Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Gwenno Ffrancon son am ffilm Gymraeg arloesol a gwerthfawr

Y mae Gwenno Ffrancon yn ddarlithydd ar Ffilm ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Hi yw awdur Cyfaredd y Cysgodion un o'r llyfrau sydd yn ras Llyfr y Flwyddyn, 2005.

Gwenno Ffrancon Hi wahoddwyd i drafod cyfraniad John Roberts Williams i fyd ffilm yng Nghymru mewn cyfarfod teyrnged ym Mhencaenewydd, Efionydd, Mai 7, 2005.
Dyma oedd ganddi i'w ddweud:

P'nawn da. Mae'n dda iawn gen i gael bod yma y prynhawn yma i gofio am a thalu teyrnged i un o gymwynaswyr mawr y genedl. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Merêd am drefnu'r cyfarfod coffa haeddiannol hwn i John Roberts Williams ac am y gwahoddiad i ddod yma i fwrw golwg dros gyfraniad gwerthfawr John i ddatblygiad y cyfrwng ffilm yng Nghymru.

Rhyw saith mlynedd yn ôl, fe ges i'r fraint o dreulio amser yng nghwmni John yn hel atgofion am y cyfnod a dreuliodd ar ddiwedd y 1940au yn llunio ffilmiau.

Fe gynhyrchodd rhyw ddyrnaid o ffilmiau am Gymru ac Iwerddon gyda chymorth y ffotograffydd amryddawn Geoff Charles.

Y ffilm a dderbyniodd ein sylw pennaf y bore hwnnw ym 1998 oedd Yr Etifeddiaeth - a'r trysor hwn, felly, yw canolbwynt fy sgwrs i heddiw.

Gelyn perygl!
Fel mae nifer ohonoch chi'n gwybod dwi'n siŵr, chafodd y ffilm a'r sinema ddim llawer o groeso gan ddeallusion Ymneilltuol Cymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Fe fydd rhai ohonoch chi'n gyfarwydd am wn i ag un o'r prif wrthwynebwyr, sef yr Henadur William George, brawd Lloyd George.

Roedd e'n gadarn o'r farn fod y cyfrwng yn un o elynion perycla'r iaith, tra bod Saunders Lewis yn ystyried y ffilm yn "hupnosis breuddwydiol rhywiol sy'n lladd yr enaid".

Ond er bod cewri diwylliannol fel y rhain yn pryderu'n fawr am ddylanwad y cyfrwng ar iaith a diwylliant Cymru, roedd y werin bobl yn dotio ar waith sêr fel Charlie Chaplin, Judy Garland, Fred Astaire a Ginger Rogers.
Roedd y ffilmiau hyn yn ddihangfa, yn ddiddanwch ac yn hwyl.

Y gyntaf
Un a sylweddolodd fod y cyfrwng ffilm yn debygol o fod yn un o brif ddylanwadau'r ugeinfed ganrif oedd Syr Ifan ab Owen Edwards. Dyma'r gŵr a luniodd y 'talkie' - y ffilm lafar Gymraeg gyntaf ym 1935, sef Y Chwarelwr.

Ffilm oedd hon oedd yn dyrchafu'r chwarelwr Cymraeg gan ganolbwyntio ar ei fywyd teuluol, ei ymlyniad wrth y capel, ei bwyslais ar addysg er mwyn dod ymlaen yn y byd a'i grefft wrth ei waith yn y chwarel.

Fe dderbyniodd y ffilm groeso cynnes gan y Cymry oherwydd ei bod yn ddarlun twymgalon o fywyd fel yr oedd mewn degau o gymunedau.

Clawr fersiwn fideo o'r ffilmOnd fe aeth rhyw ddeuddeng mlynedd heibio cyn i'r ffilm Gymraeg ei hiaith nesaf ymddangos ar sgriniau mawr Cymru, a ffrwyth gweledigaeth unigolyn arall oedd yr ail ffilm lafar Gymraeg hon, gweledigaeth John Roberts Williams.

Newyddiadurwr craff
Roedd John yn ymwybodol iawn o gyfraniad Syr Ifan a'i ffilm Y Chwarelwr, ond erbyn diwedd y 1940au, doedd y ffilm ddim yn cael ei harddangos yn gyhoeddus a'r Cymry unwaith eto yn troi at Hollywood a stiwdios Lloegr am eu hadloniant.

A fynte'n newyddiadurwr craff ac yn olygydd Y Cymro daeth John i'r casgliad y byddai'n syniad da iddo lunio ffilm Gymraeg arall.

Rhywbeth arall a oedd wedi ei ysgogi i lunio'r gwaith hwn oedd ei awydd i annog ei gyd Gymry i werthfawrogi eu hetifeddiaeth, eu gwlad, eu diwylliant a'u hiaith drwy roi ar gof a chadw nifer o draddodiadau ac arferion a oedd yn prysur farw o'r tir.

Yr Etifeddiaeth, felly, oedd y teitl naturiol i'w roi i'r ffilm.

Y nod oedd dangos i'r Cymry, yng ngeiriau John, "Y cyfoeth a all lithro o'u dwylo mor hawdd."
Ac mewn sgwrs radio ym 1949, esboniodd eto, "Sylweddolais mai ffilm yn unig a allai wneud y gwaith hwn. Yr oedd yn rhaid i'r llygad weld cyn y gallasai'r galon ddeall."

Y cynllun gorau
Penderfynodd John o'r cychwyn cyntaf mai creu ffilm ddogfen heb gynnwys unrhyw actorion na deialog, ac yn bendant dim melodrama, oedd y cynllun gorau.

Gwyddai, yn nodweddiadol graff, y byddai creu ffilm yn ymwneud â Chymru gyfan yn faes rhy eang ac yn fenter rhy gostus. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar ddarlunio ei filltir sgwâr, ei fro enedigol, sef Llŷn ac Eifionydd - y fro 'rhwng môr a mynydd'.

Daeth LlÅ·n ac Eifionydd, felly, i gynrychioli bywyd Cymru ar ei orau yn Yr Etifeddiaeth.
Llafur cariad dros Gymru oedd y gwaith a wnaeth John a Geoff Charles ar yr ffilm hon. Roedd y ddau, wrth gwrs, yn dal swyddi llawn amser ac felly bu'n rhaid iddyn nhw dreulio eu penwythnosau yn llunio'r ffilm a hynny dros gyfnod o bymtheg mis yn ystod 1947 a 1948.

Wedi misoedd o waith caled, ynghanol tywydd anwadal Cymru, fe gwblhawyd y ffilmio, fe olygwyd y deunydd i lenwi hanner can munud ac fe ychwanegwyd traethiad gan Cynan - traethiad, fe ddylwn i nodi, a recordiwyd mewn un 'take' yn unig - dyna i chi fesur dawn Cynan fel traethydd!

Y pensaer
John oedd pensaer y ffilm yn ddi-os. Ef oedd yr un a ddewisodd yr elfennau i'w cynnwys a'u hepgor yn y gwaith, ef a arweiniodd Geoff o gwmpas yr ardal yn canfod beddau, cofebau a chymeriadau i'w dogfennu, ac ef luniodd y traethiad a lefarwyd mor ddidrafferth gan Cynan.

Ef hefyd ddewisodd y tywysydd mud sy'n clymu at ei gilydd olygfeydd y ffilm o rinweddau amlwg LlÅ·n ac Eifionydd, sef Freddie Grant.

Roedd Freddie yn ifaciwî ifanc croenddu o Lerpwl a oedd wedi ymgartrefu yn nhŷ; Eliseus Williams, cyn brifathro ysgol Llangybi a chyfaill i John.

trysorau LlÅ·n acEifionydd
Lluniodd John wers hanes a'i chyflwyno ar ffilm i'w gyd Gymry.
Mae'n ein tywys yn Yr Etifeddiaeth o gwmpas trysorau LlÅ·n ac Eifionydd, er enghraifft cromlech Rhos-lan, Tre'r Ceiri ar fynydd yr Eifl, Castell Cricieth, Eglwys Aberdaron, a bedd un o arwyr pennaf yr ardal, David Lloyd George, yn Llanystumdwy.

Mae'n rhoi sylw i ddiwylliant gwerin y fro, gan dalu gwrogaeth i grefftwyr ac amaethwyr yr ardal sydd hefyd yn feirdd, yn llenorion ac yn bregethwyr - dynion fel Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd, Eifion Wyn a Myrddin Fardd.

terfyn oes aur
Ond Cybi, sef Robert Evans, postman wrth ei alwedigaeth, sydd yn eu cynrychioli yn y cnawd ac ef sy'n dynodi terfyn oes aur beirdd a llenorion LlÅ·n ac Eifionydd.

Freddie Green a CybiRy'n ni'n gweld Cybi yn y ffilm yn eistedd yn nrws ei fwthyn, yn edrych yn anghysurus iawn wrth ddangos ei gasgliad o lyfrau i Freddie Grant.

Pan fues i'n cyfweld John, gan drin a thrafod ei brofiadau yn ffilmio roedd e'n cael tipyn o hwyl wrth gofio sut y bu ffilmio'r hen fardd yn dipyn o her!

Mae'n debyg, a fynte'n byw mewn bwthyn digon llwm heb drydan, y bu raid llusgo Cybi at garreg ei ddrws i'w ffilmio yng ngolau 'lamp y plwyf', chwedl John.

Mae wyneb Cybi yn y ffilm yn dangos ei fod yn casáu pob munud o'r profiad!

Wrth eu gwaith
Ond o safbwynt yr hanesydd cymdeithasol ac efallai, y gwyliwr cyffredin heddiw, un o rannau mwyaf gwerthfawr y ffilm yw'r lluniau o drigolion LlÅ·n ac Eifionydd wrth eu gwaith bob dydd.

Amaethyddiaeth, sef prif gynhaliaeth yr ardal, sy'n cael y sylw pennaf ac mae pwysigrwydd crefft gyntaf dynolryw yn cael ei bwysleisio'n aml gan John, y mab fferm. Mae yna olygfeydd o Laethdy Rhydygwystl, ger Chwilog, oedd yn dosbarthu llaeth cyn belled â Lerpwl; peiriant sychu a chreu cesig gwair yn awyrendy Penrhos; a Melin Goed Rhos-fawr oedd yn cerfio offer amaethu megis pladuriau a chribiniau.

Mae'r ffilm yn tynnu sylw hefyd at gyfraniad y ffeiriau amaethyddol i fywyd y fro drwy ddarlunio ffermwyr yn ffair Cricieth yn archwilio pladuriau oedd wedi eu llunio yn Rhos-fawr ac yn bwrw golwg feirniadol dros geffyl oedd ar werth.

Disodli hen ddulliau
Fe welwn ni hefyd sut roedd technoleg newydd wedi dechrau disodli'r hen ddulliau o ffermio, gyda'r ceffyl yn ildio'i le i beiriannau - ac ymysg y golygfeydd trawiadol hyn mae lluniau o dad a brawd John ei hun yn hel gwair.

Disodli'r ceffylFflach arall o hanes yn cael ei greu yw'r golygfeydd o Tomi, gwas fferm Bodfael a'r olaf o'i fath yn Llŷn, yn mynd i'r ffair bentymor ym Mhwllheli, i chwilio am waith. Mae'r darluniau'n swynol iawn, a dwi'n siwr y byddai John gyda'r cyntaf i gytuno â mi, mai i Geoff Charles mae'r diolch am hynny.

Gadawodd John a Geoff i fywyd lifo yn ei flaen heb unrhyw ymyrraeth ac, o ganlyniad, mae nhw wedi llwyddo i gipio golygfeydd unigryw a naturiol iawn.

I'r genedl gyfan
Mae'r ffilm hefyd yn ddogfen bwysig i'r genedl gyfan gan ei bod yn anfarwoli wynebau cymeriadau enwog y cyfnod megis aelodau'r Orsedd, gan gynnwys Archdderwyddon fel Elfed a Chynan ei hun.

Fe gawn ni gip ar eisteddfodwyr selog fel Bob Owen Croesor, D. J. Williams Abergwaun, Gwenallt a T. H. Parry-Williams a'i wraig Amy, ac mae yna luniau hefyd o Tom Nefyn yn pregethu ar y stryd yn ffair Pwllheli.

Ond feddyliodd John na Geoff am eiliad y bydden nhw yn llunio cofnod o gymaint a fyddai'n diflannu yn y blynyddoedd i ddod.

Geoff Charles Fel y dywedodd John ei hun wrtha i ym 1998 am y dasg o benderfynu beth i'w ffilmio, "Tydi rhywun ddim yn credu yng ngwaelod ei galon fod yna rywbeth mawr yn mynd i newid."

Doedden nhw ddim yn gwybod tan yn ddiweddarach, er enghraifft, iddyn nhw ffilmio'r ceffyl olaf i gael ei werthu yn ffair Cricieth.

Darluniau gonest
Cymwynas fawr arall y ffilm yw'r darluniau o hen arferion amaethyddol sydd ar gof a chadw ar seliwloid, megis yr hen ddull o gneifio a medi'r cynhaeaf, a hen ddulliau gwaith y chwarel wenithfaen yn Nhrefor.

O ganlyniad, mae lle i ddadlau mai prif rinwedd y ffilm yw'r darluniau gonest hyn o etifeddiaeth a oedd ar fin dirwyn i ben yn sgil moderneiddio Cymru wedi'r Ail Ryfel Byd.

Neges anodd ei llyncu
Ond i mi, yr hyn sydd gwneud Yr Etifeddiaeth yn drysor o ffilm, yw parodrwydd John i ddefnyddio'r cyfrwng i gyflwyno neges anodd ei llyncu i'r Cymry; i brocio'r cydwybod ac ysgogi gweithredu.

Roedd yn gwybod yn iawn mai dyma'r cyfrwng a gyrhaeddai'r mwyafrif o bobl yng Nghymru - llawer mwy na'r radio neu'r papur newydd.

O ganlyniad, fe fuodd e'n graff iawn wrth ddefnyddio'r cyfrwng hwn i'w ddibenion ei hun a dewis y sinema fel ei bulpud.

Y neges roedd e am ei chyflwyno oedd y modd roedd etifeddiaeth y Cymry yn cael ei llesteirio gan fygythiadau estron.

ButlinsMeddyliwch am yr holl fygythiadau hyn oedd yn dod i mewn a John yn tynnu sylw atyn nhw trwy gyfrwng y ffilm - dylanwad Seisnig y radio, y wasg a'r sinema ar ddiwylliant a iaith Cymru, er enghraifft!

A mae'n clustnodi'n bennaf wersyll gwyliau Butlin's ym Mrynbachau a oedd yn ei farn ef yn fygythiad uniongyrchol i barhad traddodiadau LlÅ·n ac Eifionydd.

Ffilmiau eraill
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i'r cyhoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau ym mis Awst 1949. Roedd yna dÅ· llawn ar gyfer yr holl ddangosiadau a gynhaliwyd bob noson o'r wythnos.

Ond gan nad oedd Yr Etifeddiaeth ar ei phen ei hun yn ffilm digon hir i wneud noson ohoni, fe ddangoswyd hefyd sawl ffilm fechan arall a luniwyd gan John a Geoff ar ran Y Cymro.

Dangoswyd ffilm am bapur newydd Y Cymro yn mynd i'r wasg; ffilm o gôr Coed-poeth ym Madrid - mae hon yn cynnwys darluniau o ymladd teirw; a ffilm o dîm pêl-droed Cymru yn curo Gwlad Belg 5-1 yng Nghaerdydd.

Ond y ffilm fwyaf gwerthfawr yn y casgliad hwn a ddangoswyd ym 1949, ar wahân i'r Etifeddiaeth hynny yw, yw Tir Na'n Og.

Mae hon yn ffilm y gellir ei hystyried yn chwaer i'r Etifeddiaeth gan ei bod, trwy gyfrwng nifer o ddarluniau hanesyddol gwerthfawr, yn darlunio ffordd o fyw mewn rhanbarth cwbl Wyddelig o Iwerddon, sef Connemara.

Ei gamp fawr
Camp fawr John Roberts Williams a Geoff Charles, felly, trwy gyfrwng Yr Etifeddiaeth oedd darlunio, cofnodi a dathlu bywyd beunyddiol mewn un cornel fechan o Gymru, sef LlÅ·n ac Eifionydd.

Ac fe wnaeth y ddau hynny ar adeg pan oedd y bywyd hwnnw'n cael ei sathru dan draed rhuthr amser.

John Roberts Williams Teyrnged ddiedifar ac anfeirniadol yw Yr Etifeddiaeth i'r werin bobl oedd yn cynnal yr iaith a'r diwylliant Cymreig.

Mae edmygedd a chariad John at ei ardal enedigol i'w weld yn amlwg yn y ffilm hon, ond yr hyn sy'n amlycach fyth yw cariad John at ei genedl, ei iaith a'i ddiwylliant.

Mae'n dda gen i ddweud bod ei gyfraniad pennaf i ffilm, Yr Etifeddiaeth, wedi ei hadfer a'i gosod ar dâp fideo er budd y genedl gyfan gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Fy ngobaith personol i yw y bydd pob Cymro a Chymraes yn ei gwylio, yn myfyrio ar y neges sydd ynddi ac yn rhyfeddu at flaengarwch John a ddangosodd, unwaith yn rhagor, ei fod yn gallu troi ei law at bob un o'r cyfryngau.

Dr Gwenno Ffrancon,
Prifysgol Cymru Bangor. 7 Mai, 2005

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý