Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Y Lleill
Rhywbeth i rywun arall . . .

Un seren

Y sêr
Rhian Green, John Reynolds, Gethin Evans

Cyfarwyddwr
Emyr Glyn Williams

Hyd
94 munud

  • Adolygiad Rhodri Ll Evans

  • Dyma ffilm ddwyieithog am fand - Y Lleill - o ardal chwarelyddol yng nghefn gwlad Cymru a'i hynt a'i helynt wrth ddatblygu'n rhan (yn fwriadol neu'n anfwriadol) o'r Sîn Roc Gymraeg.

    Mae Y Lleill yn sŵn gwahanol a'u caneuon yn cyfleu angst ieuenctid sy'n byw mewn pentref cysglyd a diflas - ardal sydd fel petai'n mygu creadigrwydd a'r hawl i fynegi.

    Cynnig cyfle
    Felly, er nad yn blot cwbl wreiddiol, mae ei gyd-destunoli â Chymru, y 'Sîn', Cenedlaetholdeb a thranc y Fro Gymraeg yn cynnig cyfle euraidd i fynegi neges o sylwedd i'r gynulleidfa ynghylch llawer o faterion cyfoes yn ogystal â'u diddanu.

    Yn anffodus, mae'n gyfle a gollwyd.

    Haeddu canmoliaeth
    Teg crybwyll rhai o'r pethau sy'n haeddu canmoliaeth cyn dechrau gweld bai.

    Mae'r trac sain yn un gwreiddiol, amrywiol a chwbl berthnasol ac wedi ei briodi â'r golygfeydd ar y sgrin yn bur effeithiol.

    Roedd ffilmio yn ardal naturiol dywyll Stiniog, gyda'i chwarel a'i thomenni, yn ffordd effeithiol o gyfleu diflastod y cymeriadau ac awch rhai ohonynt i dorri'n rhydd.

    Gyda gofid diffuant, mae'n rhaid imi gyfaddef mai hynna o ganmoliaeth sydd yna!

    Dwy iaith
    Hysbysebwyd y ffilm fel un 'ddwyieithog' - popeth yn iawn, tybiais. Mae sawl ffilm o Gymru sy'n ddwy (neu dair, weithiau) ieithog ac wedi bod yn hynod lwyddiannus.

    Nid yw'r ffaith i fwy nac un iaith gael ei defnyddio fennu dim arnynt.

    Gwn nad ydynt yn yr un cae â'r ffilm hon - nac yn amcanu bod chwaith - ond mae ffilmiau fel Branwen a Solomon a Gaenor yn enghreifftiau gwych o sut y cyfoethogir ffilm gan y defnydd o fwy nag un iaith.

    Ond yn achos Y Lleillni chredaf i'r dwyieithrwydd weithio o gwbl - waeth beth fo'i amcan.

    Mae'r cymeriadau yn newid o'r Gymraeg - ac nid Cymraeg 'sâl' - i'r Saesneg yn fympwyol ac heb unrhyw reswm call dros wneud hynny.

    Hyd yn oed wrth siarad Saesneg roedd gan bron bob un o'r cymeriadau acen drwchus Gymraeg nad oedd, yn y pen draw, yn gwneud dim i'r ffilm. Dim ond ychwanegu at ddryswch.

    Cefais fy hun yn chwerthin mewn mannau nad oedd yn fwriadol ddoniol - oherwydd i'r ddeialog swnio mor hurt.

    Pan oedd un o'r cymeriadau'n rhegi, roedd rhyw ymdrech dros ben llestri i boeri pob 'ff' a hynny ond yn ychwanegu at annaturioldeb y ddeialog.

    Petai'r ffilm wedi ei lleoli mewn dinas, neu ardal lle mae'r Gymraeg dan fwy o fygythiad nag ardal y ffilm, yna efallai y buasai'r dwyieithrwydd wedi bod yn ffordd effeithiol o gyfleu cyflwr bregus yr iaith.

    Os mai hynny oedd nod drwy ei lleoli yng nghefn gwlad - nid oedd yn ddigon amlwg.

    Ac ni fu'r actio, chwerthinllyd ar adegau, o unrhyw gymorth i'r ddeialog ffals, annaturiol, ychwaith.

    Ac nid yr action ifanc yn unig oedd ar fai ond actorion sy'n wynebau cyfarwydd ar ein setiau teledu.

    Roedd aelodau'r band - Pati, Robert, Dyl a rhyw ddelw mud arall, yn gymeriadau i'w dioddef yn hytrach nac yn rhai i gydymdeimlo neu uniaethu â hwy.

    Darllediad gwleidyddol
    O bosib mai un o'r prif resymau dros fethiant yr ymgais hon i 'ddweud neges' yw'r ffaith i'r agenda wleidyddol, gymdeithasol a diwylliannol fod yn llawer rhy ymwthiol.

    Yn sicr, gellid fod wedi cyflwyno'r neges yn llawer cynilach ac ar adegau, roeddwn yn grediniol fy mod yn gwylio darllediad gwleidyddol yn hytrach na ffilm.

    Un pwnc o sylwedd, fodd bynnag, oedd y ddadl ynglŷn â'r dewis i ganu yn Saesneg ai peidio - ac fe ellid fod wedi cyflwyno'r ddadl hon hefyd yn llawer cynilach hefyd. Byddwn wedi hoffi'n fawr medru canmol y ffilm hon ond gydag actio gwan, sgript waeth a diffyg cynildeb, mae Y Lleill yn anffodus, yn boddi ymhell o fod yn agos at unrhyw lan.


    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý