Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Atonement (2007)
Gafael ar gyfnod - gafael ar stori sy'n ysgytwol

15

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Keira Knightley, James McAvoy, Romola Garai, Saoirse Ronan

Cyfarwyddo
Joe Wright

Sgrifennu
Christopher Hampton - wedi ei seilio ar nofel o'r un enw gan Ian McEwan.

Hyd
122 munud

Sut ffilm
Ni fyddai'r disgrifiad 'stori garu o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn gwneud tegwch â'r ffilm rymus hon sydd yn cynnig cymaint mewn syniadaeth a ffilmio. Efallai y gwêl rhai y cychwyn yn rhy araf ond bydd yr ail hanner ysgytwol yn cyffwrdd y rhelyw.

Y stori
Ar yr wyneb mae'r stori yn un seml am ferch ifanc ddychmygus, 13 oed, Briony (Saoirse Ronan) yn dweud celwydd am y myfyriwr meddygol Robbie (James McAvoy), sy'n garddio ar ystad ei rhieni, a hynny'n peri iddo gael ei garcharu ar gam am ymosodiad rhywiol oherwydd i ddychymyg carlamus Briony gamddehongli digwyddiadau rhwng ei chwaer hÅ·n, Cecilia (Keira Knightly), a Robbie.

Pan gyhoeddir yr Ail Ryfel Byd cynigir ei ryddid i Robbie cyn belled ei fod yn ymuno â'r fyddin ac yno y'i gwelwn nesaf yn yn un o dri milwr yn ceisio ffeindio'u ffordd i Dunkirk.

Gyda Cecilia wedi ei chlwyfo yn emosiynol a Briony (erbyn hyn yn ddeunaw oed yn cael ei chwarae gan Romola Garai) yn edifar iddi wneud y fath gam ag ef mae'r ddwy yn mynd yn nyrsus i weini ar filwyr yr Ail Ryfel Byd sydd ar ffo o Dunkirk - un i anghofio ei galar a'r llall i wneud iawn am y drwg a wnaeth.

Fodd bynnag, mae troadau yn y stori, gan gynnwys un ar y diwedd, sy'n gwneud peri bod crynhoad o'r fath yn annigonol o or syml.

Y canlyniad
Mae sawl peth yn gwneud hon yn ffilm go arbennig nid lleiaf y modd y mae awyrgylch y cyfnod rhwng 1932 a 1940 yn cael eu cyfleu. I rai bydd yn atgof o'r hyn a fu, i eraill yn fyd gwahanol. "Mae'r gorffennol yn wlad wahanol," yn wir.

Ond er cystal yr awyrgylch ac er mor hawdd ymgolli ynddo, mae'n deg dweud bod y ffilm yn cymryd cryn amser i gyrraedd ei huchafbwynt cyntaf o frad Briony. Ond wedi hynny mae golygfa ar ôl golygfa gwirioneddol ysgytwol sy'n ein rhwygo'n emosiynol.

Mae'r stori'n cael ei hadrodd trwy gyfrwng nifer o olygfeydd allan o drefn - ambell un yn cael ei chwarae yn effeithiol iawn fwy nag unwaith er mwyn eu dehongli o safbwynt gwahanol gymeriadau.!

Mae cariad, teyrngarwch, brad, rhyfel ac aeddfedrwydd ymhlith y themâu yn ogystal â'r thema ganolog o wneud iawn am rhyw ddrwg yn y gorffennol a cheisio a rhoi maddeuant.
A beth yw gwerth y gwir?
Mewn un golygfa ddirdynol mae Briony, y nyrs, yn cysuro milwr Ffrengig ar ei wely angau trwy adael i'w feddwl cymysg gredu mai ei gariad sydd yno wrth ei ochr.
Merch y celwydd dinistriol yn dweud celwydd arall ond y tro hwn bod hynny'n gysur ac yn fendith.

Mae yna yn Atonement adlais amlwg o ddwy ffilm arall. The English Patient gan Anthony Minghella sydd amlycaf ond mae'n rhaid bod helynt y llythyr gan Robbie caru i Cecilia trwy law Briony i fod i'n hatgoffa o The Go-Between y cymerodd Michael Redgrave ran ynddi.

Tanlinellir y cysylltiad hwn trwy gael Minghella yn holi Vanesa Redgrave - fel Briony yn ei hen ddyddiau - ar ddiwedd y ffilm ac yn y cyfweliad hwn, ac nid cyn hynny, y daw popeth yn eglur am Atonement.

Heb os mae Atonement yn brofiad i'w drysori gyda chymaint o gysgodion i gydio ynddyn nhw.
Ac mae ei olwg ar fywyd milwyr yn gwbl glir ac eglur.

Ambell i farn

  • Nid pawb a blesiwyd a'i gymryd yn ddigon ysgafn mae Deborah Ross yn y Spectator gan gwyno nad yw'r cymeriadau ddigon 'real' iddi ymdeimlo â hwy.
    "Mae hon yn ffilm o gryn nerth ond ni allwn ddod o hyd i'w chalon," meddai gan gynnig pwnc trafod yn syth.

  • Yn y New Statesman wedyn mae Ryan Gilbey yn amau bod arddull McEwan yn anghydnaws a gramadeg ffilm gan ddweud bod rhai golygfeydd o ganlyniad fel golygfeydd 'B movies'.

  • Ond mae eraill fel y Guardian, Observer, Telegraph, Sunday Telegraph a'r ddau Indipendent y tu hwnt gyda'u canmoliaeth o ffilm hynod deimladwy gyda pherfformiadau a lluniau rhagorol.
    "Mae'n uchelgeisiol gydag actio teriffig," meddai'r Telegraph.
    Ond yn amlwg nid yn un fydd yn plesio pawb fel ei gilydd.

    Perfformiadau
  • Er mai Keira Knightly - ac mae hi'n gwneud gwaith teilwng - fu'n cael y sylw mwyaf ac a welwyd drosodd a throsodd yn codi bron yn noeth o'r dŵr, perfformiadau Saoirse Ronan, James McAvoy a Romola Garai yw rhai cofiadwy y ffilm hon.

    Golygfeydd cofiadwy
  • Ydi, mae'r olygfa - hynod gyfarwydd erbyn hyn - o Knightly yn codi o'r dwr a'i dilledyn prin yn glynu wrthi yn drawiadol ac mae'n siŵr y bydd yn perswadio rhai i'r sinema!

  • Ond mae golygfeydd eraill hefyd sy'n ymwneud â dŵr nid lleiaf yr un lle mae'n ffrwydro i'r gysgodfan cyrchoedd awyr yn Llundain lle mae Cecilia yn ymochel rhag y bomiau.

  • Mae'r panorama o Robbie yn Dunkirk yn disgwyl cael eu cario i ddiogelwch Lloegr yn hunllefus.

  • Briony yn cysuro'r Ffrancwr ar ei wely angau.

  • Y cyfarfyddiad rhwng Cecilia, Briony a Robbie a'i ymateb i'w brad.

    Gwrandewch
    Ar y gerddoriaeth a chnoc barhaus hen deipiadur.

    Gwerth ei gweld
    Dywedwyd bod nofel McEwan yn un na ellid ei ffilmio. Profwyd hynny'n anghywir ac mae hwn yn brofiad na ddylid ei golli. Ac os yw yr hanner cyntaf yn mudferwi braidd yn rhy araf yr ydym yn cael ei taflu o un crochan berwedig i'r llall yn ystod yr ail hanner.
    Ac mae cymaint o bethau i feddwl amdanyn nhw wedyn. Cymaint o adleisiau; mwy na thebyg y bydd angen ei gweld fwy nag unwaith i weld popeth yn ei phensaernïaeth.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Geraint Morse yn Dweud ei Ddweud am Atonement


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý