Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


The Motorcycle Diaries
Teithio tua delfryd

15

Pum seren

Y sêr
Gael Garca Bernal, Rodrigo De La Serna, Ma Maestro, Mercedes Morán, Jorge Chiarella

Cyfarwyddwr
Walter Salles

Sgrifennu
Jose Rivera

Hyd
125 munud

Sut ffilm
"Nid ffilm am weithredoedd arwol yw hon ond hanes dau gyfaill y mae eu bywydau yn rhgedeg ochr yn ochr am ychydig," meddir ar y cychwyn.

Ffilm Sbaenaidd delynegol gydag is-deitlau am ieuenctid a delfrydiaeth; yn gymysgedd o hiwmor, dwyster a golygfeydd trawiadol yn olrhain taith fotobeic dau gyfaill drwy Dde America yn 1952 gyda'r hyn a welant yn eu newid am byth.

Y stori
Y ddau gyfaill ydi Ernesto 'Che' Guevara (Gael Garca Bernal) ac Alberto Granado (Rodrigo De La Serna) - y ddau o deuluoedd cefnog yn Buenos Aires a'r naill yn fyfyriwr meddygol 23 oed a'r llall yn fyfyriwr biocemeg sy'n edrych ymlaen at ei barti pen-blwydd yn 30 oed.

Maen nhw'n cychwyn o'u cartref yn Buenos Aires ar daith sy'n mynd a nhw drwy Ariannin i Venezuela a hynny ar gefn hen fotobeic Norton 500 cwbl annibynadwy maen nhw wedi ei fedyddio, gyda'u tafod yn eu boch, yn, La Poderosa - "Yr un nerthol".

Yn ystod eu taith dros yr Andes i Chile, drwy anialwch Atacama ym Mheriw ac ymweliad a dinas hynafol yr Inca, Machu Picchu, maen nhw' yfed, yn gloddesta, yn dawnsio ac yn mercheta ond hefyd yn dod i adnabod pobl ac amgylchiadau gwahanol iawn i'w cynefin breintiedig hwy eu hunain a hynny yn deffro eu hymwybyddiaeth gymdeithasol a gwleidyddol.

Daw'r daith i ben gyda thair wythnos mewn 'ysbyty' i wahanglwyfion ar lannau Afon Amazon.

Y canlyniad
Er mai pennaf apêl y ffilm yw'r ffaith mai Che Guevara ydi un o'r ddau deithiwr hoffus mae'n stori sy'n mynd i apelio hefyd at y rhai hynny na wyddant ddim am na Che na'i hanes gan ei bod yn gweithio fel stori am y trawsnewid sy'n dod i ran dau berson ifanc cyfforddus eu byd wrth iddynt ddod i gysylltiad â chaledi a dioddefaint gwerin gwlad ac ochr llai dymunol bywyd.

Mae'n ffilm sy'n gyforiog o ddelfrydiaeth

Yn amlwg mae i'r ffilm, fel y dyddiaduron eu hunain sydd ar gael mewn print, arwyddocâd pellach o sylweddoli mai sôn yr ydym am ddeffroad cymdeithasol-wleidyddol un o eilunod mwyaf y chwedegau ac un y mae i'w wyneb arwyddocad hyd heddiw er iddo gael ei ladd drwy law y CIA yn Bolivia, fis Hydref 1967.

Un o ganlyniadau'r ffilm yw ei bod yn deffro unwaith eto y drafodaeth ynglŷn â Che Guevara a ddaeth yn gymaint eilun i ddelfrydwyr asgell chwith yn ystod ei fywyd ac wedi hynny - diolch yn rhannol i'r llun eiconic ohono sydd wedi addurno cymaint o grysau T a phosteri.

Heb os cafodd ei ddelfrydu - ei Gristeiddio hyd yn oed - y tu draw i bob rheswm wrth i'w garisma a'i ddelfrydau gipio dychymyg gwrth-sefydliadol ieuenctid y chwedegau.

O ganlyniad mae tuedd i anghofio weithiau ei fod hefyd yn filwr a benderfynodd mai trwy rym milwrol mae newid y byd a dod â thegwch iddo. Yn y ffilm hon mae'n cael ei ddyfynnu yn dweud, "Allwch chi ddim cael chwyldro heb ynnau."

Y darnau gorau
Yn ffilm sy'n asio'n gelfydd mae'n gweithio fel cyfanwaith.

Mae'r nofio yn y nos i'r gwersyll gwahanglwyfion yn afaelgar - er heb ddigwydd yn yr union ffordd ddramatig a ddarlunnir yn y ffilm.

Mae cychwyn y daith gyda'r motobeic ond yn osgoi bws cyn cyrraedd pen y stryd yn rhagflas o'r hwyl a'r rhyfyg sydd i ddod.

Perfformiadau
Mae'r beirniaid yn unfryd ynglÅ·n a dehongliad trawiadol a chraff Gael Garca Bernal o'r Che mewnblyg, asthmatig ond carismataidd. Mae Rodrigo De La Serna yn wrthbwynt yr un mor drawiadol fel yr Alberto allblyg, rhyfygus.

Er ein bod yn sôn am drobwynt yn nhaith bywyd dydi hynny ddim yn esgor ar ffilm drymaidd ond un hawdd ymgolli ynddi gydag elfennau o hwyl hefyd. Gystal â'r trelar?
Heb weld un.

Ambell i farn
Hyd yn oed ymhlith y rhai hynny na fyddent yn cydymdeimlo a gweledigaeth wleidyddol Guevara mae'r ffilm hon yn cael ei gwerthfawrogi'n gyffredinol fel telyneg glasurol.

Trueni na fydd i'w gweld mewn mwy o sinemâu ond wedi ei neilltuo, oherwydd ei hiaith, i rai'r ymylon gan wneud iddi ymddangos fel rhywbeth nad yw o werth ond i ddetholedigion.

Cyflymdra
Pennaf, ac unig, ddiffyg y ffilm yw fod yr is-deitlau yn gadael y sgrîn yn rhy sydyn. Weithiau mae'r print gwyn ar gefndir gwyn hefyd!

Ffilmiau eraill
Ac yntau wedi ei ddyrchafu yn gymaint o eilun mae'n syndod cyn lleied o sylw a gafodd Che Guevara yn y sinema.

Fe'i gwelir yn storïwr yn Evita a rhyddhawyd ffilm digon erchyll, Che gydag Omar Sharif rai blynyddoedd yn ôl a Jack Palance fel Castro.

Y sôn tyw fod ffilm arall yn dweud hanes ei fywyd ar y gweill ar gyfer ei rhyddhau y flwyddyn nesaf ond bydd honno yn gowdel llawer anos na'r dyddiaduron hyn gan y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anos ynglŷn â'r dehongliadau o'r cymeriad cymhleth hwn.

Gwerth mynd i'w gweld?
Rhaid ei gweld.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý