Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Ocean's Twelve
Mint, sws a thinc Gymreig i Zeta-Jones




12a

Tair seren allan o bump

Y sêr
George Clooney, Brad Pitt, Matt Damon, Julia Roberts, Don Cheadle, Andy Garcia

Cyfarwyddwr
Steven Soderbergh

Sgrifennu
George Nolfi

Hyd
125 munud

Sut ffilm
"Fe fyddwn i'n rhoi mint yn fy ngheg a bwrw 'mlaen â hi."

Dyna, medden nhw, ddywedodd Catherine Zeta-Jones wrth delynegu am gusanu Brad Pitt yn y dilyniant hwn i ailbobiad 2002 o ffilm wreiddiol Ocean's Eleven a wnaed yn 1960 gyda Frank Sinatra.

Hyd y gellir gweld bu cymaint o drafod ar olygfeydd cusanu rhwng Jones a Pitt ac mae peryg y bydd mwy o ddiddordeb yn nhechnegau llabsochian y Gymraes enwocaf erioed nag yn y ffilm ei hun.

Y deuddeg
Danny Ocean - George Clooney; Rusty Ryan, chwaraewr cardiau - Brad Pitt; Tess Ocean, gwraig Danny - Julia Roberts; Linus Caldwell, lleidr pocedi - Matt Damon; Basher Tarr, dyn ffrwydron - Don Cheadle; Reuben Tishkoff, arbenigwr diogelwch - Elliott Gould; Saul Bloom, twyllwr - Carl Reiner;Virgil a Turk Malloy, gyrwyr cecrus - Casey Affleck a Scott Caan; Frank Catton, torrwr sêffs - Bernie Mac; Livingstone Dell, arbenigwr gwylio - Jemison; Yen, acrobat o China - Qin

Y stori
"Be? Oes na stori?" meddai rhai a wêl hon fel cyfle i baredio gwerth miliynau o bunnau o gnawd Hollywoodaidd ar draws y sgrîn.

Ta beth mae perchen casino, Terry Benedict (Andy Garcia) wedi darganfod mai Danny Ocean (George Clooney) a'i griw (gweler uchod) fu'n gyfrifol am ddwyn $160,000,000 o ddoleri oddi arno yn Ocean's Eleven.

Mae'n rhoi pythefnos iddyn nhw ddychwelyd yr arian - efo llog - ond gan fod y deuddeg wedi hen wario'r arian i gyd rhaid iddyn nhw deithio i Amsterdam, Paris a Rhufain i ddwyn oddi ar eraill mewn cyfres o ladradau beiddgar.

Yn dynn ar eu sodlau mae un o blismyn Europol, Isabel Lahiri (Catherine Zeta-Jones) sydd yn hen gariad i un o'r deuddeg, Rusty (Brad Pitt).

Y cwestiwn mawr nad yw neb - gan gynnwys y gynulleidfa - i'w weld yn poeni llawer amdano yw, "A fydd dwsin Ocean yn llwyddo?"

Mewn ymgais i roi ychydig mwy o flas i stori digon cyffredin mae elfen o gystadleuaeth hefyd rhwng y deuddeg ac arch leidr Ewropeaidd, Francois Toujour (Vincent Cassel) sydd fel pe byddai gam ar y blaen iddyn nhw gydol yr amser.

Ond yn y pen draw cyfres o olygfeydd slic rhwng cymeriadau sydd yma yn hytrach na stori wedi ei saernïo yn grefftus yn null ffilmiau heist a caper traddodiadol.

Y canlyniad
Yr ofn mwyaf yw y bydd yna Ocean's Thirteen - a'r arwyddion yw y bydd yna.

Ond o ddifri, bydd edmygwyr Clooney, Pitt, Damon ac eraill wrth eu boddau â'r golygfeydd o wagswmera ffraeth a doniol rhwng y gwahanol gymeriadau -eilbeth yw unrhyw stori i'w presenoldeb hoffus a slic hwy.

Mae yma adlais amlwg yma o'r Thomas Crown Affair yn rhan Pitt a Zeta-Jones o'r stori. Yn anffodus dydy'r naill ddim yn Steve McQueen na'r llall yn Faye Dunaway ac yn sicr ni ellir cymharu y ddwy ffilm.

Y darnau gorau
Yen yn cael ei bacio mewn bag sy'n mynd ar goll yn ystod taith awyren.

Julia Roberts yn smalio bod yn Julia Roberts.

Perfformiadau
Yn ôl y Western Mail mae Catherine Zeta-Jones yn sgubo'r llawr â phawb arall gan 'ddwyn' y ffilm."Ni chafwyd yr un gair drwg am Zeta-Jones 35 oed," meddai'r papur Catherine Zeta -Jones ond yn amlwg sgrifennwyd hynny cyn darllen Peter Bradshaw yn dweud yn rhifyn yr un diwrnod o'r Guardian fod acen Gymraeg yr actores yn codi i'r wyneb "pan nad yw hi'n actio'n dda iawn. Hynny yw, gant y cant o'r amser."

Ac meddai beirniad arall ar y We: "Oni bai fod Zeta-Jones yn chwarae rhan tywysoges, model, neu gymydog ymgyfreithgar, mae ei chredinedd mewn unrhyw broffesiwn arall ymhell allan ohoni."

Go brin y bydd llawer o Gymry a fydd yn mwynhau ambell i dinc Gymreig yn y llais yn cydweld â rhyw sylwadau felna!

Bod eu hunain yn slic ac yn llyfn ac yn ddiymdrech mae'r chwaraewyr eraill.

Gystal â'r trelar?
Na.

Ambell i farn
Yn yr un modd ag yr oedd pawb o'r farn fod yr ail Ocean's Eleven gyda George Clooney fydoedd yn well na'r ymdrech drychinebus gyda Frank Sinatra a'i Rat Pack yn y chwedegau mae unfrydedd barn hefyd fod Ocean's Twelve yn gam sicr yn ôl er gwaethaf ei holl sglein.

Yn ôl y Guardian y gwir plaen yw, waeth faint ydych chi eisiau i'r ffilm hon fod yn un dda mae hi wedi mynd heibio'r pwynt o fod yn gredadwy a diddorol.

Dywedodd y New Staestman bod gan y ffilm gymaint o hygrededd dramatig â'r dramâu hynny fyddai Ernie yn eu sgrifennu ar gyfer sioeau Morecambe and Wise!

Ac ni allai beirniad y Spectator gofio dim am y ffilm, meddai, ddeuddydd wedi ei gweld!

Geiriau i'w cofio
"Flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn dair ar ddeg oed gwelais fy mam gyda phryf cop oedd yn gwisgo gorchudd tebot - flynyddoedd wedyn y sylweddolais nad pryf cop ydoedd o gwbl ond fy Ewythr Harri."

"Dydi o ddim yn fy natur i fod yn gyfrinachol - ond allai ddim siarad am y peth na dweud pam."

Gwerth mynd i'w gweld?
Er ei bod braidd yn hir ac er nad oes llawer o stori mae yna ddigon o olygfeydd doniol a ffraeth i'w gwneud yn ffilm hawdd iawn ei gwylio wrth i rai o actorion enwocaf Hollywood gael hen hwyl iawn ymhlith ei gilydd.

Mae'n hwyl hefyd adnabod sêr eraill fel Robbie Coltraine, Eddy Izzard, Albert Finney a Bruce Willis yn 'westeion'.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý