主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


In Bruges (2008)
Mwy na saethu a lladd difeddwl

18

Pedair seren allan o bump

Y s锚r
Colin Farrell, Brendan Gleeson, Ralph Fiennes, Clemence Poesy, Jordan Prentice

Cyfarwyddo
Martin McDonagh

Sgrifennu
Martin McDonagh

Hyd
107 munud

Adolygiad Glyn Evans
Pe na byddai ffrind wedi s么n am ymweliad arfaethedig 芒 Bruges mae'n bur debyg mai ffilm arall fyddwn i wedi mynd i'w gweld - Fool's Gold neu Street Kings efo Keanu Reeves a Forest Whitaker mwyaf tebyg.

Yr ymweliad posibl ie; ond yn fwy na hynny y ffaith mai Martin McDonagh yw awdur a chyfarwyddwr In Bruges a drodd y fantol a'm hanfon i Brugge.

Nes i Mrs Thatcher draddodi araith bwysig yma fis Medi 1988 go brin bod fawr neb ohonom wedi clywed am y ddinas bensaern茂ol hardd hon yn ardal Fflemaidd Gwlad Belg ond diolch i Hen Wyddeles John Roberts Williams clywyd brolio mawr wedyn ar Bruges - y golygfeydd hardd, y strydoedd caregog, y dyfrffyrdd llonydd a'u pontydd crwm, yr adeiladau ysblennydd.

Ac yn wir maen nhw i gyd In Bruges.

Tarantino a Beckett
Ond gydag ysbryd Tarantino yn symud drwy'r niwloedd uwch wyneb y dyfroedd a'r cenllysg bwledi yn syrthio mewn cawodydd o waed.

Ond cyn hynny mae sgyrsiau Beckettaidd hudolus a'u hadlais o ddisgwyl Godot rhwng y ddau brif gymeriad, Ray (Colin Farrell) a Ken (Brendan Gleeson) i'n swyno - dau laddwr proffesiynol sydd wedi eu hanfon yno am seibiant rhwng dwy job gan eu trefnydd llofruddiaethau, Harry (Ralph Fiennes).

A'r ymwneud rhwng y ddau yma sy'n gwneud In Bruges yn ffilm mor arbennig. Y ddau yn Wyddelod; Ray yn geiliog ifanc y trodd ei joban ddiwethaf o saethu offeiriad (Ciaran Hinds, er na nodir hynny) yn ei gyffesgell yn stomp llwyr wrth i fachgen bach gael ei ladd hefyd ar ddamwain.

Tra bo Ken yn aeddfed lowcio'n awchus atyniadau twristaidd y ddinas hudolus llawn hanesyddiaeth ar drothwy'r Nadolig mae Ray yn cas谩u pob carreg o'r twll lle a'r casineb hwnnw yn llinyn arian o hiwmor drwy'r holl ffilm a'r ymddiddan rhwng y ddau yn deyrnged i ddawn McDonagh fel dramodydd.
Yn gyfuniad o dreiddgarwch, ffraethineb du a hud geiriau.

Atalnodir y sgyrsiau 'athronyddol' rhwng yr hen law a'r cyw ifanc gan sefyllfaoedd gwirioneddol ddoniol gan gynnwys ffrae sy'n troi'n gwffas rhwng Ray ac ymwelydd o Ganada a'i wraig mewn t欧 bwyta.

Golygfa gofiadwy arall yw'r un rhwng Ray a theulu o Americanwyr brasterog lle mae dyfodiad Ken yn dro gwych yn ei chynffon sydd ond yn un enghraifft o saern茂o crefftus Mcc Donagh.

Mae yma ymdrin 芒 phethau mawr bywyd ac mae yma amarch - gyda'r ffordd yr ydym yn cael ein swyno gan leisiau a geiriau dau mor ddieflig eu gwaith yn rhywfaint o ddychryn.

Mae dwy ran o dair o'r ffilm drosodd cyn tro annisgwyl galwad ff么n Harry yn y stori a dim ond o hynny ymlaen y mae'r trais, y gwaed a'r lladd yn ganolog i'r hyn sy'n digwydd ar y sgrin.

Ond er mor frawychus ddramatig yw hyn y sgrifennu da a'r saern茂o crefftus sy'n cadw rhywun yn ei sedd mewn cymysgedd o edmygedd a syfrdandod hyd at yr eiliad olaf un.

Perfformiadau

  • Mae'r ymwneud rhwng Gleeson dadol, pwyllog a diwylliedig a Farrell anniddig, nerfus, yn rhywbeth i ymhyfrydu ynddo - y ddau mewn cytgord llwyr 芒 geiriau McDonagh yn mesmereiddio gyda sgyrsiau Beckettaidd.

    Bu gyrfa Farrell dan rywfaint o gwmwl yn ddiweddar. Gydag In Bruges mae yn 么l yn haul llygad goleuni a bydd yn rhaid disgwyl yn hir am berfformiad a ddaw i'w ragori yn y sinema eleni.

    Ond ni ddylid anghofio mai perfformiadau cydradd yw ei un ef a Gleeson. Y naill yn hogi'r llall.

  • Ni welwyd Fiennes ychwaith yn well na hyn - ar y naill law yn 诺r ac yn dad ond ar y llaw arall yn lladdwr gorffwyll sy'n colli arno'i hun yn llwyr yn ei wylltineb.

  • Mae Clemence Poesy fel merch bert y mae Ray yn ymserchu ynddi yn gwbl foddhaol mewn rhan nad yw'n trethu llawer arni.

    Golygfeydd
  • Tynnu'n groes ag Americanwyr tewion.
  • Harry a Ray yn y gwesty yn dod i gytundeb - fel dau blentyn yn chwarae g锚m saethu.
  • Ken ar y ff么n gyda Harry yn smalio ei fod yn anfon Ray, nad yw yno, allan o'r ystafell.

    Rhai geiriau
    Gan fod cymaint o'r hyn sy'n drawiadol yn dibynnu ar ei gyd-destun mae'n anodd dewis dyfyniadau sy'n mynd i sefyll ar eu traed eu hunain mewn adolygiad ond dyma ambell un:
  • Pe byddwn wedi fy magu ar fferm ac ddim llawn llathen mi fyddai Bruges yn gwneud argraff arna i - Ray.
  • Roeddwn i'n cas谩u Hanes- Mae'n s么n am lwyth o bethau sydd wedi digwydd yn barod - Ray.
  • Y cyfan ydw i eisiau ydi gwn cyffredin i ladd dyn cyffredin - Harry

    Gwerth ei gweld
    Os na welwch chi ond un ffilm eleni ac yn y blaen . . ..


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy