Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Elizabeth: The Golden Age (2007)
Rhamant, cynllwyn, arwriaeth a thatws

12A

Tair seren allan o bump

Y sêr
Cate Blanchett, Clive Owen, Samantha Morton, Geoffrey Rush, Abbie Cornish

Cyfarwyddo
Shekhar Kapur

Sgrifennu
William Nicholson, Michael Hirst.

Hyd
115 munud




Sut ffilm
Rhamant, cynllwyn, arwriaeth a thatws yn llys yr wyryf enwocaf i fod yn frenhines Lloegr - a ffilm sy'n gwneud ichi holi faint fydd hi nes bydd Cate Blanchett yn chwarae rhan Mrs Thatcher mewn ffilm am y 'frenhines' wleidyddol honno.

Y stori
Er ei bod bron i ddeng mlynedd ar hugain (30) yn hynach na phan welsom ni hi o'r blaen yn llances ifanc yn ei hugeiniau yn Elizabeth (1998) dydi'r Elizabeth Gyntaf (Cate Blanchett) ddim wedi heneiddio odid ddim ac mae'n dal mor ddeniadol wyryfol ag erioed yn rheoli ei theyrnas yn haearnaidd gyda'r awgrym lleiaf o'r tegwch hwnnw sy'n gwneud y Saeson yn gymeriadau mor hawdd cymryd atyn nhw.

A hithau'n awr yn 55 oed mae Syr (cyn diwedd y ffilm) Walter Raleigh (Clive Owen) newydd ddychwelyd o'r America gyda sachaid o datws sy'n mynd i drawsnewid cinio ysgol am byth wedyn a choflaid o ddail baco sy'n mynd i drawsnewid toiledau ysgol am byth wedyn.

Yn naturiol, mae'r frenhines yn syrthio mewn cariad gyda'r anturiaethwr golygus sy'n taflu ei glogyn dros bwll o ddŵr er mwyn arbed ei thraed rhag gwlychu ac ar ennyd dawel mae'n cyfaddef iddo ei bod yn ysu am fywyd mwy naturiol o gariad, priodas a phlant.

Ond nid felly mae hi i fod gan fod Walt yn syrthio mewn cariad a Bess (Abbie Cornish), prif forwyn (Lady in Waiting) y frenhines.

Yn waeth byth mae'r Pabyddion a Mary Brenhines y Scotiaid (Samantha Morton) yn cynllwynio i'w diorseddu mewn cydweithrediad a Philip II (Jordi Molla), brenin Sbaen sy'n trefnu i anfon ei lynges enfawr (Yr Armada) i ymosod ar Loegr a dymchwel Elizabeth.

Fel y gwyddom, weithiodd hynny ddim diolch yn bennaf, yn ôl y ffilm hon, i wrhydri rhyfeddol Walt sy'n neidio i'r dŵr a nofio dan yr Armada er mwyn . . . wel, dydi hi ddim yn eglur iawn pam; ond dyna wnaeth o.
A mynd am fygyn a phryd iawn o stwnsh tatws wedyn - Na, na, jyst jocan.

Beth bynnag, swm a sylwedd y cyfan yw i'r Armada fynd dan y don, i Mary golli'i phen yn llythrennol ac yr ydym ni'n awr bedwar can mlynedd yn ddiweddarach yn ymladd ein brwydrau ein hunain yn erbyn baco sy'n ein lladd a thatws sy'n ein gwneud yn rhy dew.
A hynny ddim ond yn un o'r ffyrdd y mae'r ffilm hon yn rhoi persbectif i Hanes.

Y canlyniad
Mewn gair; siomedig
Hynny'n bennaf oherwydd na allwn ymroi i'r cymeriadau a theimlo bod gennym ots o gwbl beth a ddigwydd iddyn nhw.

Ac y mae yma ymdrech rhy amrwd i greu cyffelybiaeth rhwng y bygythiad o Sbaen a bygythiadau terfysgwyr modern a'r pwyslais ar y syniad o degwch sy'n rhan mor anhepgor o Brydeindod a'i barch tuag at ryddid i fynegi barn a goddefgarwch tuag at y rhai sy'n anghydweld hyd yn oed.

Ond fe lwyddodd y ffilm i gyffroi'r dyfroedd ymhlith Catholigion trwy ddarlunio Pabyddiaeth y cyfnod fel rhywbeth peryglus yn wleidyddol a chrefyddol.

Ar y rhaglen radio Bwrw Golwg 4 Tachwedd 2007 Evan Morgan o Gaerdydd fu'n rhoi ymateb:


"Yn gyffredinol roedd yn ffilm braidd yn siomedig - roedd yr holl gynhwysion yno, roedd yr actio yn wych, Cate Blanchett yn mynd am ei Hoscar, ac wedyn yr holl wisgoedd a sut yr oedden nhw wedi saethu'r ffilm, golygfeydd rhagorol ond eto doedd yna ddim rhyw fath o sbarc yn ffilm am gyfnod mor gyffrous, mor dywyll yn ein hanes fel Prydain Fawr," meddai.

Ychwanegodd fod y ffilm gyntaf - yn 1998 - yn un llawer iawn mwy cyffrous ac yr oedd yn feirniadol na chrëwyd "cymeriadau sy'n argyhoeddi".

"Yr oedd hi yn fformiwlaig iawn yn dilyn rhyw batrwm ac yr ydym yn gweld Elizabeth ar gefn ei cheffyl yn annog ei phobl yn debyg iawn i rhyw groesiad rhwng Margaret Thatcher a Harry'r Pumed . . . roeddwn i'n disgwyl ei chlywed yn gweiddi The lady's not for turning!'," meddai.

Dywedodd ei fod yn cael anhawster cydymdeimlo gyda phrotest Catholigion yn erbyn y ffilm.

"Os ydych chi'n edrych ar yr hanes yr oedd hwn yn gyfnod ofnadwy o dywyll ac yr oedd y Vatican yn awyddus iawn ar y pryd i gofleidio Prydain yn ôl i'r gorlan Babyddol ond beth sy'n bwysig i'w gofio yw fod y ffilm wedi ymdrechu i wneud rhywbeth allan o rywbeth nad oedd ddim yna - mae'r blyrb [yn dweud] 'The destructive wind of fundamentalist Catholicism' a dwi'n meddwl fod y cyfarwyddwr wedi trio yn rhy galed efallai i ffendio rhyw bararel a'r oes sydd ohoni heddiw," meddai.

Yn fwy o loes iddo ef na'r na'r darlun o Gatholigrwydd oedd y darlun annheg o frenin Sbaen a'r Sbaenwyr:

"Yr oedden nhw'n cael eu darlunio fel rhyw popinjays ond mae'n rhaid cofio mai ffilm sydd yma nid rhaglen ddogfen ac mewn unrhyw ffilm Hollywood mae'r bobl ddrwg yn cael eu portreadu fel pobl od ," meddai.

Ond dywedodd mai'r gwir amdani oedd fod Phillip mewn gwirionedd yn frenin pwerus a chymhleth iawn a oedd yn cymryd ei gyfrifoldebau fel brenin yn gwbl o ddifrif er yn cael ei bortreadu fel ffŵl fan hyn.

"Ond allai o ddim bod yn ffŵl gan fod Sbaen y wlad fwyaf pwerus yn y byd ar y pryd ac mae'n rhaid fod iddyn nhw rhyw fath o arweiniad arbennig," meddai.

Dywedodd hefyd i'r ffilm droi'n dipyn o Pirates of the Carribean tua'r diwedd gyda'r frwydr yn erbyn yr armada o longau o Sbaen.

Perfformiadau

  • Ni ellir ond diolch i Cate Blanchett am ddod a thipyn o dân a chynnwrf i'r ffilm gyda pherfformiad sy'n gyfuniad o Joan d'Arc a Mrs Thatcher a does bosib y bydd hi'n hir iawn cyn y gwelwn ni hi yn ail fyw hanes y ddynes honno hefyd yn anfon ei Harmada hithau i bellafion de'r Iwerydd. Hynny, a threchu glowyr sy'n fygythiad i'r deyrnas gartref.
    Mae'n rhan y gallai ei chwarae gydag arddeliad.

  • Y cyfan y bu gofyn i Clive Owen ei wneud oedd edrych yn enigmataidd olygus a siarad yn garuaidd - ac mae'n gwneud hynny'n ddifai.

  • Un o ddynion y cysgodion yn y ffilm yw'r ffuretwr ysbiwyr a'r Machiavelli, Walshingham, sy'n cael ei chwarae'n odidog gan Geoffrey Rush mewn stafelloedd a choridorau tywyll.

  • Mae ein cydymdeimlad, fodd bynnag, gyda Jordi Molla yn gorfod chwarae rhan brenin Sbaen sy'n teyrnasu dros ran helaeth o'r byd fel rhyw wlanen o ddyn penchwiban.

  • Yr oedd y daten, wrth gwrs, yn rhagorol - ond y dail baco, braidd yn llipa.

    Golygfeydd cofiadwy
  • Er bod dynesiad yr Armada yn drawiadol a'i symudiad bygythiol tuag at arfordir Lloegr; siomedig yw'r frwydr fawr ei hun .

    Gwerth ei gweld
    Ydi - ond fe allai fod yna gymaint mwy o dyndra a gwrthdaro.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý