Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Hunger (2008)
Digon i gnoi cil arno

15

Pum seren allan o bump

Y Ser
Michael Fassbender, Stuart Graham, Liam Cunningham

Y Cyfarwyddo
Steve McQueen

Sgrifennu
Steve McQueen ac Enda Walsh.

Hyd
96 mun

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke

    Mae'r ffilm yma'n cychwyn â thwrw byddarol ac yn gorffen mewn tawelwch pur - ac yn gadael argraff ddofn.

    Wyddwn i fawr ddim am Bobby Sands pan eisteddais i wylio Hunger ond gadewais y sinema yn ysu am wybod rhagor amdano, a'r rhesymau am ei safiad aruthrol pan ymprydiodd i farwolaeth ym 1981 dros ei ddaliadau gwleidyddol.

    Dau begwn
    Rhaid aros hanner awr gyfan nes cyflwynir Sands i'r stori, gan fod y ffilm yn dechrau wrth gyflwyno profiad dau gymeriad sy'n cynrychioli dau begwn y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ar droad yr 1980au.

    Yn gyntaf, profwn rwtîn boreol Ray Lohan (Stuart Graham), gŵr priod sy'n mwynhau paned a phlatiad o Full Irish i frecwast cyn sicrhau nad oes bom wedi'i osod ar waelod ei gar cyn gadael ei gartref swbwrbaidd am ei waith yng nharchar y Maze ym Melfast lle mae dwsinau o aelodau o'r IRA.

    Mae Ray yn swyddog yno, yn gyfrifol am "ofalu" amdanynt ac mae'n dychwelyd adref bob nos â'i figyrnau'n waed.

    Mae'n ymweld â'i fam mewn cartref henoed, yn mwynhau sigaret unig mewn storom eira - ac mae'r byd dal i droi.

    Carcharor newydd
    Yna cawn ein cyflwyno i Davey (Brian Milligan), carcharor newydd gaiff ei gofrestru'n anghydffurfiwr am wrthod gwisgo dillad troseddwr, cyn cael ei luchio i'w gell rewllyd mewn blanced denau i wynebu golygfa hunllefus.

    Yno, ar lawr gwlyb, a'r waliau'n drwch o garthion, eistedd ei gyd-garcharor Gerry (Liam McMahon) yn ei flanced yntau, sy'n cyhoeddi ei fod wedi'i ddedfrydu i'r uffern hwn am ddeuddeng mlynedd.

    Pan ddywed Davey wrtho mai chwe blynedd sy'n ei wynebu ef, dim ond un ymateb sydd; "Lucky Bastard".

    Dyma'r geiriau olaf am gyfnod, wrth i'r camera ganolbwyntio ar ddiflastod byd carchar cyn troi'n anochel at y trais annynol sy'n wynebu'r carcharorion hyn yn ddyddiol.

    Ynghanol un o'r golygfeydd erchyll hyn y cawn ein cyflwyno o'r diwedd i Bobby Sands (Michael Fassbender).

    Trafodaethau aflwyddiannus
    Yn fuan wedi hyn, ceir un olygfa ddi-dor sydd yn para dros chwarter awr, rhwng Sands a'r offeiriad Catholig, y Tad Moran a chwaraeir gan Liam Cunningham, actor a wnaeth argraff mewn ffilm arall am yr ymgyrch Weriniaethol, The Wind that Shakes the Barley yn 2006.

    Eglura Sands iddo nad yw'r trafodaethau â'r Llywodraeth Brydeinig dros adfer eu statws fel carcharorion gwleidyddol yn mynd i nunlle ac, fel y gwêl ef, dim ond un dewis sydd; dechrau ympryd er mwyn gorfodi'r Llywodraeth i dderbyn gofynion y Gweriniaethwyr.

    Gofyn cwestiynau
    Mewn ymateb i hyn, mae'r Tad Moran yn mynnu gofyn y cwestiynau sydd hefyd yn ein taro ninnau'r gwylwyr:
  • Ai safiad gwleidyddol, ynteu ymgais am enwogrwydd trwy ferthyrdod yw hyn?
  • Ai hunanladdiad ynteu llofruddiaeth fyddai canlyniad yr ympryd?

    Mae hi'n olygfa drawiadol o blith nifer ac yn tanlinellu talentau'r actorion dan sylw.

    Yn rhan olaf y ffilm dychwelwn i dawelwch wrth inni ddilyn effeithiau'r ympryd ar gorff Sands gyda'r camera yn mynnu cofnodi pob cam o'i ddirywiad.

    Ond er gwaethaf y canlyniadau erchyll hyn, profwn eiliadau annisgwyl o dynerwch ingol wrth i un nyrs mud, dienw, drin y claf â pharch a gofal dyngarol, sydd yn wrthbwynt llwyr i'r golygfeydd cynharach o drais annynol.

    Canmoliaeth ryngwladol
    Denodd portread trydanol Michael Fassbender o Bobby Sands ganmoliaeth ryngwladol ac mae'r actor o Killarney a chwaraeodd un o filwyr Sparta yn y blocbyster 300 ac a fydd i'w weld yng nghynhyrchiad nesaf Quentin Tarantino, Inglorious Bastards yn debygol o ddod yn enw llawer mwy cyfarwydd yn ystod y tymor gwobrau sydd i ddod.

    Ond byddai hefyd yn braf gweld agweddau eraill o'r ffilm bwerus hon yn derbyn cydnabyddiaeth, gan gynnwys y gwaith camera, y goleuo a'r gerddoriaeth, gan y DJ o Belfast, David Holmes, sy'n asio'n berffaith i greu naws finimalistaidd ond hynod effeithiol gydol y ffilm.

    Cylch dieflig
    Mae rhai wedi cyhuddo'r cynhyrchiad o ddyrchafu terfysgaeth ond y gwir yw fod y trais a'r erchylltra a ddarlunnir yma yn cael ei briodoli i weithredoedd yr IRA a gweision y Llywodraeth Brydeinig.

    Cynrychiolir yma gylch dieflig o ddynion yn ymateb fel anifeiliaid i driniaeth anifeilaidd, a cheir ymdrech amlwg i geisio cadw'r ddysgl yn wastad o ran tegwch.

    Mae ôl ymchwil dwys ar y ffilm hon, gan y cyfarwyddwr Steve Mc Queen- enillydd gwobr Turner am gelf ym 1999 - ac yn wir, ôl meddwl dwys hefyd.

    Mae'n ffilm bwysig iawn ac rwy'n eich annog i fynd i'w gweld - mae'n brofiad ysgytwol.

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý