主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


The Golden Compass (2007)


PG

Tair seren allan o bump

Y s锚r
Nicole Kidman, Daniel Craig, Dakota Blue Richards, Eva Green, Ian McKellen, Sam Elliot

Cyfarwyddo
Chris Weitz

Sgrifennu
Chris Weitz - yn dilyn y gyntaf mewn triawd o nofelau gan Philip Pullman.

Hyd
113 munud

Sut ffilm
Ffantasi antur - heb fod cweit yn ffantastig - i blant gyda phlant sy'n cyfarfod pob math o gymeriadau brith yn amrywio o gowboi mewn awyren falwnaidd i Arth Mawr Gwyn sy'n siarad ac yn gwisgo arfwisg.

Y stori
Mae Lyra (Dakota Blue Richards) a'i ffrindiau yn byw mewn byd cyfochrog 芒'n hun ni gyda naws y Tridegau yn gryf drosto. Ond yr hyn sy'n gwneud y byd hwn yn wahanol iawn i'n byd ni yw fod 'eneidiau' y bobl yn eu canlyn ar ffurf anifeiliaid a adnabyddir fel 'daemons'.
Cred gyfarwydd i frodorion Americanaidd a rhai o lwythau Affrica.
Mae'r anifeiliaid hynny yn amrywio o berson i berson - i adlewyrchu ei natur mae'n debyg - gydag un o'r prif gymeriadau, Yr Arglwydd Asriel (Daniel Craig), ewythr Lyra, yn cael ei ganlyn gan lewpard gosgeiddig ond y cowboi gan ysgyfarnog.

Gyda phlant gall ffurf y 'daemon' newid o un peth i'r llall gyda Lyra weithiau'n garlwm o ran ysbryd, weithiau'n aderyn ac yn y blaen. Ond wrth i'r unigolyn aeddfedu a heneiddio collir y gynneddf arbennig hon ac erys y 'daemon' yn sefydlog.

Cyn symud i oerni'r Arctig mae'r ffilm yn cychwyn yn hafan dysg Rhydychen - lle mynychodd Pullman, awdur y llyfr gwreiddiol, yr un coleg JRR Tolkien , ond nid ar yr un pryd - lle mae dwy garfan benben a'i gilydd. Y Magisterium ffwndamentalaidd a'i phwyslais ar drefn a rheolaeth o bobl ond y garfan arall a gynrychiolir gan yr Arglwydd Asriel, anturiwr yn nhraddodiad H M Stanley a'i debyg, yn hyrwyddo ewyllys rydd a rhyddid yr unigolyn.

Mae ef newydd ddarganfod bodolaeth llwch hud cosmig yn yr Arctig sy'n cyfuno cyfanfydoedd cyfochrog.

Yn y cawl hefyd mae Mrs Coulter (Nicole Kidman) yr wyddones brydweddol a hardd sydd 芒 labordy ym mhegwn y gogledd lle mae'n gwahanu plant oddi wrth eu heneidiau er mwyn cael gwell rheolaeth drostynt.

Pan yw'n cipio ffrind Lyra mae Lyra'n naturiol yn teithio tua'r gogledd i'w achub gan gario gyda hi gwmpawd hud a gafodd gan ei hewythr i hyrwyddo ei thaith - y cwmpawd yw'r unig 'alethiometr' sydd ar 么l a hwnnw'n fodd nid i ddangos y ffordd i rywle ond i ddangos y gwir am bobl a digwyddiadau.

Mae llygad Mrs Coulter ar hwnnw hefyd wrth gwrs.

Ar ei thaith daw Lyra ar draws pob math o greaduriaid yn gyfeillion ac yn elynion gan gynwnwys gwrach dda, Serafina Pekala (Eva Green) a'r cowboi Lee Scoresby (Sam Elliot) gyda'r mwyaf lliwgar ohonynt ochr yn ochr 芒'r arth mawr gwyn o'r enw Iorek Byrnison sy'n gwisgo arfwisg (llais Ian McKellen). Daw y cyfan i ben gyda'r holl elfennau yn ymuno mewn brwydr fawr ym mhellafion oer y gogledd eithaf.

Rhai geiriau

  • "Rhyfel yw'r m么r yr ydw i'n nofio ynddo a'r awyr yr wyf yn ei hanadlu. Hebddo nid wyf ddim," meddai Iorek Byrnison.

    Y canlyniad
    Gellir bod yn eithaf sicr fod hon yn ffilm y byddai'n well dod ati heb fod wedi eich trwytho yn nofelau Philip Pullman - un o awduron plant mwyaf meddylgar a dadleuol y cyfnod presennol yn y Saesneg gyda'i ddaliadau atheistiaidd ac yn un a ystyrir gan ei edmygwyr yn J K Rowling y darllenwyr hynny sy'n meddwl!
    Heb os mae The Golden Compass yn cynnig dipyn mwy na Harry Potter, er mor boblogaidd ydi hwnnw.

    Er bod yma sawl golygfa drawiadol fel yr ymladdfa rhwng yr eirth gwynion a'r frwydr fawr rhwng pawb tua diwedd y ffilm dydi The Golden Compass ddim yn cydio'n llwyr a hynny mae'n debyg am mai ffilm sy'n gosod y cefndir yw hon, yn cyflwyno'r cymeriadau, yn agor y gyfres.

    O bosib, hefyd, nad yw tasg Lyra yn cydio ddigon yn nychymyg rhywun a hynny oherwydd na lwyddwyd i gyfleu gyda digon o argyhoeddiad y perygl i dynged y plant yn labordy Mrs Coulter.

    Gydol y ffilm dyw'r syniad o wir berygl ddim yn cael ei gyfleu na'r ffaith bod unrhyw beth yn dyngedfennol.

    Dim ond mewn rhannau y mae'r Golden Compass| yn rhagorol - nid fel cyfanwaith ac fe ddown o'r sinema yn teimlo inni weld pennod gyntaf rhywbeth gan ysu am weld beth ddaw nesaf yr wythnos nesaf.

    Ond fe fydd hi'n llawer iawn hwy na'r wythnos nesaf arnom yn cael ein digoni wrth gwrs - ac er mai yn yr un sefyllfa yn union yr oeddem ar ddiwedd pennod gyntaf Lord of the Rings yr oeddem ar ddiwedd honno o leiaf yn teimlo inni gael gwledd a fyddai'n ddigon i'n digoni tan y pryd nesaf.

    Mae'r Golden Compass fodd bynnag yn fwy o gwrs cyntaf - yn llenwi twll heb ddigoni'n llwyr.

    Perfformiadau
  • Heb fod erioed wedi actio o'r blaen ac heb fod erioed eisiau actio dim byd o'r blaen, nes iddi glywed am ran Lyra yn y nofelau a fwynhaodd gymaint, mae Dakota Blue Richards yn argyhoeddi'n llwyr fel arwres gyda'r cyfuniad bron a bod yn berffaith o ddiniweidrwydd plentynnaidd a rhyw ddoethineb a chrebwyll mwy na'i hoed.
    A chydag enw fel yna fyddai rhywun yn synnu dim ei gweld hi'n mynd yn bell chwedl hwythau.

  • Mor ymylol yw ei ran, mae rhywun yn synnu iddynt wario cymaint ar enw fel Daniel Craig heb wneud gwell defnydd ohono ond diau y digwydd hynny yn y ffilmiau nesaf gan nad yw ond megis cysgod o gymeriad o'i gymharu 芒'r cowboi Lee Scoresby o Texas y mae Sam Elliot yn mwynhau gymaint ei chwarae a'r llais bendigedig yna yn treiglo'n swrth ar draws y sgrin fel triagl dros gerrig m芒n. Ef, ydi 'cym锚r' y ffilm yn fwy felly na'r Arglwydd Asril.

  • Anodd meddwl am Nicole Kidman fel dewines ddieflig ond y mae serch hynny fin i Mrs Coulter - ond tybed fod gan hynny fwy i'w wneud a'r mwnci coch sy'n ei chanlyn.
    Marciau llawn, felly, i'r mwnci coch!

    Golygfeydd cofiadwy
  • Brwydr y ddau arth gwyn.

  • Marchogaeth yr arth gwyn dros yr anialdir eira.

  • Y frwydr olaf ar dir ac yn yr awyr.

    Cysylltiad Cymreig
    Bu Philip Pullman yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, Harlech, pan oedd ei dad gyda'r lluoedd arfog yn yr ardal ac yn awr ei fod yn enwog mae'n manteisio ar bob cyfle i dalu teyrnged i'r Gymraes, Enid Jones, a oedd yn athrawes Saesneg iddo am ei gymell a'i feithrin.

    Rai blynyddoedd yn 么l daeth y Cyngor Llyfrau a'r ddau at ei gilydd mewn cynhadledd llyfrau plant yn Abergele pan oedd Pullman ond yn dechrau dod yn adnabyddus. Ers hynny daeth yn un o bileri amlycaf llenyddiaeth plant yn y Saesneg - ac mae'n dal i gydnabod ei ddyled i'w athrawes ac yn anfon copi o bob llyfr newydd iddi.

    Gwerth ei gweld
    Yn werth ei gweld, ydi. Beth bynnag, ni fydd yr ail yn y triawd o ffilmiau yn gwneud synnwyr heb fod wedi gweld hon.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Shaun Ablett

  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy