Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Finding Neverland
Yn hapus yn ein dagrau

15

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Johnny Depp, Kate Winslet, Julie Christie, Freddie Highmore, Dustin Hoffman

Cyfarwyddwr
Marc Forster

Sgrifennu
David Magee

Hyd
101 munud

Sut ffilm
Drama ddagrau sy'n gwneud pawb yn hapus.
Stori lenyddol, ramantaidd, am berthynas y dramodydd, J M Barrie, â gwraig weddw a'i phlant a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r ddrama Peter Pan a gwlad Neverland.

Y stori
Ac yntau a'i ben yn ei blu yn dilyn derbyniad claear i'w ddrama ddiweddaraf, The Admirable Crichton, mae'r dramodydd Albanaidd gyda'r llais melfed, J M Barrie (Depp) yn cyfarfod yn y parc, Sylvia Llewelyn Davies (Winslet), gwraig weddw a mam i bedwar o blant.

Trwy apelio at ei phlant gyda'i ymddygiad plentynnaidd mae'n ennill ei chalon hithau hefyd a daw Barrie, Sylvia a'r plant yn gymaint ffrindiau mae'n treulio mwy o amser gyda nhw na chyda'i wraig bell ac oeraidd ei hun, Mary (Radha Mitchell).

Daw eu priodas dan fwy fyth o bwysau pan fo pobl yn dechrau siarad nid yn unig am berthynas y gŵr priod hwn â gwraig weddw ond ei berthynas â'i phlant hefyd. Ymhlith y rhai sy'n rhybuddio Barrie i ymatal yw ei gyfaill Syr Arthur Conan Doyle.

Ymhlith y Llywelyn Daviesus mae Emma du Maurier, mam Sylvia (Julie Christie) yn elyniaethus i'r berthynas hefyd. Yn gwrthod cael ei swyno gan ei chwarae plentynnaidd, hefyd, mae'r mab Peter (Freddie Highmore) sy'n dal mewn galar ar ôl ei dad.

Daw mwy fyth o ddagrau pan fo Sylvia'n dechrau pesychu'n angladdol a datblygu salwch marwol.

Ond o gael ei dynnu i fywyd diniwed a synhwyrus chwarae plant mae Barrie yn esgor ar ei ddrama fwyaf anghyffredin a mwyaf llwyddiannus am y bachgen bythol ifanc, Peter Pan, a'r wlad Dir na n-Ogaidd, Neverland, lle mae popeth yn bosibl a phob clwyf yn cael ei esmwytháu.

Y canlyniad
Os nad oeddech chi'n credu mewn tylwyth teg cynt . . .

Cynhyrchiad gafaelgar a synhwyrus ac, os braidd yn siwgwraidd, yn cyffwrdd â'r galon.

Ond er mai ffilm am blant ac am ddrama i blant yw hon dydi hi ddim yn ffilm i blant o bell ffordd.

Mae yma edrych hefyd ar y broses greadigol ac mae gwersi hefyd ynglŷn â'n hagweddau tuag at fywyd a nerth y dychymyg. "Mi wnes ti'u dysgu nhw y gall pethau fod yn wahanol trwy smalio," meddir tua diwedd y ffilm.

Ffilm neis ydi hon yn ei hanfod ac er bod bwgan paedoffilia yn llechu yn y cefndir caiff ei gadw'n ddigon pell o'r stori a dim ond y cymhellion mwyaf anrhydeddus sy'n cael eu priodoli i Barrie.

Does dim ymdrech ychwaith i archwilio mewn unrhyw ddyfnder y berthynas ddiffygiol rhyngddo ef â'i wraig.

Y darnau gorau
Yn gyson ddiddorol ond mae teimladrwydd arbennig yn y perfformiad o Peter Pan yng nghartref Mrs Llewelyn Davies.

Perfformiadau
Mae dehongliad Depp o Barrie yn argyhoeddi a Julie Christie yn wych fel mam Sylvia Llewelyn Davies.

Dydi'r ymwneud rhwng Depp a Winslet, fodd bynnag, ddim yn gweithio gystal.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae Dustin Hoffman yntau yn gwneud yn fawr o ran fechan a roddwyd iddo.

Y gwir amdani yw fod hwn yn gynhyrchiad y mae ei berfformiadau yn asio'n dda i'w gilydd heb unrhyw berfformiad gwan.

Mae Depp yn hudolus a swynol ac yn cynnal ei acen Albanaidd i'r diwedd.

Ymhlith y plant mae Freddie Highmore yn rhagorol.

Gystal â'r trelar?
Yn rhoi mwy o foddhad nag â awgrymir.

Ambell i farn
Er yr islais cyson o glod, cymysg yw'r ymateb mewn gwirionedd a neb yn mynd dros ben llestri â'i ganmoliaeth.

Dagreuol heb fod yn sentimental meddai'r Sunday Times sydd, fel sawl un arall, yn sôn am y posibilrwydd o Oscars pan ddaw yn ddydd o brysur bwyso ar gyfer pethau felly.

Canmolodd y Wales on Sunday Depp am beidio â dwyn y sioe a disgrifir Highmore fel "sensational".

Yn addas iawn, mae Gary Slaymaker yn y Western Mail yn tynnu sylw at y sgriptio celfydd a't cyfarwyddo cain.

Rhai geiriau
"Beth yn union ydi trosedd Michael?""Mae o'n frawd iau imi."

Os dowch chi o hyd i lygedyn o hapusrwydd yn y byd mae yna bob amser rywun sydd eisiau ei ddiffodd.

Wrth gwrs wnaiff o ddim gweithio - os na fydd neb yn credu ynddo.

Ffeithiol
Gorau po leiaf ŵyr rhywun am fywyd go iawn J M Barrie gan nad yw cadw'n gaeth at ffeithiau yn un o rinweddau'r ffilm.
Dyma rai pethau i'w hystyried:
Dyn bychan digon diolwg, hyll yn wir, oedd J M Barrie. Nid felly Johnny Depp!
Doedd Sylvia Llewelyn Davies ddim yn wraig weddw pan gyfarfu'r ddau am y tro cyntaf ac yr oedd ganddi fwy na phedwar o blant.



Gwerth mynd i'w gweld?
Ydi'n wir - ond dim ond gyda'r aeddfetaf o'r plant!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý