主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


The Chronicles Of Narnia (2005)
Cynhesu at Wrach yr Eira

The Lion, The Witch And The Wardrobe
PG

Pedair tair allan o bump

Y s锚r
William Moseley, Skandar Keynes, Georgie Henley, Anna Popplewell, Tilda Swinton, Jim Broadbent, James McAvoy, James Cosmo, Kiran Shah, Patrick Kake, Elizabeth Hawthorne, Judy McIntosh a lleisiau Liam Neeson, Rupert Everett, Ray Winstone, Dawn French

Cyfarwyddo
Andrew Adamson

Sgrifennu
Ann Peacock, Andrew Adamson, Christopher Markus a Stephen McFeely

Hyd
140 munud

Sut ffilm
Addasiad "ffyddlon" fel maen nhw'n dweud o The Lion, The Witch and The Wardrobe y gyntaf o saith o nofelau am wlad Narnia gan C S Lewis - llenor ac ysgolhaig a drodd yn Gristion yn dilyn sgwrs drwy'r nos gyda JRR Tolkien pan oedd y ddau yn ysgolheigion yn Rhydychen.

Cyfuniad o actorion go iawn a graffeg cyfrifiadurol trawiadol.

Y stori
Wedi i Peter, Edmund, Susan a Lucy Pevensie (William Moseley, Skandar Keynes, Anna Popplewell a Georgie Henley) ddianc o Lundain i gefn gwlad rhag bomiau'r Ail Ryfel Byd maen nhw'n darganfod mewn hen faenordy fod cwpwrdd dillad yn fynedfa i wlad ddieithr a lledrithiol a elwir yn Narnia, lle mae hi'n aeaf parhaol "heb ddim Nadolig" diolch i ddylanwad Y Wrach Wen (Tilda Swinton).

Ymhen dim daw'r plant yn rhan o frwydr enbyd rhwng Da a Drwg ar ffurf Aslan, y llew (Liam Neeson) ar y naill law a'r Wrach ar y llaw arall.

Yn llawn chwerwedd o gael ei gadw dan fawd ei frawd hynaf mae Edmwnd yn bradychu'r brawd a'i chwiorydd i'r Wrach.

Canfyddir mai'r unig ffordd i achub Narnia yw i Aslan ddewr aberthu ei hun i'w boenydio a'i ladd gan y Wrach gan atgyfodi wedyn i waredu'r bobl.

Derbyniwyd dros y blynyddoedd mai alegori yw'r stori o aberth eithaf Crist yn caniat谩u iddo'i hun gael ei groeshoelio er mwyn achub dynol ryw.

Y canlyniad
Er i Lewis ei hun wadu'r syniad o alegori Gristnogol amrwd; mynd ati'n frwd ac yn ddeheuig i danlinellu'r alegori honno mae gwneuthurwyr y ffilm hon ac y mae sawl arwydd ei bod yn rhan o genhadaeth Gristnogol benodol gan Disney.

Gyda hynny mewn golwg penderfynwyd cadw'n ffyddlon at y gwaith llenyddol gwreiddiol o ran naratif ac awyrgylch.

I hyrwyddo'r genhadaeth dewiswyd y cyhoeddwr efengylaidd, Outreach i ledaenu'r neges Gristnogol sydd wrth wraidd y ffilm ymhlith eglwysi gwledydd Prydain.

Mae gwasanaeth crefyddol ar thema Narnia wedi ei lunio gan y Methodistiaid.

Ac yn 么l un papur newydd mae plwyf yng Nghaint yn rhannu gwerth 拢10,000 o docynnau ymhlith teuluoedd un rhiant - dan yr argraff, mae'n rhaid, y gallan nhw elwa mwy na neb arall ar wers Gristnogol!

Yn yr Unol Daleithiau bu'r mudiad efengylaidd, The Mission America Coalition, yn pwyso ar arweinwyr eglwysig i ddefnyddio'r ffilm fel "cyfle gweinidogaethu rhyfeddol".

Cefnogir ymgyrch i gael pob plentyn yn Nhalaith Florida i ddarllen llyfr Lewis gan Jeb Bush, brawd yr Arlywydd, sy'n rheolwr y dalaith.

Dim llawer o amheuaeth fan yna, felly, yngl欧n 芒 phriodoleddau'r ffilm a'i gwerthoedd dyrchafol.

Yr hyn sy'n cael ei anghofio yw mai dim ond i rai sy'n gredinwyr yn barod y bydd alegori Lewis yn gwneud sens.

Ni fyddai eraill ddim callach yngl欧n ag aberth fawr yr Aslan/Crist ac athrawiaeth yr Iawn.

Y cyfan fyddan nhw'n chwilio amdano yw ffilm sy'n mynd i gipio'u dychymyg a'u gwefreiddio fel stori dylwyth teg ac ni fydd tr枚edigaeth Edmund yn dilyn pregeth lem yr atgyfodedig Aslan o ddim arwyddoc芒d grefyddol iddyn nhw - dim ond yn enghraifft o fachgen drwg yn dod at ei goed.

Yr hyn ddylai y rhai sy'n tybio y gall y ffilm fod yn arf er hyrwyddo Cristnogaeth ei gofio yw i Lewis sgrifennu ei lyfrau ar adeg pan oedd pobl yn gyffredinol yn llawer goleuach yn eu Beibl ac yn debycach o ddeall ergyd yr alegoreiddio.

Y darnau gorau
Y delweddau cyfrifiadurol - o gestyll rhew i frwydrau mawrion.

Perfformiadau

  • Gan nad oes yma lawer o gymeriadau cryfion mae'n debyg mai'r ffawn, Tumnus (McAvoy) a'r Wrach Wen (Swinton) sydd fwyaf lliwgar. Ar wefan Saesneg y 主播大秀 disgrifir ei pherfformiad hi fel darlun cyntefig effeithiol o Ddrwg.
  • Ystrydebol ydi Neeson fel y Llew - yn gryf ac yn gyhyrog o ran llais a chorff - yn anifail gyda'r mwyaf annhebyg i Grist yr oen.
  • Mae Dawn French, fodd bynnag, yn taro deuddeg fel yr Afanc.
  • Ymhlith y plant mae rhywbeth yn wefreiddiol yn y rhyfeddod ar wyneb ac yn llygaid Lucy Pevensie (Georgie Henley) wrth iddi gyrraedd Narnia gyntaf.

    Gystal 芒'r trelar?
    Yn cyfleu'r awyrgylch a'r mawredd yn addas ddigon.

    Ambell i farn
    Am Narnia, dywedodd y nofelydd o Ddyffryn Ardudwy, Phiip Pullman, ei fod yn un o'r pethau "hyllaf, mwyaf gwenwynllyd" a ddarllenodd erioed.
    Er mai s么n am y llyfrau yr oedd o nid oes amheuaeth na fydd rhai yn hel meddyliau tebyg am y ffilm hefyd ac yn gwaredu at ei chrefyddoldeb powld.

    Mae eraill, fodd bynnag, yn barotach i dderbyn y ffilm fel stori antur seml yn troi o amgylch y frwydr oesol rhwng da a drwg gyda'r 'cowbois da' yn fuddugol yn y pen draw ac aberth bersonol yn rhinwedd.

    Yn sicr mae mwy o ganmol nag o feirniadu ar Narnia gyda'r ganmoliaeth yn bennaf o safbwynt gwychder yr effeithiau a'r golygfeydd.

    Hyd yn oed wedyn, cwynodd un adolygydd y byddai ef wedi disgwyl gwell gan gyfarwyddwr Shrek gan ddweud fod y cymeriadau eu hunain braidd yn llwyd.

    Rhoddir pedair seren allan o bump i'r ffilm ar wefan Saesneg y 主播大秀 gyda chymeradwyaeth arbennig i fawredd y golygfeydd.
    Dywed hefyd fod "gwedd sobreiddiol" i'r weledigaeth o farwolaeth ac aberth, gan ddisgrifio'r cyfanwaith fel "gwers mewn dewrder sy'n golchi i ffwrdd bob sinigiaeth."

    Y gwaith gwreiddiol
    The Lion the Witch and the Wardrobe oedd y cyntaf o saith llyfr yng nghyfres Narnia gan C S Lewis. Gyda'i gilydd maen nhw wedi gwerthu 85 miliwn o gopiau mewn 29 o ieithoedd. Nes creu Harry Potter dyma'r gwerthiant gorau yn y byd!

    Y Ffawn yn y ffilm Dywedodd Lewis - arbenigwr ar lenyddiaeth ganol oesol a Renaissance - mai man cychwyn straeon Narnia oedd "darlun yn fy meddwl o ffawn yn cario ymbarel a llyfrau mewn coedwig dan eira".

    Er gwaethaf y dehongliad Cristnogol poblogaidd o TLTW&TW y cyfan a ddywedai Lewis ei hun oedd y dylid eu hystyried fel straeon aml-haenog gyda sawl ystyr ac y maen anodd cysoni Aslan waedlyd gyda Christ maddeugar y Testament Newydd.

    Yr oedd yn gas gan Tolkien Narnia ac mae'n rhyfedd gweld y ffilm hon yn cael ei phedlera fel rhyw ail Lord of the Rings

    Gwerth ei gweld?
    Heb amheuaeth - pe na byddai ond ar gyfer y trafod wedyn.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Aslan a king Kong - Wythnos o Feddwl


    cyfannwch

    Gethin, Caerdydd
    Ffilm hollol wych! Ond rhaid i mi anghytuno ag un sylwad yn yr adolygiad: "Er i Lewis ei hun wadu'r syniad o alegori Gristnogol amrwd"- mae hwn yn wir ond nid yn y ffordd mae pobl yn meddwl- geiriau Lewis oedd "If Aslan represented the immaterial Deity in the same way in which Giant Despair represents Despair, he would be an allegorical figure. In reality however he is an invention giving an imaginary answer to the question "What might Christ become like, if there really were a world like Narnia and He chose to be incarnate and die and rise again in that world as He actually has done in ours?" This is not allegory at all." Felly, mewn ffordd, mae'n fwy amrwd nag alegori.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy