Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Martha Jac a Sianco - y ffilm
Teyrnged deilwng i gampwaith o nofel

Pum seren allan o bump

Y Sêr
Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd, Geraint Lewis, Carol Harrison.

Cyfarwyddo
Paul Jones.

Sgwennu
Addasiad Caryl Lewis o'i nofel ei hun

Hyd
110 munud

  • Lowri Haf Cooke yn adolygu ffilm Nadolig S4C 2008

    Mae Martha Jac a Sianco yn dilyn hanes dau frawd a chwaer sy'n gaeth i'w gilydd yn dilyn marwolaeth eu mam.

    Ond er ei bod yn ffilm am rwystredigaeth, chwalu breuddwydion a'r ochor dywyll i fywyd cefn gwlad, ceir eiliadau o hiwmor, pathos, a thynerwch ingol.

    Oedd, roedd y ffilm hon yn ddewis rhyfedd fel prif raglen S4C nos Nadolig 2008 ond i mi, Martha Jac a Sianco oedd uchafbwynt darlledu'r Nadolig- ar unrhyw sianel.

    Haenau dwfn
    Y brif feirniadaeth am amseriad y darlledu oedd ei bod hi'n ffilm mor "depressing" ac, yn wir, ar un wedd mae hi yn ffilm dywyll sy'n addasiad o lyfr tywyllach!

    Ond annheilwng iawn fyddai diystyru'r ffilm ar sail mor arwynebol gan fod y stori reit syml yn cuddio haenau dwfn ac fe ddylai unrhyw un gyda brawd neu chwaer fedru uniaethu ag o leiaf elfen o'r berthynas glostraffobig o fewn y teulu dan sylw.

    Angladd Mami
    Mae'n agor ar achlysur angladd Mami, penteulu fferm Graig Ddu yn ne Ceredigion, ac yn dilyn y cynhebrwng deallwn iddi adael y fferm yng ngofal cyfartal y tri "plentyn"; Martha (Sharon Morgan), Jac (Ifan Huw Dafydd) a Sianco (Geraint Lewis).

    Mae Jac, y brawd hÅ·n, yn gandryll. Ag yntau'n nesau am ei drigain oed mae e'n ddyn caled sydd wedi cyfaddawdu erioed dan yr argraff y byddai'n cael ei haeddiant.

    Bu'n rhaid i Martha hefyd wynebu penderfyniadau anodd gan dalu'n ddrud dros y blynyddoedd, a Sianco'r brawd bach ar goll ym meddwl plentyn - yr unig un i alaru'n agored am fam sydd yn dal i daflu cysgod trostynt oll o'r tu hwnt i'r bedd.

    Dynes ddwad
    Ymddengys mai stalemate yw'r sefyllfa nes y daw Judy (Carol Harrison) - dynes ddwad, a chariad Jac- i fyw atynt a'i phresenoldeb hi yn troi sefyllfa arteithiol yn un ganmil gwaeth.

    Ar un pwynt, cynigir achubiaeth i Martha wrth i Gwynfor (Dafydd Hywel) ofyn iddi ei briodi - ond ai dihangfa o'r Graig Ddu fyddai'r ateb i'w phroblemau hi, a'u problemau oll?

    Nid dyma unig gyfyng gyngor Martha - a'r gwyliwr hefyd! Yn wir, er mai'r Martha gadarn gyda'i hurddas dawel sydd yn ennyn ein cydymdeimlad mwyaf i dechrau, erbyn diwedd y ffilm gallwn uniaethu'n llwyr â'r pedwar prif gymeriad.

    Ie, hyd yn oed â Judy, y slapar o Gocni gartwnaidd o sbeitlyd, oherwydd erbyn diwedd y ffilm, daw'n amlwg mai hi yw'r unig un o'r creaduriaid ymylol hyn sydd yn ddigon cyfrifol i ofalu amdani hi ei hun.

    Cyfrifoldeb i'w gilydd
    Os yw Judy yn ymgorfforiad o'r hunlle ôl-Thatcheraidd, yna mae tranc y tri arall yn deillio o'u gwreiddiau dwfn, a'u hannallu i ymwrthod â'u cynefin a'u cyfrifoldeb i'w gilydd, a dyna sydd yn gwneud y stori drasig hon mor amserol.

    Ag ystyried mai stori llawn tensiynau ac emosiynau byw yw Martha Jac a Sianco, mae'n ffilm hynod lonydd.

    Mae pob un olygfa wedi'i goleuo a'i fframio'n berffaith gan roi cyfle euraidd i'r gwyliwr ystyried pob un manylyn, o ddodrefn y parlwr di-rodres, i'r deisen hufen ar blât Martha ar ymweliad i'r dre. Rhaid canmol Richard Wyn Huws am waith camera ysgubol.

    Mae'r actio hefyd yn rhagorol, ac wrth ystyried perfformiad y tri phrif gymeriad nid yw'r un yn rhagori ar y llall gan i dri actor dawnus ddarganfod gwir galon pob cymeriad a'm darbwyllo'n llwyr - ac nid yn aml y gallwch chi ddweud hynny am berfformwyr Cymraeg gor-gyfarwydd.

    O gyfrwng i gyfrwng
    Os oes gwendid, nid bai'r ffilm yw hynny ond bai'r darllenwyr hynny sydd am gymharu dau gyfrwng gwahanol iawn.

    Mawredd nofel wreiddiol Caryl Lewis oedd i'w thudalennau dasgu o dafodiaith De Ceredigion, gan lwyddo i lunio stori fywiog allan o sefyllfa gymharol statig.

    Yn naturiol, collwyd rhywfaint o hynny yn y "cyfieithiad" ffilm gan mai yn y bôn, stori am deulu sy'n methu â chyfathrebu yw Martha Jac a Sianco - ond diolch i dîm cynhyrchu amldalentog, llwyddwyd i dalu teyrnged i gampwaith o nofel trwy greu clasur o ffilm Gymraeg.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Martha Jac a Sianco - y llyfr

  • Caryl Lewis yn siarad am ei gwaith


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý