Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Australia
Cynhyrchiad nad yw'n siomi!

PGPedair seren

Y Sêr
Nicole Kidman, Hugh Jackman, Brandon Walters

Cyfarwyddo
Baz Luhrmann

Sgrifennu
Baz Luhrmann, Stuart Beattie, Ronald Harwood, Richard Flanagan

Hyd
165 munud

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke

    Cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig y dewin o Down-Under, Baz Luhrmann, yw Australia a rhaid dweud nad yw'n siomi.

    Yn wir, wrth ei heipio i'r entrychion, disgrifiodd ei chfarwyddwr hi fel fersiwn Awstralia o Gone With the Wind ac os cofiwch chi'r cynhyrchiad mawr, rhamantus, dros-ben-llestri hwnnw mae'r gymhariaeth yn un ddigon teg.

    Golygfa ysgubol
    Mae'r ffilm yn dechrau â golygfa ysgubol o baith di-ddiwedd talaith y Northern Territory ac o fewn dim cawn ein cyflwyno - trwy ei droslais ei hun - i Nullah, bachgen naw oed o dras Aborigini a'i dad-cu, y dewin a'r penteulu King George, wrth iddynt droedio'r tir ar walkabout.

    O fewn dim, daw criw o borthmyn gwynion yn croesi afon â gyrr o wartheg i darfu ar yr olygfa hon.

    Mae King George, sydd wedi hen brofi uchelgais anwar ei gymdogion gwyn, yn cynghori Nullah i "ddiflannu", ac wrth iddo blymio i ddyfnderoedd yr afon gerllaw, y peth nesaf a wêl yw canlyniad llofruddiaeth yr Arglwydd Ashley a saeth wydr seremoniol trwy'i galon gan ddyn mewn sgidie crocodeil.

    Achubir Nullah o'r afon gan King George a charlama'r bachgen ar ferlen y Sais i'w gartref ger ystâd Farway Downs.

    Dyma hefyd pryd gwelwn ni newydd ddyfodwraig yn cyrraedd yr ystad wartheg- yr Arglwyddes Sarah Ashley, gwraig y diweddar reolwr, ar ddiwedd taith faith i ddarganfod paham fod yn well gan y bonheddwr dreulio'i amser ym mhendraw'r byd nag yn cadw cwmni iddi hi yn eu plasty moethus yn ne Lloegr.

    Yn gyfrifol am ei chludiant o borthladd Darwin y mae Drover, porthmon enigmatig sydd yn well ganddo gwmni'r Brodorion na'r Foneddiges ffyslyd.

    Mae ef ar fin ffarwelio â hi pan ganfu Arglwyddes farwolaeth ei gŵr, a chynllun is-reolwr yr ystâd, Neil Fletcher (David Wenham) i'w twyllo trwy ychwanegu gwartheg Faraway Downs at yrr helaeth yr unig gystadleuaeth - "King " Carney (Bryan Brown, ar ei orau) - er mwyn iddo yntau arwyddo cytundeb i gyflenwi holl gig eidion y Fyddin Brydeinig yn y Môr Tawel ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.

    Dim ond un dewis
    Ymddengys nad oes gan yr Arglwyddes ond un dewis, perswadio Drover i arwain tîm o borthmyn cwbl amhrofiadol - gan gynnwys y bachgen Nullah, yr Arglwyddes ei hun, a'i meddwyn o gyfreithiwr - i yrru dwy fil o wartheg Farway Downs dros y paith i long ryfel y fyddin yn Darwin cyn bod King Carney yn cael cyfle i arwyddo'r cytundeb.

    Wnan nhw gyrraedd mewn pryd? A ddaw Drover a'r Arglwyddes i ddeall ei gilydd cyn diwedd y daith?

    Cyn ymhelaethu gwell pwysleisio mai traean cynta'r ffilm yn unig yw hyn ac yn sylfaen gadarn i Luhrmann gyfuno golygfeydd ysgubol o Ogledd Awstralia gyda chyffro ffilm Western, a dôs go dda o hiwmor a rhamant.

    Dydy'r ffilm ryfel - sef prif elfen y cynhyrchiad - ddim yn cychwyn tan ymhell ar ôl i'r criw ddychwelyd i Faraway Downs, a hynny ar achlysur un o'r cyrchoedd lleiaf adnabyddus yn hanes yr Ail Ryfel Byd, bomio dinas Darwin gan y fyddin Siapaneaidd ym 1942.

    Rhwng hyn oll, dilynir hanes Nullah - y bachgen amddifad sy'n pontio'r diwylliant gwyn a'r diwylliant brodorol gan gynrhychioli carfan o'r boblogaeth y cyfeirir atynt bellach fel y Genhedlaeth Goll.

    Plethu
    A chyn inni anghofio mai ffilm gan y King of Camp yw Australia, ceir cyfeirio cyson at un o brif ffilmiau'r cyfnod, The Wizard of Oz, gan blethu mytholeg Dreamtime y Brodorion â breuddwydion a wireddir "draw dros yr enfys."

    Oes, mae yna wendidau;
    sgript wan ar adegau, tuedd i orsentimentaleiddio profiad y Brodorion ac wrth gwrs ambell i olygfa sy'n teimlo fel hysbyseb estynedig ar ran Bwrdd Twristiaeth Awstralia - ond mae modd maddau hyn oll gan fod yma chwip o stori a phob eiliad wedi'i chynllunio i'r dim diolch i weledigaeth Luhrmann a llygad barcud ei lefftennant cyson, Catherine Martin.

    Er nad ydw i'n rhagweld gwobrau i'r prif actorion - er mor hwyliog yw'r rhamant rhwng y Nicole brydferth a'r Hugh golygus (enillydd haeddiannol gwobr Sexiest Man Alive 2008 cylchgrawn People) - mae gan Brandon Walters siawns dda cipio enwebiad neu ddau yng nghategori'r actor cynorthwyol gorau am ei bortread hynod hoffus o Nullah, y cymeriad sydd yn cynrhychioli gwir galon y ffilm.

    Meddwl agored
    Fy nghyngor i fyddai mynd i weld Australia gyda meddwl - a chalon - agored, hances boced neu ddwy, a gadael eich sinigiaeth wrth y drws, er mwyn ei gwerthfawrogi hi'n llawn.

    Mae wastad yn bleser gweld ffilm gan Baz Luhrman, gan mai ef yw un o'r unig gyfarwyddwyr cyfoes a all arlwyo gwledd i'r llygaid gyda joch o hud hen-ffasiwn Hollywood.

    Yn wyneb hygyrchedd dvd's a'r rhyngrhwyd, mae e'n deall i'r dim pam fod miliynau o bobol yn dal i dyrru i'r sinema am ddihangfa wythnosol, a dyma paham mai Luhrman bellach gaiff ei ystyried yn Wizard of Oz.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý