Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


The Village
Arswyd yn y coed

12a

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Bryce Dallas Howard, Joaquin Phoenix, Adrien Brody, William Hurt, Sigourney Weaver

Cyfarwyddwr
M Night Shyamalan

Sgrifennu
M Night Shyamalan

Hyd
108 munud

Sut ffilm
Yn cael ei hysbysebu fel ffilm arswyd ond mae mwy o dyndra nag o arswyd noeth yn ogystal a sawl elfen alegorïol.

Y stori
Mae'n ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1897) yn yr Unol Daleithiau. Dan arweiniad Edward Walker (William Hurt) mae criw o bobl wedi troi eu cefn ar fateroliaeth cymdeithas y trefi gan greu pentref iddyn nhw eu hunain yng nghanol coedwig sy'n gartref i ellyllon brwnt a ffiaidd y cyfeiria'r pentrefwyr atynt, yn eu ieithwedd hynafol, fel "Y Rhai hynny nad Ydym yn Sôn Amdanynt - Those of whom we do not speak".

Eglurir yn fuan yn y ffilm fod dealltwriaeth rhwng angenfilod y goedwig a'r pentrefwyr: "Dydy ni ddim yn mynd i'w coed hwy a dydyn nhw ddim yn dod i'n pentref ni."

Fodd bynnag, liw nos clywir synau codi ofn rhwng brigau'r coed ac mae'r pentrefwyr yn offrymu bwyd a rhoddion i dawelu'r creaduriaid y mae arnynt gymaint o'u hofn.

Yn ŵr ifanc mwy rhyfygus na'i gydbentrefwyr mae Lucius (Joaquin Phoenix) a'i fryd ar fentro drwy'r coed i un o'r trefi i geisio ffisig a all helpu'r pentrefwyr mewn cyfnod o salwch.

Mae hynny'n cyffroi'r creaduriaid sy'n ail-ddechrau ymweld â'r pentref a bygwth y pentrefwyr.

Fodd bynnag, wedi i Lucius gael ei anafu gorfodir ei gariad ddall, Ivy (Bryce Dallas Howard), merch Walker, i fentro i'r goedwig er mwyn achub ei darpar ŵr.

Bydd y rhai hynny sy'n gyfarwydd â ffilmiau Shyamalan yn disgwyl tro yng nghynffon y stori wrth gwrs ac y mae dau ohonyn nhw ond y rheini yn rhai y dywed pob un o'r adolygwyr ffilm eu bod wedi eu rhagweld!

Y canlyniad
Nid ffilm a'i gwynt yn ei dwrn mo hon. Yn null Shyamalan ffilm sy'n mudlosgi yn hytrach na fflamio yw hon gyda'r pwyslais ar dyndra disgwyl yr ofnadwy ac ofn o'r anwybod.

Dydi The Village ddim yn ffilm heb ei hystrydebau gan gynnwys y ferch ddall sy'n 'gweld' mwy na'i chyd bentrefwyr sydd â'r gallu ganddynt i weled.

Ac i godi gwên, mae yma ynfytyn y pentref.

Mae'r Village hefyd yn gyforiog - byddai rhai yn dweud, yn drymlwythog - o alegorïau a hynny, mewn gwirionedd, yn ychwanegu at y mwynhad:
Awgrymir parodi o grefydd ffurfiol gyda rhai o'r pentrefwyr yn gwisgo mewn dillad mynachol, yn cynnal defodau ac yn cynnig 'offrwm' i dawelu'r creaduriaid yn y coed.

Ac ni ellir osgoi'r cwestiwn, ai ffrwyth dychymyg dyn yw ei 'dduwiau'.

Yn barod, bu rhai yn dehongli'r ffilm yng nghyswllt 9/11 gyda'r cwestiwn a all dyn drwy ynysu ei hun, ei ddiogelu ei hun rhag drygau'r byd?

"Gallwch redeg oddi wrth dristwch ond fe ddaw o hyd ichi . . . gall eich harogli," meddai un o'r cymeriadau gan ychwanegu fod y drwg bob amser yn ein plith er gwaethaf popeth a wnawn i geisio amddiffyn ein hunain rhagddo.

Pe na byddai dim arall, mae yma ddigon i gnoi cil arno wrth inni faglu ar draws delweddau ac alegorïau.

Ac yn cynnal y cyfan y mae athrylith cynnal tyndra Shyamalan.

Y darnau gorau
Ivy ddall yn disgwyl ei chariad yn nrws ei thÅ· tra bo creaduriaid y coed yn cerdded y pentref.

Yr ymosodiad gyda chyllell ar Lucius.

Y pydew a'r ymosodiad ar Ivy yn y coed.

Perfformiadau
Heb os, Bryce Dallas Howard yw'r seren ond mae William Hurt yn argyhoeddi fel arweinydd henaduriaid y pentref - llais gwych.

Mae Sigourney Weaver, fodd bynnag, yn cael ei gwastraffu.

Cystal â'r trelar?
Yn well os rhywbeth gan fod hwnnw'n rhoi'r argraff mai arswyd amrwd yn nhraddodiad arferol y gyllell a'r gwaed yw'r arlwy.

Ambell i farn
Er mai cymysg fu'r ymateb mae barn eithaf gyffredin ymhlith yr adolygwyr i Shyamalan chwarae tric yn ormod ar y gynulleidfa y tro hwn gyda'r ddau dro yng nghynffon y stori - ac mae'n syndod faint ohonyn nhw sy'n dweud iddyn nhw weld y diwedd cyn bo'r cyfarwyddwr yn barod

Ond mae yna eithaf cytundeb hefyd bod The Village yn rhagorol o ran cynnal tyndra ac y mae canmoliaeth gyffredinol i'r prif actorion, yn arbennig Bryce Dallas Howard y rhagwelir dyfodol disglair iawn iddi yn Hollywood.Disgrifia gwefan y Ö÷²¥´óÐã y ffilm fel cyfuniad o Biwritaniaeth ormesol The Crucible (dehongliad Arthur Miller o hela gwrachod Salem) ac ofn dibaid Rosemary's Baby.
Ond ychwanegir bod y ffilm yn gofyn mwy o gwestiynau nag a atebir.

Cwyna beirniad arall nad yw The Village nac yn wir arswyd nac yn ddrama afaelgar ond dric sy'n cael ei chwarae ar gynulleidfa.

Ar y llaw arall mae'r ffilm yn cael ei disgrifio fel un sy'n meddwl gyda'i phen yn hytrach na'i waled gan Mark Kermode yn y New Staesman sy'n rhybuddio y gall brofi'n rhy araf a meddylgar i rai.

Dywed Marke Steyn yn y Spectator fod y troadau yn y stori yn difetha'r ffilm.

Perthnasol
Mae Bryce Dallas Howard yn ferch i'r cyfarwyddwr, Ron Howard

Rhesymegol?
Er ei bod yn hawdd ymgolli yn y ffilm cawn ein taro wrth feddwl yn ôl gymaint o bethau nad oeddan nhw'n dal dŵr oedd ynddi. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n cynnig digon inni faddau'r diffygion hynny.

Gwerth mynd i'w gweld?
Er gwaethaf pob gwahaniaeth barn ynglŷn â llwyddiant y ffilm mae eithaf cytundeb ei bod hi werth mynd i weld offrwm diweddaraf Shyamalan.

Ond mae lle i holi a oes digon yn y ffilm i gynnal diddordeb rhai 12 oed - yn enwedig y rhai hynny ohonyn nhw a welodd y trelar.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý