Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gwersi i Gymru
Adroddiad Caron Wyn Edwards o Å´yl a lle gwelwyd eisiau ffilmiau Cymraeg

Y tro diwethaf i mi fod drosodd yn Nulyn oedd ar drip gyda Phrifysgol Caerdydd ar gyfer gêm rygbi ryngwladol.

Afraid dweud na welwyd llawer o'r ddinas - ond dros wythnos hanner tymor y gwanwyn 2005, roedd gen i reswm tra gwahanol dros ymweld â'r Ynys Werdd.

Gwyl Ffilm DulynRoeddwn yno i fwynhau mwy o gelfyddyd na Guinness, gan ei bod yn Å´yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn.

Felly daliwyd trên o Fangor i Gaergybi cyn camu ar gwch y Dublin Swift a fyddai'n ein cyrchu i'r Brifddinas ei hun yn hytrach na'r cyrion.

Nid y profiad mwyaf pleserus. A dweud y gwir, roedd y croesi'n hunllef ac er nad ydw i'n dueddol o ddioddef o sâl môr, dydw i ddim chwaith erioed wedi bod mor hapus o gyrraedd nunlle!

Ond wedi i'r tir sadio dan draed, buan yr anghofiais am yr hyn a fu ac edrych ymlaen at yr hyn a fyddai.

Trydydd tro
Parhai'r Å´yl rhwng Chwefror 11 a 20 a dyma'r trydydd tro iddi gael ei chynnal er y byddai rhywun yn taeru iddi fod yn digwydd ers degau o flynyddoedd.

O ddigwyddiad cymharol newydd ac ifanc, bu iddynt lwyddo mewn denu enwau cydnabyddedig yno i gefnogi.

Fel ag y dyweda un o drefnwyr yr Å´yl, Nick Costello,

"Yr hyn sy'n allweddol yn ein gweledigaeth ni o'r Å´yl yw ei bod yn mynd ymhellach na dim ond y profiad o fynd i'r sinema."

Ychwanegodd, "Ein nod ni yw denu cymaint o griw cynhyrchu ac actorion a phosib i gyflwyno eu ffilmiau ac i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r cynulleidfaoedd."

Yn llwyddiannus
Yn sicr, gwnaethpwyd hyn yn llwyddiannus a chafwyd cwmni sawl enw adnabyddus.

Ymysg yr uchafbwyntiau i mi roedd dangosiad o Cinegael Paradiso - Once Upon a Time in Connemara, oedd yn edrych ar esblygiad y byd ffilmiau yn Iwerddon tros y blynyddoedd diwethaf, a sypreis yr wythnos - premiere Ewropeaidd o ffilm John Maybury, The Jacket, gydag Adrien Brody, Kiera Knightley, Jennifer Jason Leigh, Kris Kristoffersson, Brad Renfro, Kelly Lynch, Daniel Craig, Steven Mackintosh, Brendan Coyle a Mackenzie Phillips.

Yn fwy o syndod fyth oedd ymddangosiad y gŵr gwadd, y cyfarwyddwr ei hun, John Maybury.

Saith categori
Gellid rhannu'r ffilmiau i saith categori gwahanol ar y cyfan - O Canada oedd yn gwneud i rywun sylweddoli fod y wlad honno yn dylanwadu llawer mwy nag a feddylid ar ffilmiau cyfoes.

Yn wir, mae cymaint o gwmnïau cynhyrchu Americanaidd yn teithio dros y ffin i ffilmio fel bod Canada wedi cael ei alw'n Hollywood North gan bobl yn y diwydiant.

Scared Scared Ymysg y ffilmiau yn y categori hwn roedd Falling Angels Scott Smith, Daniel Roby a'i La Peau Blanche a Velcro Ripper gyda Scared Scared.

Dyma rai o'r ffilmiau a ymddangosodd yng Ngŵyl Ffilmiau Toronto, ac roedd llawer o'r cyfarwyddwyr yn bresennol ar y noson.

Ffilmiau Gwyddelig
Roedd y categori New Irish Film Showcase yn gwneud yr union beth a ddywedir, yn hybu ac yn dathlu'r don newydd ym myd ffilmiau yn Iwerddon.

Er bod llai o ffilmiau Gwyddelig yno eleni o gymharu â'r llynedd, fe gafwyd y pleser o weld ffilm gyntaf Pearse Elliott gyda The Mighty Celt, ail ffilm lawn Fintan Connolly Trouble with Sex, ymdriniaeth unigryw Ciaran O'Connor o'r cyfrwng gyda Capital Letters a gweledigaeth ffraeth y sgriptiwr-gyfarwyddwr, Terry Loane, yn Mickybo & Me.

Yn ogystal â hyn roedd ffilmiau byrion yn rhan o'r arlwy hefyd.

Ffilmiau annibynnol
Canolbwyntio ar ffilmiau annibynnol oedd States of Independence, a pherlau diweddar fel Garden State gyda Zach Braff a Natalie Portman, tra bo Denmark yn cymryd cipolwg ar ffilmiau'r wlad honno ddeng mlynedd wedi iddynt gyflwyno'r dechneg Dogme i'r byd.

Ffilmiau dogfen
Roedd digon o amrywiaeth yng nghategori'r ffilmau dogfen Real to Reel, gyda chynhyrchiadau fel Andrew and Jeremy Get Married gan Don Boyd yn cael eu dangos ochr yn ochr â doniolwch Incident at Loch Ness.

Tra bo'r cynta'n archwilio'r pwnc o briodas rhwng dau neu ddwy o'r un rhyw, mae'r ail yn trafod yr hyn sy'n digwydd pan fo'r cyfarwyddwr Almaeneg Werner Herzog, yn penderfynu gwneud ffilm am anghenfil mytholegol!

Gianni AnelioYn ogystal â'r categorïau eraill 21 Years of Tartan ac Asian Horizons, cafwyd retrospectif o waith yr auteur dawnus Gianni Amelio.

Roedd disgwyl i'r dyn ei hun ymweld â'r Ŵyl, ond yn anffodus bu ei frawd mewn damwain car ddifrifol a bu'n rhaid iddo deithio i Galabria yn yr Eidal at ei deulu.

Trefnus a phrydlon
Mae gan y Gwyddelod enw am fod ag agwedd andros o laissez faire, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o hyn gydol yr wythnos. Roedd popeth yn drefnus ac yn brydlon, a phob ffilm yn dechrau pan ddylai.

Dangoswyd y ffilmiau mewn pedwar lleoliad tra gwahanol gyda chwarter y ffilmiau'n cael eu dangos - fel sy'n digwydd yn ystod Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru - yn yr UGC, cyfran arall yn The Savoy, rhai eraill yn The Screen a'r gweddill yn yr Irish Film Institute.

Roedd y lleoliadau hyn yn pendilio o faint sylweddol yr UGC i The Screen, lle a ddisgrifiwyd gan ffrind fel bod yn "debyg i bictiwrs Porthmadog." Hynny yw, yn eithaf bach a chyntefig!

Wisgi'n hyrwyddo
Llwyddodd trefnwyr yr Å´yl hefyd, i ddenu un o frandiau mwyaf Iwerddon i'w hyrwyddo. Nid Guinness, ond wisgi Jameson's.

Wn i ddim os mai dyma oedd yn rhannol gyfrifol am ddenu'r cynulleidfaoedd, ond roedd bron i bob ffilm yn llawn at yr ymylon, ac roedd yn rhaid archebu tocynnau i'r rhai mwyaf poblogaidd ddyddiau ynghynt.

Mae'n debyg i lawer o bobl fanteisio ar eu tocyn tymor am 100 Ewro.

Mae hyn yn gamp ynddo'i hun, a dylid cymeradwyo'r trefnwyr. Disgwylir wrth gwrs, i ffilmiau Americanaidd fel The Life Aquatic With Steve Zissou gan Wes Andersen, ddenu cynulleidfa - buasai unrhyw ffilm gan gyfarwyddwr y Royal Tennebaums sy'n brolio cast o Bill Murray (Lost in Translation), Cate Blanchett (Elizabeth, Veronica Guerrin), Anjelica Huston (Buffalo 66 a Willem Dafoe, yn sicr o ddenu twr o bobl.

Anos yw cael - i ddefnyddio term y diwydiant - 'bums on seats' ar gyfer ffilmiau llai ac annibynnol.

Ac ni chafodd y ffaith ei fod ar gyfer pobl deunaw oed a throsodd ddim effaith niweidiol ar yr ymateb. Os rhywbeth, ymddengys i'r penderfyniad fod yn un buddiol i'r Å´yl.

Gwers i Gymru
Yn hyn o beth, credaf y gallwn ni fel Cymry, ddysgu llawer gan y Gwyddelod.

Roedd ymwybyddiaeth gref o'r Å´yl ledled y ddinas, a phresenoldeb posteri a deunyddiau hyrwyddo o gwmpas y lle'n llawer mwy amlwg na'm profiad i o'r Å´yl Ffilmiau yng Nghaerdydd.

Siom arall a brofais yn Nulyn, diffyg presenoldeb unrhyw ffilm Gymreig.

Pob gwlad - ond Cymru
Gyda chynrychiolaeth o bron bob gwlad Ewropeaidd arall - boed fach neu'n fawr - roedd yn bechod na fachwyd ar y cyfle i gyflwyno gweledigaeth y Cymry i'r byd.

Mae gwyliau wedi mynd mor boblogaidd yn ddiweddar, dylem ni fel Cymry allu cynhyrchu o leiaf un ffilm Gymreig y flwyddyn. Mae digon o dalent - dim ond i'r pwerau mawrion dyrchu'n ddwfn i'w pocedi am nawdd.

Os na ddigwydd hyn, bydd ein cymdogion yn Ewrop yn llamu o'n blaenau yn y diwydiant, a dwi'n amau'n gryf y caiff effaith negyddol ar y cyfryngau gweledol eraill yma hefyd - yn bennaf oll yteledu.

Un peth sy'n sicr, fodd bynnag. Byddaf yn mentro ar fwrdd y llong unwaith yn rhagor yr adeg hon y flwyddyn nesaf, er mwyn mwynhau'r arlwy Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn 2006 - hynny ag ambell i wydraid o'r stwff du wrth gwrs!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý