Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Howl's Moving Castle
Awyrgylch hudol y castell symudol

U

Pedair seren allan o bump

Adolygiad Grahame Davies.
Y sêr
Lleisiau: Christian Bale, Lauren Bacall, Emily Mortimer, Jena Malone, Billy Crystal, a Blythe Danner,

Cyfarwyddwr
Hayao Miyazaki

Sgrifennu
Hayao Miyazaki, yn seiliedig ar nofel Diana Wynne Jones.

Hyd
119 munud

Sut ffilm
Dwyrain a gorllewin yn cwrdd mewn modd hudol wrth i feistr y genre anime Japaneaidd, Hayao Miyazaki, addasu nofel ffantasi awdures o dras Cymreig mewn ffim animeiddiedig gyfoethog iawn yr olwg.

Y stori
Merch ifanc yw Sophie, yn gweithio mewn siop hetiau mewn tref sydd fel petai'n perthyn i ganol Ewrop tua throad yr ugeinfed ganrif, ond gyda chyffyrddiadau technolegol diweddarach.

Mae'r wlad ar drothwy rhyfel, ac wrth i Sophie (Emily Mortimer) gerdded adre, fe gaiff ei phlagio gan gwpl o lafnau mewn iwnifform, nes i'r dewin dengar Howl, a leisir gan Christian Bale, yr actor a aned yn Sir Benfro, ddod i'w hachub.

A dyna ddigon i ddenu llid ei elyn ef, sef Gwrach y Gwyllt (Lauren Bacall), sy'n troi Sophie druan yn hen wreigan deg a phedwar ugain oed, gyda'r baich ychwanegol na chaiff ddweud wrth neb am y swyn greulon sydd arni.

Ffwrdd â hi wedyn i'r anialdir i chwilio am fodd i dorri'r swyn, a buan iawn y daw ar draws Howl eto, wrth iddi gael ei hun yn ei gartref rhyfedd, sef y castell symudol y cyfeirir ato yn nheitl y ffilm.

A dyna ddechrau ar siwrne hudol, gyda sawl edefyn yn y stori yn cydblethu wrth i Sophie (gyda'i chymeriad hÅ·n wedi ei leisio gan Jean Simmons) geisio ailddarganfod ei ieuengrwydd coll, wrth i'r dirgelaidd Howl ail-ddarganfod ei ddewrder, ac wrth iddynt oll geisio atal y rhyfel sy'n dod ag awyrlongau dieflig i dinistrio'r wlad baradwysaidd.

Ac ynghyd â'r digwyddiadau allanol, wrth gwrs, fe geir siwrne fewnol wrth i'r cymeriadau ddysgu am werthoedd caredigrwydd, dewrder a hunan-aberth.

Y canlyniad
Euthum i weld hon yng nghwmni fy merch seithmlwydd oed, a hynny gyda'r teimlad y byddwn drwy hynny yn dysgu rhywfaint fy hun am werthoedd hunan-aberth.

Ond dwyawr wedyn - dwyawr ddaru hedfan heibio'n gynt nag un o awyrlongau animeiddiedig Miyazaki - roeddwn wedi fy nghyfareddu. Dyma ffilm i ymgolli ynddi ar sawl lefel, yn weledol, yn storïol ac yn gerddorol.

Mae'n wledd i'r llygaid, yn gyntaf. Bron na ellir teimlo'r awel yn y tirweddau Alpinaidd allanol, a blasu'r mwg yng nghrombil y castell crwydrol - creadigaeth sydd, ynddo'i hun, yn werth yr arian mynediad i'w gweld.

Yn storïol, ar ôl goresgyn dieithrwch cychwynnol y lleoliad estron-gyfarwydd, a'r ffordd y mae hud a lledrith yn cyd-fyw gyda realaeth, buan iawn mae'r gwyliwr yn ymdeimlo â chyfyng-gyngor Sophie druan, yn gaeth mewn corff sy'n hen cyn ei hamser, ac fe'ch tynnir yn gyflym i fewn i'w helynt hithau, a helynt Howl a thrigolion eraill ei gastell.

Yn gerddorol, mae'r sgôr, fel golwg cymeriadau'r ffilm, yn gyfuniad o'r dwyreiniol a'r gorllewinol, gyda llinynau Rhamantaidd yn llithro i fewn i synau offerynnau Japaneaidd, mewn modd hudol ddigon.

Y darnau gorau
Mae'r castell, sydd ganddo ddrws sy'n arwain i wahanol lefydd o droi deial cyn ei agor, yn gymeriad ynddo'i hun. Nid yr unig arwydd o wreiddiau Cymreig y stori yw mai cartrefi'r 'Great Wizard Jenkins' a'r dewin 'Pendragon' yw dau o'r pedwar dewis.

Mae'r golygfeydd a'r elfennau gweledol a'r cyfuniad chwareus o'r hen a'r newydd yn ddileit cyson i'r llygaid ac i'r dychymyg.

Yn rhyfedd iawn, dyma ffilm i'w gwylio am yr awyrgylch a'r golygfeydd yn hytrach na'r stori. Mae'r siwrne'n fwy pwysig o dipyn na'r gyrchfan.

Rhaid dweud i'r naratif fynd ar chwâl braidd tua dwy ran o dair o'r ffordd, gydag uchafbwyntiau, trawsffurfiadau, a datguddiadau yn dechrau pentyrru ar ei gilydd mewn modd mor garlamus, ac mor ymddangosiadol fympwyol, fel ag i ddrysu'r gwyliwr.

Dywed rhai sylwebwyr fod cydlyniad emosiynol mewnol yn fwy o bwyslais gan Miyazaki nag yw rhesymolrwydd naratif, a'i fod yn fodlon i ddigwyddiadau allanol y ffilmiau fod yn phantasmagoraidd ac yn oriog.

Ond i fy meddwl llythrennol i, fe allaswn fod wedi gwneud gydag ychydig yn fwy o gydlyniad storïol - er enghraifft, wedi iddo ddarlunio trawsffurfiad Sophie yn hen ddynes mewn modd tyner a dwys, fe'i trawsffurfir hi yn ôl yn nes ymlaen yn y ffordd fwyaf didaro a ffwrdd-â-hi, gan chwalu ergyd yr hyn a ddylasai fod yn ganolbwynt emosiynol a storïol y ffilm.

Perfformiadau
Mae llais Christian Bale yn dyfnhau o ffilm i ffilm y dyddiau hyn, ac fe ddaw â nodyn dirgelaidd a thywyll i gymeriad Howl.

Dyna Lauren Bacall wedyn fel Gwrach y Gwyllt, gyda'r cyfuniad o'r swynol a'r peryglus sydd i'w disgwyl gan un o wir hen stejars Hollywood.

A Billy Crystal wedyn fel Calcifer, yr ysbryd tân cegog sy'n pweru'r castell. Mae'n goleuo'r sgrîn - yn llythrennol - bob tro y daw ymlaen, er bod lle i amau addasrwydd celfyddydol ei ffraethineb Iddewig-Efrog Newydd mewn cyd-destun diwylliannol sy'n teimlo ar y cyfan yn fwy Dwyreiniol ac Ewropeaidd.

Rhai geiriau
"Mae bod yn hÅ·n yn golygu symud yn arafach - medrwch chi weld mwy o'r hyn sydd o'th amgylch."

Sophie: "Maen nhw'n dweud bod y fflam yn llosgi'n fwy disglair pan fo pethau ar eu gwaetha'"
Calcifer (sy'n dân, cofiwch): "Ie, ond 'does neb wir yn credu hynny.'

Gystal â'r trelar?
Ydi.

Ambell i farn
"Mae'r ffilm yn rhyfeddod, plentynaidd organig, yn syfrdanol o annisgwyl ac yn berwi o greadigrwydd." "Dameg ddoeth a rhyfeddol am eiliadau byrhoedlog bywyd, sy'n delio gyda manteision a beichiau'r hyn sy'n ein gwneud yn unigolion,"

"Chwedl ddryslyd a bisâr sy'n cyfareddu ac yn difyrru ond sy'n methu cyflawni ei addewid hudol,"

Gwerth mynd i'w gweld?
Yn sicr, hyd yn oed os nad oes rhai bach gennych. Mae wedi codi archwaeth ar yr adolygydd hwn i fynd i chwilio am fwy o waith Miyazake.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý