主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Layer Cake
Byw ar deisen a chyffuriau

15

Tair seren

Y s锚r
Daniel Craig, Kenneth Cranham, Dexter Fletcher, Jamie Foreman, Michael Gambon

Cyfarwyddwr
Matthew Vaughn

Sgrifennu
JJ Connolly

Hyd
105 munud

Sut ffilm
Ffilm front, waedlyd gydag ambell i air cyffredin rhwng y rhegfeydd. Nid rhegfeydd, mewn gwirionedd, gan i'r rhegi gael ei gyfyngu bron yn llwyr i'r un gair Eff sy'n siwr o'i gwneud yn hawdd i bobol heb Saesneg ddilyn y sgyrsiau.

Yn troi o gwmpas y farchnad gyffuriau yn Llundain a rhannau eraill o Loegr gyda chymeriadau na fu'n agos at Ysgol Sul erioed yn byw ar ei gilydd.

O stabl Lock Stock and Two Smoking Barrels a Snatch mae cynhyrchydd y rheini, Matthew Vaughn, yn gyfarwyddwr yn lle Guy Ritchie.

Addasiad o'i nofel ei hun gan JJ Connolly.

Y stori
Penderfyna gwerthwr cyffuriau dienw a hynod lwyddiannus (Daniel Craig) ei bod yn bryd iddo ymddeol cyn i'w lwyddiant droi'n chwerw a chyn cyrraedd ei ddeugain oed.

Ond mae am gwblhau un d锚l fawr cyn mynd ac, yn erbyn ei wirfodd, yn cael ei orfodi gan farwn cyffuriau (Kenneth Cranham) i ddod o hyd i ferch adictaidd cyfaill o farwn arall (Michael Gambon).

Aiff pethau o ddrwg i waeth i'r prif gymeriad wrth iddo dynnu'n groes 芒 gwneuthurwyr ecstasi o Serbia, giangstars o Lundain a Lerpwl a lladdwr proffesiynol oeraidd sy'n berffeithydd yn ei faes.

Y canlyniad
Llifeiriant heb ei atal o fryntni, gwaed, rhegfeydd, lladd clinigol, cnocio pennau yn erbyn waliau ac ambell i frawddeg fachog.

Ffilm gwbl amddifad o egwyddorion.

Heb yr un cymeriad y gellir cymryd ato - ond mae golygfa olaf ysgytiol yn peri i rywun ailfeddwl y mymryn lleiaf yngl欧n a hynny.

Mae'r naratif weithiau yn ddryslyd ac yn cael ei chymhlethu gyda gormodedd o 么l-olygfeydd.

Y darnau gorau
I'r sawl sy'n mwynhau gwaed yn sbrencian wrth i fwledi gyrraedd eu nod neu wrth i bennau gael eu cnocio'n ddibaid yn erbyn pethau caled mae digonedd o ddarnau gorau.

O ran gwir ysgytwad - yr olygfa olaf un ar risiau'r t欧 bwyta moethus.

Disgwyl am y lladdwr cudd yn y parc.

Perfformiadau
Yn brif gymeriad mae Daniel Craig yn chwarae'i ran yn dda - "Nid giangstar ydw i - dyn busnes, y mae ei gynnyrch yn digwydd bod yn goc锚n."

Gwell fyth yw Michael Gambon fel y llwynog o farwn cyffuriau sydd gam ar y blaen i'w elynion ond yn ddigon call i sylweddoli mai peth bregus yw llwyddiant yn y maes hwn.

Ef sy'n egluro arwyddoc芒d y teitl - fod i fywyd haenau fel teisen a'r llwyddiannus yn byw ar yr haen uchaf. Ond am ba hyd?

Gystal 芒'r trelar?
Mae syrffed o'r hyn a addewir yn y trelar.

Ambell i farn
Y rhan fwyaf o'r beirniaid o'r farn fod mwy o raen ar hon na Lock Stock a Snatch a bod Vaughn yn rhagori ar Ritchie fel cyfarwyddwr.

Gwnaeth Craig argraff ar y rhan fwyaf o'r beirniaid fel y prif gymeriad ond yn 么l un o feirniaid y 主播大秀 does yma ddim yr un carisma a ffraethineb ag a welwyd yn Snatch.

Gwelodd beirniaid y New Staesman "a certain cynical charm" yma.

Ambell i air
Mewn dialog sy'n aml yn ffraeth a llithrig mae sawl peth cofiadwy.

"Mi allai pobol ddechrau meddwl dy fod ti'n wrywgydiwr, yn defnyddio gair mawr fatha eangfrydedd"

"Nodweddiadol o Loegr - dydi hyd yn oed delwyr cyffuriau ddim yn gweithio ar y penwythnos."

"Paid a phisho yn fy mhoced i a thrio dweud mai glawio mae hi."

Gwerth mynd i'w gweld
Waeth disgwyl am y CD ddim - a chael benthyg honno gan rywun.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
G诺yl Cymru Ddu
G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Si么n a Si芒n
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
拢500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
D茅j脿 Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgr卯n Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
G诺yl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy