Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Hope Eternal
Euog fyd ar ei waethaf a'i orau

Hope Eternal (2008)
Pedair seren allan o bump

Y sêr
Christine Rochat Genoud, Richard Harrington, Lusungha Munthali a Shane Williams fel ef ei hun.

Cyfarwyddo
Karl Francis.

Sgrifennu
Karl Francis.

  • Adolygiad Aled Edwards


  • Cyfoethogwyd y profiad o fynd i weld Hope Eternal yn Chapter, Caerdydd gan barodrwydd y Cyfarwyddwr, Karl Francis, i drafod ei waith ac i dderbyn cwestiynau wedi dangos y ffilm.

    Datgelu gwirionedd
    Fel rhywun fu'n ymwneud yn agos â ffoaduriaid o'r gwledydd Affricanaidd sy'n cael eu trafod yn y ffilm, ceir un rhinwedd mawr yn y gwaith - mae'n datgelu gwirioneddau am fywydau beunyddiol y bobl hyn sy'n anodd i'r byd cyfoethog Gorllewinol ei ddeall!

    Cysgod marwol AIDS dros fywydau pobl; trais a rheibio yn realiti dyddiol;
    Y teithio blêr a diddiwedd;
    Y llu o ieithoedd a geir yno;
    Pwysigrwydd y ffydd Gristnogol i'r cyfandir
    A'r drafferth a geir ynghylch dogfennau yn arbennig wrth geisio teithio i Ewrop.

    Y mae'r cyferbyniadau cryfion i gyd yno.
    Yn gyfochrog â Christnogaeth ceir parodrwydd mamau i adael eu plant a'u gwerthu am arian.

    Yn y byd hwn, ceir prinder dŵr glân ond fe geir defnydd cymharol rwydd o'r rhyngrwyd mewn ambell fan.

    Ceir aberth a dewrder anhygoel sy'n deillio o argyhoeddiad mawr ond ceir parodrwydd parhaus i ddweud celwyddau bach er mwyn cael byw.

    Hollol gredadwy
    Y mae byd Hope (Christine Rochat Genoud) yn hollol gredadwy.
    Trafodir y trais a'r rheibio a ddioddefodd yn blentyn, ei gwaith yn nyrs yn cynorthwyo eraill a'u gobaith parthed y dyfodol yn arbennig drwy lygaid ei merch Bantu (Lusungha Munthali) sy'n graddol ddod i garu Shane Williams a'i ddawn.

    I mi, cafwyd gwirioneddau hefyd ynghylch pwy yw'r Cymry.
    Un o gymeriadau mwyaf allweddol y ffilm yw'r meddyg, Evan (Richard Harrington).
    Diolch i'r drefn, gwelodd Karl Francis ymhellach na'r ystrydeb ddioglyd a ddarlunnir bron yn ddieithriad erbyn hyn o'r hyn sy'n weddill o ymneilltuaeth Gymreig.

    Datgelir yn onest taw gwerthoedd da magwraeth Capel Cymraeg ei blentyndod a ysgogodd Evan i fynd i Affrica yn y lle cyntaf.

    Yno, mae'n cyflawni gwaith aruthrol ac yn colli ei fywyd drwy ddatgelu gwirioneddau am lygredd a thrais y cyfandir. Y mae hefyd yn ddynol ei gariad yn ei berthynas â Hope, yn danbaid ei ymrwymiad i rygbi ac yn naturiol ei gyflwyno o Shane Williams i Bantu - ei ferch fabwysiedig.

    Cenhadon
    Yn ystod y trafod wedi'r ffilm roedd Karl Francis yn llym â holwr a oedd am iddo feirniadu cenhadon am yr hyn sy'n digwydd yn Affrica. Heb wadu'r un gwirionedd poenus ynghylch ymddygiad ambell offeiriad neu fynach wrth drin plant, roedd Francis yn onest ei ganmoliaeth o waith anhygoel cenhadon Cymreig ac aberth Cristnogion sy'n gweithio yn Affrica heddiw yn wyneb anawsterau erchyll.

    Dwi'n adnabod y math o bobl a bortreadir yn y ffilm; sy'n anfon faniau o ddeunydd meddygol i wledydd o'r fath. Y maen nhw yno yn llawnder eu daioni.

    Ffilm yw hon sy'n trafod gobaith yn y modd mwyaf gonest.
    Y mae Hope ac Evan, o gefndiroedd cwbl wahanol, yn mynd ati i wasanaethu eraill drwy drin eu clwyfau; eu diogelu rhag trais a rheibio rhywiol a herio llygredd a thrïais ar wyneb mwy strwythurol y rhai sy'n meddu ac yn arddel grym yn Affrica.

    Mewn byd sy'n llawn creulondeb a chyferbyniadau creulon ceir yr un ffydd, yr un cariad a'r un gobaith.

    Chwalu llwch
    Ar y diwedd, o gwmpas llestri Cymun y Capel Cymraeg traddodiadol, gwelir Hope a'r atgof sydd ganddi o Evan yn cyfranogi o gorff a gwaed y Crist a ddioddefodd drais yn noeth ar y Groes.

    Priodol, wedi hynny oedd dwyn llwch Evan i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer eu gwasgaru gan Bantu a Shane Williams at y man yn ein bywyd cenedlaethol lle y byddwn ni yn dathlu'r Bread of Heaven.

    Ar ddiwedd y ffilm daeth geiriau mawr Gwilym Hiraethog i'r cof am "Dyma gariad" a'r Duw sy'n "cusanu euog fyd".

    Gwych iawn, iawn.
    O weld y ffilm hon, disgwyliwch weld yr euog fyd ar ei waethaf a'i orau.

  • Rhagor am 'Hope Eternal'


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý