Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


The Matador
Lladd arnyn nhw

15

Tair seren allan o bump

Y sêr
Pierce Brosnan, Greg Kinnear, Hope Davis

Cyfarwyddwr
Richard Shepard

Sgrifennu
Richard Shepard

Hyd
97 munud

Sut ffilm
Yn awr ei fod wedi gorffen â 007 ffilm yw hon i brofi fod mwy i Pierce Brosnan fel actor na James Bond.

Fe'i disgrifiwyd fel "engaging comedy" gan un adolygydd ond mae mwy o ias nag o chwerthin ynddi.

Y stori
Lladdwr meddw ac annymunol sy'n crwydro'r byd yn lladd pobl am dâl ydi Julian Noble (Pierce Brosnan) - "Facilitator of fatalities," chwedl yntau, sydd a phutain ym mhob dinas!

Ond mae'r blynyddoedd o ladd yn dechrau dweud arno pan yw'n cyfarfod dyn busnes, Danny (Greg Kinnear), yn Ninas Mecsico ac er gwaethaf ymddygiad cwrs ac annymunol Julian mae rhyw berthynas od sy'n ymylu ar gyfeillgarwch yn tyfu rhwng y ddau a hynny'n dwyn ffrwyth annisgwyl yn hanes Danny a'i wraig (Hope Davis) maes o law.

Anodd dweud rhagor heb ddifetha'r stori.

Cyfeiria'r teitl at ddawn y matadors gorau i ladd y tarw yn lân ac yn sydyn ac yn broffesiynol gyda'u cledd.

Y canlyniad
Ffilm ddigon gafaelgar llawn iasau wrth i'r berthynas rhwng Julian a Danny dyfu ac aeddfedu. Bydd rhai yn sylwi pa mor debyg o ran pryd a gwedd yw Danny i Julian yn rhan olaf y stori pan fo byrddau'r berthynas wedi troi.

Ond er yn cael ei phedlera fel comedi mae llawer nad yw'n ddoniol yma.

Astudiaeth ddigon gafaelgar o berthynas astrus rhwng dau.

Y darnau gorau

  • Y ci rhech yn tarfu ar gyfathrach rywiol - mae honno yn olygfa ddoniol!
  • Y talwrn ymladd teirw.
  • Sawl golygfa o dyndra ac yn sawru o berygl rhwng Julian a Danny.
  • Yr olygfa llawn awyrgylch yng nghartref Danny ar drothwy'r Nadolig.

    Perfformiadau
  • Yn eu gwahanol ffyrdd mae Brosnan a Kinnear gystal a'i gilydd gan greu'r awyrgylch fwyaf iasol ar adegau!
  • Er mai ymylol ydi cymeriad Hope Davis ar y cychwyn mae ei pherfformiad pan yw'n cael ei thynnu'n iawn i'r stori yn wefreiddiol mewn golygfa y mae rhywun ar bigau'r drain ynglÅ·n â sut mae pethau'n mynd i fynd.
  • Mae Brosnan yn arbennig fel dyn sy'n gwrthod gollwng ei afael mewn dieithryn y mae'n ei gyfarfod. Fel pry na ellir rhoi swadan iddo.

    Yn dilyn sglein a soffistigeiddrwydd arwynebol James Bond mae'n tra rhagori fel y llymeitiwr cwrs ac mae'n amlwg o'r cychwyn cyntaf fod hon yn rhan y mae'n ei mwynhau i'r eithaf.

    Rhai geiriau
  • Mae rhai pobl yn rhedeg adref mewn creisus ond does gen i ddim cartref.
  • Ti yw fy unig ffrind a dydwi'n prin dy adnabod.
  • Rydw i'n dweud celwydd pan fo angen hynny ac yn dweud y gwir pan alla'i."

    Gystal â'r trelar?
    Ydi.

    Ambell i farn
  • Mae cryn ganmoliaeth i'r perfformiadau. "Engaging comedy," ydi disgrifiad gwefan Saesneg y Ö÷²¥´óÐã sydd hefyd yn ei chyhuddo o hofran yn ansicr rhwng dwli y Brodyr Cohen a 'chŵl' Tarantino heb ddod o hyd i'w llais ei hun.
  • Dau berfformiad arbenigol gan Brosnan a Kinnear meddai'r Observer sydd hefyd yn gwaradwyddo fod y ffilm yn diweddu mor sentimental. Dydi'r Observer ddim yn hoffi'r nodyn gwleidyddol gywir ar y diwedd ychwaith - na chafodd unrhyw deirw eu brifo tra'n ffilmio!

    Gwerth mynd i'w gweld?
    Er nad yw'n rhywbeth i sgwennu adra amdani mae'n sicr werth ei gweld - er ei bod y mymryn lleiaf rhy hir.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý