Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Batman Begins
Hongian rhwng dau fyd

12a

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Christian Bale, Michael Caine, Liam Neeson, Cillian Murphy, Morgan Freeman, Gary Oldman, Katie Holmes

Cyfarwyddwr
Christopher Nolan

Sgrifennu
Christopher Nolan, David S Goyer

Hyd
140 munud

Sut ffilm
Dydi Dolig ddim yn Dolig heb robin goch - ond mae Batman yn anrheg penigamp hyd yn oed heb ei Robin traddodiadol ef.

Yn y pumed ffilm Batman dychwelir i ddyddiau cynnar ymladdwr glew cyfraith a threfn er mwyn cael gweld beth yn union sydd dan y fantell a'r cymhellion tu ôl i'r mwgwd ystlum.

Cymysgedd lwyddiannus o stori am wewyr twf cymeriad a chyffro traddodiadol y frwydr rhwng da a drwg mewn dinas fawr sy'n gymysgedd o brif ddinasoedd yr Unol Daleithiau a pheth o'r ffilmio yn Chicago.

Y stori
Darluniodd, Bob Kane, crëwr y Batman gwreiddiol, stori'r cychwyn mewn stribed o ddwsin o luniau ar gyfer Detective Comics yng ngwanwyn 1939.

Yn y stori honno, mae tad a mam Bruce Wayne yn cael eu lladd gan ladron stryd a hynny'n peri i'r plentyn amddifad hyfforddi ei hun yn wyddonydd dawnus ac ymarfer ei gorff i'r fath raddau y gall ymladd pob drwg ac anghyfiawnder tra'n gwisgo mantell a mwgwd sy'n gwneud iddo edrych fel ystlum.

Ar yr esgyrn sychion hynny mae Nolan a Goyer yn rhoi cryn dipyn o gig - er mwyn egluro yn y lle cyntaf pam y mabwysiadodd Bruce ddiwyg ystlum.

Yn bwysicach na hynny, mae eu Bruce hwy yn mynd ar gyfeiliorn cyn cael ei fabwysiadu gan ymladdwr doeth o'r enw Ducard (Liam Neeson) i fod yn ddisgybl i griw o frwydwyr ymladdgar yn erbyn y drwg yn y byd, The League of Shadows, sydd a'i bencadlys yn entrychion yr Himalayas - wel, lle arall?

Yno, dan arweiniad eu pennaeth, Ra's al Ghul (Ken Watanabe) caiff Bruce ei ymarfer yng nghelfyddyd ymladd fel y gall ef, fel hwythau, fynd allan i'r byd i ddinistrio a lladd y drwg er lles y da..

"Rhaid trechu'r rhai sydd heb rinwedd gyda grym nerthol," meddir gan ychwanegu fod y drwg yn ffynnu oherwydd parodrwydd cymdeithas i geisio eu 'deall'.

Addysgir Bruce i wynebu ei ofnau a'i euogrwydd ei hun ac "i godi ofn ar y rhai hynny sy'n pesgi ar yr ofnus".

Ond, er ei fod yn tyfu'n ymladdwr medrus dydi o ddim mor sicr ynglŷn â daliadau lled-ffasgaidd ei hyfforddwyr ac mae ei ymadawiad â'r deml ar y mynydd yn un ffrwydrol iawn!

Ar ei ddychweliad i dref ei febyd, Gotham City, lle gwnaeth ei dad ariannog gymaint o ddaioni, gwêl fod y lle yn nwylo'r drwg sy'n byw yn fras ar lygredd a chyffuriau a hynny'n peri iddo droi'n ymladdwr cudd dros ddaioni gyda chymorth yr un plismon gonest, Jim Gordon (Gary Oldman); dyfeisydd athrylithgar (Morgan Freeman) sy'n ein hatgoffa o 'Q' ffilmiau James Bond a'r gyfreithwraig a oedd yn gyfaill mebyd iddo, (Katie Holmes).

Y frwydr hon sy'n dod a'r ffilm i'w therfyn ond Batman, hyd yn hyn, heb ei Robin traddodiadol ond, yn hytrach, yn dibynnu ar hen fwtler y teulu i'w gynnal (Michael Cain).

Ond y mae yna awgrym o Robin posibl ar gyfer ffilm neu ffilmiau'r dyfodol os bydd rhai.

Y canlyniad
Weithiau, mae ffilmiau antur a chyffro yn ymhonni bod â rhyw sylwedd ynddyn nhw - ond dyma ffilm sylweddol sy fel pe byddai'n ceisio rhoi'r argraff nad yw ddim amgenach na'r ffilm antur arferol.

Ond mae sawl haen tu ôl i'r ffrwydradau, y cyffro, y dyrnu a'r rasio gwyllt.

Mae dehongliad Christian Bale o wewyr Bruce Kent wrth weld popeth sy'n dda a hyrwyddwyd gan ei dad dyngarol yn ddirdynnol fel ei wewyr, hefyd, wrth geisio gwahaniaethu yn ei feddwl rhwng y frwydr i ddial a'r frwydr am gyfiawnder.

Trwy geisio ymddangos yn arwynebol llwydda Batman Begins i ddigoni'r sawl sy'n chwilio am sylwedd yn ogystal â'r sglaffwyr cyffro.
Nid bechan o gamp yw honno.

Y darnau gorau
Fel mae disgwyl y dyddiau hyn, mae'r nifer o olygfeydd ffrwydrol ac ymladdfeydd dwrn wrth ddwrn yn mynd a gwynt rhywun.

Er yn atgoffa rhywun o'r olygfa yn Spiderman 2 mae'r ymdrech i atal taith bendramwnwgl y trên i ddistryw yn llawn tyndra gwirioneddol.

Perfformiadau
Heb os mae Christian Bale yn rhagori fel yr arwr ei hun ac mae'n ffodus yn yr actorion gwiw eraill sy'n cyfrannu at y ffilm.

Neb yn rhagorach na Morgan Freeman fel y 'Q' o ddyfeisiwr, Lucius Fox.

Yn y pegwn arall mae Cillian Murphy yn ddihiryn heb ei ail; ac mewn gwrthgyferbyniad llwyr, ni ellid gwell na Gary Oldman fel yr unig blismon gonest sydd ar ôl yn Gotham City.

Mae min hefyd i berfformiad Liam Neeson.

Rhai geiriau
"Yr wyt ti wedi dysgu cuddio dy euogrwydd gyda dicter - fe wna i dy ddysgu di ei wynebu."

"Y mae cyfiawnder yn ymwneud a chytgord - ffordd o wneud i ti dy hun deimlo'n well ydi dial.""Cadw'r bobl ddrwg mewn cyfoeth a'r bobl dda mewn ofn."

"Pam 'rydym ni'n syrthio? Er mwyn dysgu codi'i fyny wedyn."

Gystal â'r trelar?
Yn rhoi mwy na'r rhuthro a chyffro awgryma hwnnw.

Ambell i farn
Mae'r ganmoliaeth yn eithaf cyffredinol a'r beirniaid wedi hoffi ymrafael Batman ag ochr ddu ei gymeriad

Tipyn o hanes
Er bod pawb yn cyfeirio at Batman Begins fel y bumed ffilm Batman mae mwy na hynny o hanes sinemâidd i Batman mewn gwirionedd.

Fe'i gwelwyd y sgrin fawr gyntaf mewn dwy stori gyfres yn cael ei chwarae yn 1943 gan Lewis Wilson ac wedyn, yn 1949, gan Robert Lowery.

Cafodd y cymeriad hwb unwaith eto mewn cyfres deledu rhwng 1965 a 1967 yn cael ei chwarae gan Adam West gyda Burt Ward yn Robin - gyda'r geiriau Pow! Kerrunch! a'u tebyg yn ymddangos ar y sgrin gyda phob peltan a dyrnod.

Yn 1989 gwelwyd Batman ar y sgrin fawr unwaith eto gyda dwy ffilm gan Tim Burton yn cael eu dilyn gan ddwy arall gan Joel Schumacher gyda Michael Keaton a George Clooney yn gwisgo'r fantell - ond go brin y gellid dweud i'r ffilmiau hynny fod yn yr un cae a hon ac yn sicr doedden nhw ddim yn cynnig cymaint o waith i'r cil â Batman Begins.

Cysylltiadau Cymreig!
Yn Hwlffordd, Ionawr 30, 1974, y ganwyd Christian Bale - ei dad yn beilot a'i fam yn ddawnswraig.
Mewn un cyfweliad dywedodd fod y bwthyn lle'i ganwyd ar ochr clogwyn ac angen gyrru trwy ddau gae o datw i'w gyrraedd!

Ond yn Lloegr y treuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod gan symud wedyn i'r America.

Ymddangosodd yn Empire of the Sun ac American Psycho

Cadwch eich llygaid yn agored hefyd am Spencer Wilding chwe troedfedd saith modfedd o'r Rhyl. Yn bencampwr bocsio traed Prydain y llynedd mae o'n un o ymladdwyr Brodyr y Cysgodion.

Cynt, bu'n fleidd-ddyn yn y Prisoner of Azkaban ac yr oedd iddo ran yn The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Wedi gadael ysgol bu'n astudio peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Llysfasi.

Gwerth mynd i'w gweld?
Heb os. Bydd y CD yn rheidrwydd hefyd pan fydd ar gael.


Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý