主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


The Da Vinci Code (2006)
Mwy o egluro nac o gyffro

12a

Dwyseren allan o bump

Y s锚r
Tom Hanks, Audrey Tatou, Ian McKellen, Paul Bettany, Jean Reno

Cyfarwyddo
Ron Howard

Sgrifennu
Akiva Goldsman - wedi ei sylfaenu ar nofel Dan Brown

Hyd
149 munud

Sut ffilm
Wedi'r holl ddisgwyl a darogan, addasiad ffyddlon, diddychymyg ac eithaf digyffro o nofel sydd wedi bod yn gwerthu fesul sawl miliwn mewn sawl iaith

Y stori
Go brin bod angen manylu ond dyma gyflwyniad byr ar gyfer y rhai hynny gafodd eu cloi mewn cwpwrdd gan eu rhieni y ddwy flynedd ddiwethaf:
fgh Yn dilyn llofruddiaeth erchyll curadur hynafol yn amgueddfa'r Louvre ym Mharis gelwir ar y symbolegydd, Robert Langdon (Tom Hanks), Athro Symbolaeth Grefyddol ym MhrifysgolHarvard, i archwilio lleoliad y lladd.

Mwyaf sydyn mae dan amheuaeth ei hun ac fe'i gorfodir ef a chryptolegydd heddlu Paris, Sophie Neveu (Audrey Tautou) i ffoi rhag yr heddlu a Silas (Paul Bettany), mynach albino sydd ar eu gwarthaf er mwyn eu lladd i ddiogelu cyfrinach fod disgynyddion i briodas rhwng Crist a Mair Magdalen yn dal ar y ddaear.

Y canlyniad
Arf pellach i'r rhai hynny sy'n mynnu nad yw'r ffilm byth gystal a'r llyfr y'i sylfaenwyd arno.
Yn yr achos hwn bydd hyd yn oed y rhai hynny sydd heb ddarllen y llyfr yn gwybod fod hynny'n wir!

Fodd bynnag bydd rhywfaint mwy o foddhad i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel. Gall dwy awr a hanner fod yn amser hir iawn, iawn, i'r rhai hynny sy'n gwybod beth sy'n mynd i ddod nesaf!

Gyda Hanks a Tautou ar ffo o un argyfwng i'r llall yn ceisio cadw ar y blaen i Silas a'r plismon taer, Bezu Fache (Jean Reno) mae sawl golygfa, fely rhai gyda'r holl geir yn cyrraedd fel cwn wedi gwynto gast, mewn peryg o'n hatgoffa o'r Keystone Cops - ond heb y doniolwch.

Heb os, mae'r Da Vinci Code yn llawer rhy hir ac yn hesb o unrhyw ddychymyg neu weledigaeth newydd a fyddai wedi ei gwneud yn werth chweil troi'r nofel yn ffilm.
Fel y dywedodd un adolygydd, mae troi nofel yn ffilm yn golygu mwy na darllen y llyfr o flaen camera.

Ambell i farn

  • "Mae'n gorwedd ar y sgr卯n fel matres gwerth $100 miliwn," meddai adolygydd y 主播大秀.
  • "Sublimely implausible," meddai'r Guardian.
  • Holai adolygydd arall, sut y gallai'r dadleuol fod mor ddiflas.
  • "Mor gyffrous a gwylio eich rhieni yn chwarae Sudoku," meddai adolygydd arall.
  • Cwyn gyson yw fod y ffilm yn rhy eiriog gyda gormod o olygfeydd yn ymwneud ag un cymeriad yn egluro rhyw bwynt hanesyddol i'r llall. Byddai llai o bwyslais ar egluro a mwy o bwyslais ar gyffroi wedi bod yn fendith.

    Ond wedi dweud hyn oll, peidiwch a synnu clywed mai un o'r ffilmiau hynny fydd hon a waldiwyd gan yr adolygwyr ond a blesiodd gynulleidfaoedd wrth y miloedd.

    Perfformiadau
  • Fel darn o does gyda gwallt gosod y disgrifiwyd Hanks gan adolygydd gwefan ffilm Saesneg y 主播大秀.
  • Disgrifiwyd ef a Tautou fel lluniau cardbord ohonynt eu hunain gan adolygydd y Guardian.
    Nid awn i ffraeo am hynny gan fod y berthynas rhwng y ddau yn un eithriadol o glaear ac yn ymylu ar fod yn ddideimlad hyd yn oed.
  • Dywedir fod Langdon yn cael ei ddisgrifio yn y nofel fel rhywun tebyg i Harrison Ford ond yn wir mae Hanks ymhell o fod yn Indiana Jones a The Da Vinci Code ymhell o fod yn Indiana Jones and the Last Crusade o ran cyffro a dychymyg.
  • Dihiryn hynod siomedig yw Paul Bettany a'i duedd i boenydio a chwipio ei hun i'r fath raddau y mae'n codi mwy o ofn arno'i hun nag arnom ni.
  • Yr unig gymeriad ag unrhyw liw iddo ydi'r ysgolhaig egsentrig, Syr Leigh Teabing (Ian McKellen), ond dirywia yntau yn barodi ohono'i hun erbyn ei olygfeydd olaf.
  • Yr anhawster pennaf, fodd bynnag, yw anallu'r ddau brif gymeriad i ennyn dim o'n cydymdeimlad na gwneud inni deimlo am funud y byddai ots gennym beth ddigwydd iddynt.
  • Rhywbeth na fydd neb yn cwyno amdano, fodd bynnag, yw llais y soprano Elin Manahan Thomas fel rhan o gerddoriaeth y ffilm. Arhoswch yn eich sedd ar ddiwedd y ffilm i fwynhau cyfoeth llais y Gymraes.

    Rhai geiriau
  • Fydd hon ddim yn ffilm gaiff ei chofio am ei sgript felly mae un llinell gan Syr Leigh Teabing yn disgleirio fel gem:
    "Os yr ydych am ein stopio bydd yn rhaid ichi ein saethu - ac fe allwch ddechrau efo fo," meddai gan gyfeirio at ei was.
  • Yn anfwriadol yr oedd rhywun yn gwenu am y llinellau:
    "Mary Magdalen was Jesus' wife."
    "That is an old wives' tale."

    Gwerth ei gweld?
    Mae'r holl sylw gafodd y llyfr yn ei gwneud yn ddyletswydd, bron. Ond y rhai sydd heb ddarllen y llyfr gaiff y mwyaf o fwynhad tra bydd y rhai fwynhaodd y nofel o bosib yn diolch i Ron Howard gadw mor gaeth at honno.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Gwych fel nofel - gwael fel credo
    Parodrwydd pobl i gredu ffantasi


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy