bond" ein magwyd ni gydag o.

Oni bai, hynny yw, ichi ddod i'w adnabod yn ei ffurf wreiddiol rhwng cloriau llyfrau Ian Fleming lle mae'n cael ei ddarlunio fel lladdwr oeraidd, dideimlad, calongaled heb ddim o'r hiwmor a'r rhyfyg hawdd cymryd ato a gafwyd ym mhortread Connery.

Gwir, fyddech chi ddim am gyflwyno'ch chwaer i 'Sean' Bond ond allech chi ddim peidio ag edmygu'i ffordd gyda chwiorydd pobl eraill.
A'r hyn sy'n od yw fod y rhelyw o fenywod yn y gynulleidfa hefyd yn ei fwynhau er mor ddibris ydoedd o'u rhyw.

A dyna, ym meddyliau llawer y Bond diffiniedig na allodd yr un o olynwyr Connery ei ddisodli na'i newid rhyw lawer.

Go brin fod Daniel Craig wedi ei ddisodli ychwaith - wedi ei newid, ei lwyr newid y mae. Dim ond mewn enw a rhif y mae unrhyw debygrwydd rhwng Daniel Bond a Sean Bond.

Y stori
Er mai'r presennol ôl 9/11 yw'r amser, James Bond ar gychwyn ar ei yrfa sydd yn y ffilm hon.

Casino Royale oedd nofel 007 gyntaf Ian Fleming - ond yr olaf i gael ei throi'n ffilm go iawn. Do, bu ffilm deledu Americaidd gyda Barry Nelson yn 1954 a bu parodi wirion a chwbl fethiannus gyda David Niven yn 1967 ond dyw'r naill na'r llall yn cyfrif dim.

Ta waeth dyma fynd ati o ddifrif y trydydd tro hwn gan gadw'n go agos at stori'r nofel.

Mae Bond yn cael ei osod gan y gwasanaeth cudd i drechu mewn gêm gardiau Monsieur le Chiffre (Mads Mikkelsen) sydd wrth ei waith bob dydd yn ariannu terfysgwyr a llofruddion ar hyd a lled y byd - yr Undeb Sofietaidd gai ei arian yn y nofel ond gan nad yw 'Rwsia' yn neb bellach ni fyddai'n gwneud synnwyr mwyach ei chael yn ben gelyn.

Y nod yw i Bond odro le Chiffre yn sych o'i arian fel na fydd ganddo ddim dewis ond troi at wasanaeth cudd Lloegr am ymgeledd a datgelu ei gyfrinachau i gyd.

Mae'r ornest fawr yn Casino Royale y teitl ond y gêm wedi newid o baccarat y nofel i bôcer yn y gobaith y bydd mwy ohonom yn deall honno na'r llall.

Yn dal llinynnau pwrs Bond y mae Vesper Lynd (Eva Green) o'r trysorlys ac un cwbl, gwbl, wahanol i'r Bond girl arferol ac o'r herwydd mae'r berthynas rhwng y ddau yn dra gwahanol hefyd.

Y canlyniad
Er bod digonedd o olygfeydd cyffrous - gyda ras ar draws iard adeiladu a'r ymdrech i atal lori rhag ffrwydro mewn maes awyr yn ddwy goron - mae diddordeb y ffilm hon yn bennaf yn y cymeriad ac yn enwedig y berthynas rhwng Bond a Vesper sydd yn un ddwys a theimladwy o gymharu â'r driniaeth ddifeind o ferched yn y ffilmiau cynt.

Gall hyn oll fod yn rhywbeth y bydd dilynwyr y gyfres o ffilmiau hyd yn hyn yn ei chael yn anodd arfer ag ef gan feddwl weithiau tybed oedd angen galw'r arwr hwn yn James Bond - ond gwneud ffilm gyda chymeriad newydd.
Trafoder.

Ambell i farn
Go brin y dowch chi o hyd i neb sydd heb ei blesio gyda chlyfrwch mwys fel "premium Bond (Observer) a "00 heaven"(Spectator) yn adlewyrchiad o hynny yn y penawdau.

Heb os, fydd Daniel Craig ddim yn brin o waith am yn hir iawn eto gan iddo blesio pawb yn ddiwahân a'r beirniaid yn dynn ar eu tennyn i'w ganmol.

Mae'n union fel pe byddai yna Gystadleuaeth Canmol Daniel Craig nad oedd neb ond yr adolygwyr yn gwybod amdani.

  • Disgrifia'r New Statesman y ffilm fel yr un sy'n cael gwared â'r "glamour and escapism" o'r syniad o Bond gan ganmol y ffilm am fod mor driw i syniad cychwynnol Ian Fleming.

  • Mae'r Guardian yn galw ar y rhai hynny a fu'n lladd ar Daniel Craig fel dewis o Bond - ac yr oedd llawer ohonyn nhw - am blygu eu pennau mewn cywilydd gan fod y Bond yma yn "ffantastig".

    Ond y mae'r adolygydd hwn yn rhoi ei fys ar un diffyg a fydd yn destun gofid i lawer.

    Wrth newid y Bond mae Martin Campbell wedi cael gwared bron yn llwyr hefyd â'r seiniau cerddorol a gysylltir â'r arwr.

    Dim ond wrth i'r geiriau olaf lithro dros y sgrin y clywir adlais o gerddoriaeth gyffrous John Barry - ond peryg bod y seiniau hynny hefyd yn sawru'n ormodol o'r congrinero a grëwyd gan Connery yn 1962 i fod yn gydnaws a Bond 2006.

    Darnau gorau
    Mae'r darnau cyffro bob un yn ddifai - ar wahân i'r un gwirion lle mae calon Bond yn stopio.

    Mae yma olygfeydd sy'n amlwg i fod i'n hatgoffa mewn ffordd bryfoclyd o ffilmiau a fu.

    Er enghraifft nid rhyw Ursula Andres na Halle Berry sy'n cerdded o'r tonnau i'r traeth y tro hwn ond Daniel Craig ei hun mewn trowsus bach sy'n gwneud ichi ddyfalu p'run ai dŵr môr ynteu dagrau sydd yn ei lygaid.

    Mewn golygfa arall lle mae'n archebu ei Fartini Fodca mae'r gweinydd yn gofyn; "Shaken not stirred?" dim ond i gael yr ateb, "Do I look as if I give a damn."
    Yr ymwrthodiad llwyraf o'r Bonds a fu.

    Do, newidiodd popeth; newidiwyd yn llwyr.

    Gwerth ei gweld?
    Heb os nac oni bai.
    Mae'n werth ei gweld fel ffilm. Mae'n werth ei gweld fel ffilm Bond hefyd.
    A fydd y dwyster a'r treiddgarwch cymeriad newydd yn cydio i'r fath raddau ag y cydiodd hwyliogrwydd a ffraethineb drygionus a difeind Sean Connery, cawn weld.

    Un peth sy'n sicr, bydd yn ddiddorol gweld i ble yr aiff Daniel Craig a ni nesaf yn yr ymgnawdoliad hwn.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Carys Mair Davies

  • Adolygiad Dylan Davies

  • Adolygiad Siwan Davies


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý