Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Che: Part One - 2008
Chwyldro - o safbwynt Che

PGPedair seren

Y Sêr:
Benicio Del Toro, Demián Bichir, Julia Ormond

Cyfarwyddo:
Steven Soderbergh

Sgwennu:
Addasiad sgript Peter Buchman o'r llyfr Reminiscences of the Cuban Revolutionary War gan Ernesto "Che" Guevara

Hyd:
126 munud

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke

    'Nôl yn 2004, rhyddhawyd The Motorcycle Diaries gan y cyfarwyddwr o Frasil, Walter Salles; ffilm hwyliog a hynod deimladwy am daith Ernesto 'Che' Guevara a'i ffrind gorau yn mwynhau 'blwyddyn allan' yn teithio ar hen feic modur trwy rai o wledydd De America cyn wynebu realiti bywyd myfyrwyr meddygaeth.

    Deffroad gwleidyddol
    Gael Garcia Bernal chwaraeodd Che bryd hynny, a chafwyd portread deallus iawn o ddyn ifanc breintiedig sy'n profi deffroad gwleidyddol wrth weld cymaint o bobl yn byw dan orthrwm.

    Er nad oes raid ichi fod wedi gweld y ffilm honno cyn gweld Che: Part One fe fyddai rhywfaint o ddealltwriaeth o gefndir y chwyldroadwr o'r Ariannin yn ddefnyddiol iawn gan nad biopic yn yr ystyr arferol yw'r ffilm hon.

    Penderfynodd yr Auteur Americanaidd, Stephen Soderbergh, ganolbwyntio'n bennaf ar frwydyr y criw bychan o gynllwynwyr - dan arweiniad Fidel Castro - i gipio awennau llywodraeth bwdr Fulgencio Batista, Ciwba, ac ysbrydoli cenedl gyfan i sefyll yn gadarn yn erbyn grymoedd imperialaidd yr Unol Daleithiau.

    Pob cam o'r ymgyrch
    Ymhlith y gwrthryfelwyr mae'r Dr Ernesto Guevara (Benicio Del Toro) a dilynwn bob cam o'r ymgyrch o gyfarfyddiad cyntaf 'Che' Guevara â Fidel Castro (Demián Bichir) dros swper mewn apartment yn Ninas Mecsico ym 1955, i'r fordaith beryglus gan 82 o chwyldroadwyr i ynys Ciwba hyd at y brwydro diflino ym mynyddoedd y Sierra Maestra cyn cipio dinas Santa Clara ym 1959.

    Daw rhan gyntaf y stori i ben, felly, gyda Che yn arwain gorymdaith i ddinas Havana gyda'r bwriad o sefydlu cymdeithas yn seiliedig ar gyfiawnder economaidd a rhyddid i bawb.

    Fflachiadau
    Yn cydredeg â'r digwyddiadau lliwgar hyn ceir fflachiadau achlysurol i'r dyfodol megis ymweliad Che â'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ym 1964.

    Cyflwynir y rhan yma mewn arddull cinéma vérité du a gwyn gyda chyfweliad ABC rhwng Che a'r newyddiadurwraig Lisa Howard (Julia Ormond) yn brif ffocws ac yntau'n rhannu ei brofiad o'r ymgyrch, ei deimladau am y term "Chwyldroadwr", a'i weledigaeth ar gyfer ynys Ciwba a thu hwnt.

    Mae ei atebion ystyrlon a deallus yn droslais i'r cyrchu cronolegol ac o gymorth wrth dorri rhywfaint ar yr ymgyrch faith o ddinas Mecsico i Havana.

    Y chwyldro nid y dyn
    Cyflwynir hyn oll o safbwynt Che Guevara ond, eto, rhaid pwysleisio mai cofiant o'r chwyldro yn hytrach na'r dyn ei hun a geir yma.

    Caiff ei ddarlunio fel meddyg a dyn deallus a gwelwn mai ei arbenigedd meddygol a'i natur ddyngarol sydd yn ennyn parch ymhlith ei gyd-filwyr a'r werin ddifreintiedig.

    Down i ddeall hefyd sut yr enillodd ei sgiliau tactegol a'i ddawn ymennyddol ymddiriedaeth a pharch Fidel Castro.

    Heb os, dehongliad canmoliaethus o'r 'eicon ar waith' a gawn ac yn hynny o beth dydy Soderbergh ddim yn caniatau inni weld llawer o'r dyn ei hun.

    Yn wir, yn ôl y cynhyrchiad hwn, unig wendid yr arwr o'r Ariannin oedd ei asthma ac anghofiwch unrhyw awydd i fusnesa yn ei fywyd preifat; dim ond yn chwarter ola'r ffilm y clywn fod ganddo wraig a phlentyn ym Mecsico!

    Yn drylwyr
    Does dim dwywaith fod yma ôl ymchwil trylwyr iawn ond mae'r ffilm yn gofyn cryn dipyn gan y gwyliwr sy'n gorfod canolbwyntio am dros ddwyawr.

    Ond yn ffodus, mae'r actor o Puerto Rico, Benicio Del Toro - yma'n cynhyrchu hefyd - yn ddewis perffaith fel y chwyldroadwr deallus ac yn bresenoldeb trydanol gydol y ffilm.

    Gobeithio y cawn ddod i'w adnabod y dyn ei hun rywfaint yn well yn Che: Part Two a fydd yn y sinemâu ddiwedd Chwefror.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý