Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Ffilm hynod o annymunol heb hapusrwydd ar y dechrau na'r diwedd nac yn y canol - meddai'r awdur!

pgPedair seren

Y sêr
Jim Carrey, Meryl Streep, Jude Law, Emily Browning, Liam Aiken, Kara Hoffman, Shelby Hoffman, Timothy Spall, Billy Connolly

Cyfarwyddwr
Brad Silberling

Sgrifennu
Robert Gordon

Hyd
102 munud

Sut ffilm
Cymysgedd o arswyd gothig a chomedi. O dynerwch a braw gyda Jim Carrey yn ddihiryn pantomeimaidd.

Addasiad yw'r ffilm o dair nofel gyntaf awdur Americanaidd, Daniel Handler; sy'n sgrifennu dan yr enw Lemony Snicket am anturiaethau tri o blant amddifad, Violet,Klaus a Sunny Baudelaire y mae eu hewythr ffiaidd, Count Olaf, a phob gewyn ar waith yn ceisio dwyn ffortiwn teuluol y maent i'w etifeddu.

Y stori
Wedi i'w rhieni gael eu lladd mewn tân amheus sy'n llosgi eu cartref i'r llawr mae Violet (Emily Browning), Klaus (Liam Aiken) a'u chwaer fach, Sunny (Kara a Shelby Hoffman) yn cael eu hanfon i fyw at eu hewythr, Count Olaf (Jim Carrey) sy'n byw mewn plasty a fyddai'n codi of ar y Munsters neu'r deulu'r Addams!

Nid yn unig yn troi eu bywyd yn hunllef ond hefyd yn cynllwynio i'w lladd er mwyn iddo ef etifeddu cyfoeth eu rhieni.

Yn dilyn methiant ei gynllun cyntaf mae'r plant yn cael eu symud at aelodau eraill o'r teulu er eu diogelwch gan yr ysgutor, Mr Poe (Timothy Spall).

Ond hyd yn oed yn nghartref Uncle Monty Montgomery (Billy Connolly) ac Aunt Josephine (Meryl Streep) ni all y plant ddianc o grafangau Olaf sy'n smalio'n gyntaf ei fod yn wyddonydd ac wedyn yn hen longwr.

Y darnau gorau
Ar boen eich bywyd peidiwch â rhuthro o'r sinema wedi i'r ffilm orffen.
Arhoswch i weld yr enwau ar y sgrîn gan fod y graffeg sy'n gefndir iddynt yn hyfryd.

Yn anffodus, ychydig iawn fydd ar ôl i werthfawrogi hyn. Eu colled hwy yw hynny.

Sgyrsiau Sunny.

Ymosodiad y gelannod.

Disgwyl gwrthdrawiad y trên.

Y neidr erchyll a Sunny.

Perfformiadau
Jude Law fel yr awdur gydag ansawdd ei lais yn wefreiddiol.

Carrey fel Olaf - ond dydio ddim cystal fel y ddau gymeriad arall.

Mae Billy Connolly yn Billy Connolly.

Mae gwahaniaeth barn ynglŷn â Meryl Streep fel modryb sy'n byw ar ei nerfau.

Gystal â'r trelar?
Yn well.

Ambell i farn
Canmoliaeth gan fwyaf - yn enwedig o Carrey fel ei dri chymeriad - ac er nad yw pawb yn ffoli ag ystumiau arferol Carrey mae ei osgo talsyth fel Olaf yn gweddu i'r dim.

Y canlyniad
Er bod llawer sy'n ystrydebol yn y ffilm - plant hoffus a diymgeledd yng nghrafangau perthynas dieflig ond neb yn eu coelio pan ydynt yn cwyno - mae presenoldeb yr awdur, Lemony Snicket (Jude Law) yn troi hon yn stori well na'r arferol.

Mae o'n siarad yn barhaus â'r gynulleidfa ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn ffordd fydd yn gyfarwydd i'r rhai hynny fu'n darllen y llyfrau.

Gwelir Snicket yn eistedd yn y cysgodion gyda'i deipiadur yn teipio'r hanes ac yn cymell y gynulleidfa i hyd yn oed adael y sinema (roi'r gorau i ddarllen y llyfr) ar adegau.

Ei eiriau cyntaf wrthym yw: "Mae'r ffilm yr ydych ar fin ei gwylio yn un hynod o annymunol," gan fynd ymlaen i'n cymell i adael os ydym eisiau gwylio rhywbeth brafiach, hapusach!

"Nid yn unig does yna ddim diwedd hapus i'r stori hon - does yna ddim dechrau hapus iddi ychwaith. Ac ychydig iawn o bethau hapus sy'n digwydd yn y canol hefyd," rhybuddia.

Mae llais Law yn gweddu i'r dim ar gyfer y rhan hunan barodiol hon ac er nad yw prin yn cael ei weld mae ei bresenoldeb yn allweddol i lwyddiant y ffilm.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae i'r tri o blant briodoleddau arbennig sy'n eu cynorthwyo wrthsefyll bygythiadau Olaf.
Mae Violet "y ddyfeiswraig bedair ar ddeg oed o wychaf yn y byd"; mae Klaus yn ddarllenwr mawr nad yw byth yn anghofio unrhyw beth a ddarllenodd o Sartre i lawlyfr hwylio cwch.

Mae Sunny, wedyn, yn gnowraig sydd a'i dannedd ym mhopeth - a phawb - ac yn siarad mewn iaith babi nad yw ond ei brawd a'i chwaer yn ei ddeall.
Dyfais ddoniol sy'n gweithio'n hyfryd gydag is-deitlau ar y sgrîn.

Un o hynodion mwyaf apelgar y ffilm yw'r modd y llwyddir i gymysgu mor ddidramgwydd wahanol 'gyfnodau'.

Un funud, yr ydym yn dilyn stori wedi ei gosod yn ystod y ganrif ddiwethaf yna, mwyaf sydyn, mae'r awyrgylch yn gwbl fodern wrth inni gamu o rhyw fyd gothig i'r dydd heddiw. Clyfar.

Geiriau gorau . . .
Mae plant yn bethau estron i mi - Olaf.Onid ydych chi'n cael yr argraff nad yw'r un o'n perthnasau yn perthyn inni?

Gwerth mynd i'w gweld
Yn wir - er y byddai ar ei mantais o fod wedi cael ei chwtogi, hon, gyda'r Incredibles, yw ffilm deulu orau'r Nadolig hwn .



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý