Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


The Libertine
Colli ei enaid, ei galon a'i gorff

18

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Johnny Depp, Samantha Morton, John Malkovich, Rosamund Pike, Tom Hollander, Johnny Vegas

Cyfarwyddwr
Laurence Dunmore

Sgrifennu
Stephen Jeffreys - ar sail ei ddrama lwyfan ei hun.

Hyd
115 munud

Sut ffilm
Un o berfformiadau gorau erioed Johnny Depp meddai rhai - ac y mae hynny'n ddweud go fawr am seren Neverland, Charlie and the Chocolate Factory ac yn y blaen.

Yn sicr ei ddehongliad trawiadol a grymus ef o'r brawychus John Wilmot, Ail Iarll Rochester, yw angor The Libertine.

Y stori
Byddai'n fuddiol gwybod dipyn am gefndir Libertine y teitl cyn mynd i'r sinema.

Mae John Wilmot, Ail Iarll Rochester, yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar a dadleuol llenyddiaeth Saesneg. Yn cael ei adnabod fel Yr Iarll Drwg - "The Wicked Earl" - oherwydd ei fercheta a'i fywyd afradlon, ei farddoniaeth a'i ddramâu anllad a'i anffyddiaeth ronc nid oedd ond yn 32 oed pan fu farw o effeithiau haint rhywiol ac llymeitian yn 1680.

Dim ond ar ei wely angau y ceisiodd edifeirwch.

Ei ddarn enwocaf o farddoniaeth oedd A Satyr [satire] Against Mankind , ymosodiad crafog ar ddynol ryw.

Yr oedd yn gymeradwy ac yn wrthun bob yn ail yng ngolwg y Brenin Charles yr ail ac wedi ei alltudio fwy nag unwaith ganddo o'i lys.

Dywedodd Horace Wapole amdano ei fod yn ddyn yr oedd yr awen yn ei chwennych ar y naill law ond yn cywilyddio rhagddo ar y llaw arall.

Am ei waith, dywedodd hefyd bod yna fwy o anlladrwydd nag o ffraethineb yn ei gerddi.
Mwy o ffraethineb nag o farddoniaeth - a mwy o farddoniaeth nag o foneddigeiddrwydd.

Er yn noddwr beirdd a dramodwyr yr oedd yn casáu y bardd Dryden ac y mae hanes iddo dalu i dri dyn ymosod ar hwnnw liw nos yn Covent Garden.

Pan fo'r ffilm yn cychwyn mae Rochester (Johnny Depp) newydd gwblhau tri mis o alltudiaeth blwyddyn a Charles ( John Malkovich) yn maddau iddo a'i wahodd eto i'w lys.

Bwriad Charles, sydd ym merw pob math o drafferthion cyfansoddiadol, yw perswadio Rochester i siarad ar ei ran yn NhÅ·'r Arglwyddi - "You could make great speeches that influence events." - a chreu perfformiad llwyfan i greu argraff ar Lysgennad newydd Ffrainc yn Llundain.

Ei ymateb yw llwyfannu cynhyrchiad gyda'r mwyaf beiddgar ac anllad.

Blynyddoedd olaf Rochester .sydd dan sylw yma a chyflwynir darlun brawychus o eithafrwydd ffiaidd ei ddarostyngiad moesol a chorfforol wrth i'w gorff hagru a dadfeilio y tu draw i adnabyddiaeth dan chwip y ddiod a'r frech fawr, siffilis.

Mae pedair merch allweddol yn ei fywyd.

  • Ei wraig Elizabeth (Rosamund Pike) a gipiwyd oddi ar ei rhieni yn ferch ifanc ac a erys yn ffyddlon iddo, er gwaethaf ei fercheta. Hi sy'n ei ymgeleddu ar ei wrely angau.
  • Perthynas elyniaethus yw'r un â'i fam, oeraidd, hunangyfiawn (Francesca Annis) "Yr ydym ni sydd yn y bendefigaeth yn codi uwchlaw gwendidau'r cnawd," meddai.
  • Ei hoff butain (Kelly Reilly)
  • Yr actores Lizze Barry (Samantha Moreton) y mae'n hyrwyddo ei ffordd i fod yn un o actoresau mwyaf blaenllaw y dydd ar adeg pan oedd gwrthwynebiad hyglyw i ymddangosiad merched ar lwyfan.

    Y canlyniad
    Perfformiad theatraidd ar ffilm yn darlunio dyn sydd, meddir, yn colli yn eu tro, ei enaid, ei galon ac wedyn ei gorff.

    O ran strwythur ac o ran deialog dewiswyd cadw at naws theatraidd drama wreiddiol Jeffreys gyda deialogi llenyddol a llu o frawddegu a dywediadau ffraeth a bachog.

    Peryg y bydd rhai yn cael hon yn ormod o bwdin i'w dreulio'n hawdd o'i chymharu â natur arferol ffilmiau y dyddiau hyn.

    Ond mae'n werth aros gyda hi pe na byddai ond er mwyn edmygu mawredd perfformiad Depp.

    Y darnau gorau
    Mae sawl rhan ysgytwol gan gynnwys:
  • Dirywiad corfforol Rochester ac yn enwedig ei anerchiad yn NhÅ·'r Arglwyddi.
  • Y ddrama lwyfan lle mae Charles yn cael ei ddarlunio fel cala coeg enfawr.
  • Ymateb huawdl y gynulleidfa i berfformiad sâl mewn theatr.

    Perfformiadau
    Er mai ffilm Depp yw hon mae'n bwysig dweud nad oes yna yr un perfformiad sâl.

    Mae John Malkovich - a chwaraeodd ran Rochester ar y llwyfan yn yr Unol Daleithiau - yn benigamp fel y brenin a'r cyd chwarae rhyngddo a Depp am wledd.

    Gwyliwch hefyd am Johnny Vegas fel Sackville, cyfaill seimllyd Rochester.

    Ond mae'r cyfan yn troi o amgylch Depp.

    Gystal â'r trelar?
    Heb weld un.

    Ambell i farn
    Does dim pall ar y ganmoliaeth i Depp.
  • Dyma un o berfformiadau gorau ei yrfa yn ôl gwefan y Ö÷²¥´óÐã.
  • "Perfformiad grymus" oedd dyfarniad yr Observer sydd hefyd yn canmol perfformiad teimladwy Samantha Morton fel yr actores Lizzie Barry.
  • Ond gwelwyd perfformiad Depp yn cael ei ddisgrifio hefyd fel un trymaidd ac undonog. Pawb a'i farn!
  • Wrth gydnabod nad yw hon yn ffilm 'hawdd' gyda'i phwyslais ar y llenyddol a'r theatraidd dywedodd beirniad arall: "Mae'r wobr yn un sylweddol i'r sawl a all ddal ati i wylio." .

    Rhai geiriau
  • Geiriau agoriadol Rochester gyda'r mwyaf trawiadol, yn syth at y gynulleidfa: "Wnewch chi mo'n hoffi i," meddai.
  • Dos i dreulio'r nos gyda hwren - un fawr a seimllyd.
  • Wnes ti fy ngholli i?
    Mi wnes i golli'r arian.
    "Dai awn - does gen id dim i'w ddweud wrth butain sentimental."
  • Byddai pob dyn yn llwfr pe byddai'n ddigon dewr.
  • Yr wyf yn dy gondemnio i fod yn ti dy hun am weddill dy ddyddiau!.

    Gwerth mynd i'w gweld?
    Ydi'n wir - os yn chwilio am gig yn hytrach na bwyd llwy!



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý