主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


St Trinian's (2008)
Fel yr oedd nid yw eto

12A

Pedair seren allan o bump

Y s锚r
Rupert Everett, Colin Firth, Russell Brand, Gemma Arterton, Talulah Riley

Cyfarwyddo
Oliver Parker, Barnaby Thompson

Sgrifennu
Piers Ashworth, Nick Moorcroft ar sail lluniau a llyfrau Ronald Searle.

Hyd
101 munud

Sut ffilm
Ymgais i ddod a stori ysgol ferched fwyaf gwallgof ac anhydrin Lloegr i sylw cenhedlaeth newydd o fynychwyr sinema.

Y cefndir
Mae i gartwnau, straeon a ffilmiau St Trinian's ddalen go helaeth yn llyfr hanes hiwmor Saesneg.

Yr athrylith y tu 么l i'r diafoliaid mewn jimslips ydi Ronald Searle ac ymddangosodd y cart诺n cyntaf yng nghylchgrawnLilliput fis Gorffennaf 1941.

Darluniai ddwy ferch ysgol mewn jimslips rhy gwta yn darllen arwydd a ddywedai: "Owing to the international situation, the match with St Trinian's has been postponed."

Ac yntau'n aelod o'r lluoedd arfog ar y pryd ac yn aros yn Kirkcudbright, Yr Alban; gwnaeth Searle y llun er difyrrwch ffrindiau yr oedd dwy o'u merched yn mynychu Academy for Young Ladies yng Nghaeredin o'r enw St Trinnean's.

Aeth y llun i lawr mor dda fe'i hanfonodd yn syth at Lilliput ond yr oedd Searle m芒s yn y Dwyrain Pell pan welodd y defnydd o'i lun gyntaf pan ddaeth o hyd i gopi o'r cylchgrawn ymhlith sbwriel y stryd yn Singapore!

Chlywodd neb ddim oddi wrtho am ddwy flynedd wedyn; tan fis Rhagfyr 1943 ac yntau wedi bod yn garcharor rhyfel.

Ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n darlunio'n gyfrinachol gyflwr ef a'i gyd garcharorion gan guddio'r lluniau rhag y Siapaneaid dan fatresi cleifion yn dioddef o'r Clefyd Melyn.

Wedi'r rhyfel cyhoeddwyd y lluniau hyn mewn llyfr a sgrifennwyd gan garcharor arall, Russell Brandon.

Pan ddaeth heddwch ail afaelodd Searle yn y lluniau o ferched anystywallt ysgol breifat - y cyntaf yn darlunio prifathrawes yn holi'r ysgol; "Hand up the girl who burnt down the West wing last night"

A dyna gychwyn pennod ryfeddol o luniau am ferched gwyllt yn llowcio Gin, smocio a bygwth a dychryn pawb o fewn cyrraedd iddyn nhw.

Bu'r cyfan yn llwyddiant ysgubol gan sbarduno Frank Launder i wneud ffilm amdanynt, The Belles of St Trinian's yn 1954.

Fe'i dilynwyd gan Blue Murder at St Trinian's ('57), The Pure Hell of St Trinian's ('60) a The Great St Trinian's Train Robbery ('66)

Un o nodweddion y ffilmiau hyn oedd mai dyn, yn nhraddodiad y pantomeim, chwaraeai ran y brifathrawes, Millicent Fritton, sef yr anhygoel Alastair Sim a oedd yn chwarae hefyd ei brawd o fwci, Clarence, yn y stori hefyd.

Yn y gyfres hon y daeth actor ifanc o'r enw George Cole i amlygrwydd - yn chwarae rhan Flash Harry flynyddoedd cyn bo s么n o gwbl am Arthur Daley a ddaeth a Cole i gymaint o boblogrwydd ar y teledu yn yr Wythdegau.

Un peth a wn芒i'r ffilmiau yn wahanol i gartwnau gwreiddiol Searle oedd i'r ffilmiau ychwanegu at ferched gwyllt Dosbarth Pedwar Searle ferched aeddfetach y Chweched yn ymffrostio'n bowld ac yn dalog yn eu rhywioldeb.

Yng ngwaith gwreiddiol Searle doedd dim rhyw o gwbl ond yn amlwg y teimlad oedd fod ei angen ar gyfer y sinema ac fe weithiodd i'r dim os yw poblogrwydd y ffilmiau yn ffon fesur.

Cadwyd at nifer o'r elfennau hyn yn ffilm 2007 gan gynnwys Mrs Fritton yn cael ei hactio gan ddyn sydd hefyd a rhan wrywaidd arall yn y ffilm.

Russell Brand ydi Flash Harry erbyn ond rhyw gysgod digon egwan yw e o George Cole.

Y stori
Fel y bu erioedy mae'n parhau; mae St Trinian's mewn trafferthion. Mrs Fritton (Rupert Everett) heb arian i dalu ei dyledion a'r Gweinidog Addysg yn y Llywodraeth, Geoffrey Thwaites (Colin Firth) yn benderfynol ar gau'r sefydliad.

Er mwyn ennill arian i adfer y lle rhoddir cynllun ar waith i ddwyn llun gwerthfawr o'r Amgueddfa Genedlaethol gyda chymorth Flash Harry (Russell Brand).

Wrth gwrs, rhaid wrth ferch newydd i ymuno 芒'r ysgol i'w chamdrin (Talulah Riley) nes ei bod yn ennill ei phlwyf a gwneud argraff ar y Brif Eneth, Kelly (Gemma Arterton).

Y canlyniad
Er gwaethaf ambell i ymdrech i ddiweddaru'r stori gyda chyfeiriadau at smocio baco gwirion yn hytrach na baco mwg ac at gyffuriau dydi'r pethau oedd yn gwneud St Trinian's yn feiddgar ddyddiau ei ieuenctid ddim yn mynd i gyffroi neb erbyn heddiw.

A chyda stori wan a chymeriadau sy'n creu fawr ddim argraff ffilm yw hon sydd ond o ddiddordeb i'r genhedlaeth honno sydd am ei chymharu a'r aflendid godidog a fu yr holl flynyddoedd yna yn 么l pan oedd cynulleidfaoedd yn ddiniweitiach a'r gwylliaid ar y sgrin o'r herwydd yn fwy beiddgar..

Ac mae'n od gorfod dweud fod ffilmiau du a gwyn y Pumdegau yn llawer mwy lliwgar na hon.

Perfformiadau

  • Er mawr syndod, ac yn groes i'r disgwyl, Colin Firth sy'n rhagori fan hyn fel y gwleidydd o Lundain sy'n teithio i'r wlad i roi caead ar biser yr ysgol drafferthus a chwbl afreolus hon sy'n gymaint staen ar gyfundrefn addysg y wlad..
  • Siomedig ydi Rupert Everett fel y brifathrawes ond yn well fel ei brawd seimllyd. Ond go brin bod digon yma i warantu ail ffilm gydag ef.

    Rhai golygfeydd
  • Colin Firth a'r morgrug..

    Gwerth ei gweld Er mwyn cymharu 芒'r gorffennol ac ymdrybaeddu ym moethusrwydd gwybod fod pethau gymaint gwell ers talwm.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall

  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy