Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Stormbreaker (2006)
'William a Harry' fel un yn achub y byd

PG

Dwy seren allan o bump

Y sêr
Alex Pettyfer, Mickey Rourke, Bill Nighy, Sophie Okonedo, Ewan McGregor, Alicia Silverstone

Cyfarwyddo
Geoffrey Sax

Sgrifennu
Anthony Horowitz

Hyd
93 munud

Sut ffilm
Mae perygl cael eich hun mewn pob math o helyntion 'PC' o ddweud, "Iawn i blant," am y ffilm hon, mae'n debyg.
Ond dyna'r gwir am rywbeth sy'n dynnu coes a pharodïo anghynnil iawn ar gyfer yr ifanc o ffilmiau James Bond gyda rhyw thoffar pedair ar ddeg oed sy'n groesiad o'r tywysogion William a Harry o ran pryd a gwedd yn rhuthro o gwmpas yn achub y byd.

Y stori
Wedi i'w ewythr (Ewan McGregor) gael ei ladd gan Yassen Gregorovich (Damien Lewis) - un o weision y biliwnydd drwg, Darrius Sayle (Mickey Rourke), sydd â'i fryd ar reoli'r byd - mae Alex Rider (Alex Pettyfer) yn canfod mai swyddog cudd gyda'r Llywodraeth oedd yr ewythr hwnnw ac nid gweithiwr banc parchus fel y tybiai ef.

Cyn pen dim mae Alex yntau yn cael ei arwyddo'n ysbïwr gydag MI6 i gymryd lle ei ewythr gan Alan Blunt (Bill Nighy) a'i gydweithwraig, Mrs Jones (Sophie Okenedo).

Cyn ichi fedru gweiddi "Cer", mae Alex yn sgrialu o un pen i Lundain i'r llall ar ei feic neu'n dianc ar quadbike fel rhan o'i ymgais i ddial ar Darrius a Gregorovich am farwolaeth ei ewythr hoff.

Wrth benelin Alex mae ei ofalwraig Americanaidd fenywaidd gyda'r enw gwrywaidd Jack Starbright (Alicia Silverstone) - y ddau wedi eu dewis i chwalu cynllwyn Darrius i amharu ar yr ifanc trwy roi cyfrifiaduron i holl ysgolion y wlad neu rywbeth.

Y canlyniad
Parodi anaeddfed digon hawdd i'w gwylio ond un nad yw'n bodloni yn y pen draw - er efallai y bydd plant 14 oed ac iau yn cael rhywfaint mwy o fwynhad wrth uniaethu ag un o'u hil yn cyflawni nifer o gampau lled arwrol ar gefn beic ac ati.

Yn anffodus, does yma mo'r un graen na slicrwydd â ffilmiau Spy Kids. Er mwyn i ffilm fel hon lwyddo rhaid i'r arwr apelio atoch - ond mae bron bopeth ynglŷn â chymeriad Alex Rider fel mae'n cael ei chwarae gan Alex Pettyfer yn ei wneud yn berson bron a bod yn amhosibl cymryd ato.

Bu llyfrau Anthony Horwowitz mor boblogaidd ymhlith darllenwyr Saesneg - gyda phob un wedi gwerthu mwy na'r un o'i flaen - y penderfynwyd eu trosi i'r Gymraeg ac yr oedd mynd mawr ar Tarandon gan Grey Evans yn ystod Eisteddfod yr Urdd.

Tra bo darllenwyr yn gallu creu eu Alex eu hunain yn y meddwl - rhaid i fynychwyr sinema dderbyn yr Alex sydd o'u blaenau. Go brin fod llawer yn meddwl amdanynt eu hunain fel rhywun fel hwn.

Ambell i farn
I feddwl fod hon i fod yn un o flocbystars mawr yr haf claear fu'r ymateb - caredig ar y gorau fu adolygwyr gydag un yr Observer yn holi tybed na fyddai yna fwy o groeso ymhlith y 'kids' i James Bond go iawn y Chwedegau yn hytrach nag i'r barodi hon.

  • Johnny English wedi'i groesi ag Agent Cody Banks 2 meddai gwefan ffilmiau'r Ö÷²¥´óÐã gan ychwanegu fod y ffilm yn syrthio'n fyr iawn o Spy Kids a'r ffilmiau James Bond go iawn.
    Dyma'r beirniad sydd hefyd fwyaf llawdrwm ei feirniadaeth o'r arwr ei hun gan ddweud y dylid ystyried cael gwared â Pettyfer ar gyfer y ffilmiau sydd i ddilyn.
    "Posh blond pretty-boy" yw'r Alex hwn meddir, gyda wyneb na fyddai rhywun byth yn blino ei ddyrnu!
    Oni fyddai hi'n braf, d'wedwch, gweld y beirniaid yma'n mentro dweud beth maen nhw'n i feddwl gyda llai o amwysedd?!
  • Ond yn wir, does gan hyd yn oed y Wales on Sunday ddim gair da iawn am y ffilm hon gyda'r pennawd Bland Storm. Rhoddir y bai am fethiant y ffilm ar y ffaith nad oes unrhyw amheuaeth ar unrhyw adeg fod yr arwr mewn unrhyw wir beryg ac yn sicr o ddianc o bob cornel yn ddianaf.
  • Ar dystiolaeth y ffilm hon dywed adolygydd y Mirror nad yw ef yn edrych ymlaen o gwbl at eistedd drwy'r ffilmiau sydd i ddod yn y gyfres. "Less than breathless with excitement," meddai gan ofidio nad yw Alex ei hun y math o gymeriad y bydd yr ifanc yn uniaethu ag ef.

    Perfformiadau
  • Stephen Fry fel Smithers - y cymeriad Q sy'n arfogi'r asiaint gyda phob math o ddyfeisiadau anhygoel ym myd Bond - fyddai rhywun wedi hoffi gweld mwy ohono.
    Mae'n tra rhagori ar John Cleese a etifeddodd ran y Cymro Desmond Llewellyn yn y ffilmiau Bond.
  • Anodd gwybod beth i'w wneud o berfformiad Bill Nighy - un o hoff actorion y wefan hon - fel Alan Blunt, cyfarwyddwr gweithrediadau MI6.
    Does yna mo'r min arferol i'w berfformiad sy'n tueddu i fod yn bantomeimaidd.

  • Mae'r Americanes Missi Pyle yn dda fel Nadia Vole - rhyw fath o Rosa Klebb gyda joch o fenyweidd-dra .



    Darnau gorau
  • Y râs feics trwy draffig Llundain.
  • Gwasgu'r car.

    Rhai geiriau
  • Nid yn y ffilm y dywedwyd hyn ond gan Alex Pettyfer mewn cyfweliad:
    "Pan ydych chi'n dychwelyd i'r ysgol ar ôl cael y profiad o fynd allan a gweithio yn y byd go iawn yr ydych yn ei weld fel lle i chwarae yn unig - a dydych chi ddim eisiau bod yno mwyach."
    Ydi, mae'r byd go iawn yn gwneud ichi ddweud pethau fel'na.

    Gwerth ei gweld?Siomedig yw'r hyn oedd i fod yn un o flocbystars mawr yr haf - ond mae Stormbreaker yn fyr ac ymhell o fod yn llusgo.

    Mae'n syml - arwynebol yn wir - a hawdd ei deall o ran stori ac yn gyfle iawn i ddianc rhag y gwres neu i 'mochel rhag y glaw pan ddaw hwnnw wythnos y Steddfod!

    Ac os gwelwch chi Grey Evans yn y gynulleidfa gallwch ei holi am yr actio yn ogystal â'r addasu - a phrynu hufen iâ iddo fo am droi Alex yn Gymro ar bapur.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Tarandon - holi Horowitz


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý