主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


In Prison My Whole Life
Bywgraffiad, stori dditectif a thaith dywyll

PGPedair seren

Cyfarwyddo: Marc Evans

Sgwennu: Marc Evans a William Francombe

Hyd: 93 munud

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke
  • Ar Ragfyr 9, 1981, dedfrydwyd gyrrwr tacsi a newyddiadurwr croenddu o'r enw Mumia Abu-Jamal i farwolaeth am lofruddio heddwas gwyn o'r enw Daniel Faulkner yn Philadelphia.

    Ar yr un diwrnod, ganed Will Francombe yn Llundain i rieni wnaeth bwynt o atgoffa'u mab o'r cyd-ddigwyddiad hwn ar bob pen-blwydd.

    Dechrau ymchwilio

    Rai blynyddoedd yn 么l, ac yntau'n ddyn ifanc yn ei ugeiniau, dechreuodd ymchwilio i achos y carcharor a fu dan glo ers diwrnod ei enedigaeth.

    Mae canlyniad yr ymchwil, sef y ffilm ddogfen hon, yn gyfuniad o fywgraffiad, stori dditectif a thaith dywyll i galon pwdr system gyfiawnder yr Unol Daleithiau.

    Mae'n ffilm sy'n perthyn i Will gymaint ag yw i'r cyfarwyddwr Cymraeg, Marc Evans, a ddaeth i gyswllt 芒'r dyn ifanc trwy'r cynhyrchydd Livia Giuggioli-Firth.

    Mae'n dechrau mewn ffordd hynod drawiadol. Gofynnir i'r gynulleidfa ystyried am funud, ac ar ddiwedd y munud hwnnw, clywir lais deallus ac angerddol y carcharor dan sylw, o un o'i areithiau radio cyhoeddus a ddarlledir yn yr Unol Daleithiau, yn disgrifio bywyd ar Death Row.

    Crynhoir y profiad trwy bwysleisio mai'r hyn a wneir fwyaf mewn cell ydy aros.
    Yn benodol, aros i farw.

    O fewn dim, cawn ein cyflwyno i'n tywysydd, Will; dyn ifanc breintiedig a fagwyd yn rhannol yn Llundain ac ar Long Island, Efrog Newydd.

    Hanes y noson

    Crynhoir ei berthynas ef ag Mumia Abu Jamal a dilynwn ei daith wrth iddo geisio tyrchu i hanes cymhleth noson y "llofruddiaeth" - sydd yn ein atgoffa fod America y cyfnod hwnnw - ac yn arbennig gwleidyddiaeth leol a heddlu Philadelphia - yn berwi o densiynau hiliol.

    Darlunir dinas oedd ymhell o ymgorffori'r "City of Brotherly Love", er gwaethaf ymffrost lleoliad y Liberty Bell a'r man yr arwyddwyd y Datganiad Anibyniaeth ym 1776.

    Datgelir yr anghysondebau a'r camgymeriadau cyfreithiol a arweiniodd at ddedfrydu Mumia Abu Jamal i farwolaeth, bydded yn euog neu'n ddi-euog o'r cyhuddiad.

    Cawn hefyd gyfarfod nifer o'r bobol sydd yn ymgyrchu ar ran ap锚l y carcharor am achos tecach ac eraill sy'n gwrthwynebu'r gosb eithaf.

    Hefyd, clywn am y ffordd y cafodd unrhyw wrthwynebiad gan bobol groenddu yr Unol Daleithiau i status quo y cyfnod ei dawelu trwy ddulliau cwbl ffasgaidd - a bod hyn yn dal i ddigwydd i raddau helaeth.

    Mae ffigurau amrywiol iawn ymhlith y cymeriadau sy'n goleuo'r ymchwilydd ifanc - a thrwyddo ef, y gynulleidfa - ar hyd y daith hon, o'r athronydd Noam Chomsky a'r ymgyrchwraig wleidyddol, Angela Davis, hyd at yr awdures Toni Morrison a'r artistiaid cerddorol Mos Def, Snoop Dogg a Steve Earle.

    Fodd bynnag, cynhelir y cyfarfyddiad pwysicaf - rhwng Will Francombe a Mumia Abu Jamal ei hun - y tu 么l i ddrysau caedig y carchar maximum security gwledig ger Waynesburg, Pennsylvania, am i system gyfiawnder y dalaith honno basio cyfreithiau i gyfyngu ar ei hawliau dynol, a hynny yn ei enw ef.

    Defnydd deallus

    Mae ei absenoldeb corfforol yn amlwg gydol y ffilm, ond gwneir defnydd helaeth a deallus o'i areithiau a'i lais dwfn ac awdurdodol, sydd yn dwyn i gof ddull areithio trydanol yr ymgyrchydd Dr Martin Luther King a'r Arlywydd newydd, Barrack Obama.

    Dydy Will ei hun ddim yn bresenoldeb arbennig o garismataidd; yn wir, mae na beryg weithie iddo ymddangos fel petai allan o'i ddyfnder yng nghwmni'r radicaliaid a'r deallusion.

    Ond, serch hynny, mae yna rywbeth gonest ac apelgar am ei ddiniweidrwydd gan fod ei syndod o ddarganfod rhai ffeithiau moel yn adlais o'n hanwybodaeth ninnau fel cynulleidfa am ddigwyddiadau na chyrhaeddodd newyddion lleol y cyfnod, heb s么n am raglenni newyddion rhyngwladol.

    Mae na sawl peth trawiadaol iawn am y ffilm ddogfen hon.
    Nid yn unig fod yma stori ddynol sydd yn cystadlu ag unrhyw un o flocbysters Hollywood am y profiad o fod ar Death Row - gan gynnwys The Shawshank Redemption, The Green Mile a Dead Man Walking - ond cyflwynir hynny mewn ffordd hynod ffres trwy gyfuno gwaith camera a golygu sy'n symud yn gyflym gyda defnydd diddorol o archif, cerddoriaeth addas, a hyd yn oed gwaith animeiddio difyr.

    Ffilm gyntaf

    Mae'n werth nodi mai dyma'r ffilm gyntaf i dderbyn cefnogaeth swyddogol Amnest Rhyngwladol ac mae hefyd yn addas iawn fod yna gysylltiad agos rhwng y cynhyrchiad a'r cyfrwng newydd MySpace Film ac mae hanes byw y stori yn parhau i dynnu sylw wrth i'r naill a'r llall hyrwyddo'i gilydd.

    Wnes i ddim disgwyl mwynhau gymaint y profiad o wylio'r ffilm gan fod iddi stori mor dywyll ar un wedd ond, yn wir, yr hyn a gafwyd oedd gwledd i'r synhwyrau ac ro'n i'n falch iawn imi deithio'r holl ffordd i Aberteifi i'w gweld - lle'r oedd hi'n agor G诺yl Ffilm Theatr Mwldan 2009.

  • Bydd dangosiad o In Prison My Whole Life yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, fis Mawrth 2009 ac mae manylion am ddangosiadau eraill ar wefan y ffilm a'r dudalen MySpace.

    Cysylltiadau Perthnasol

  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy