Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Knocked Up (2007)
Stori seml yn dweud llawer

15

Tair seren allan o bump

Y sêr
Seth Rogen, Katharine Heigl, Leslie Mann, Paul Rudd.

Cyfarwyddo
Judd Apatow

Sgrifennu
Judd Apatow

Hyd
129 munud

Sut ffilm
Ffilm y mae'r beirniaid wedi syrthio mewn cariad â hi. Gwahanol raddau o ganmoliaeth sydd yna yn ddieithriad i'r ffilm Americanaidd hon sy'n llwyddo gyda chyfuniad o hiwmor amrwd, mentrus a di-chwaeth i fynd i'r afael a chwestiynau am berthynas unigolion a'i gilydd a chyfrifoldebau tuag at eraill.

Ond er mor ddoniol yw hi dydi hi ddim y ffilm orau ers i chwerthin gael ei ddyfeisio fel mae ambell un yn ceisio dweud.

Y stori
Pan fo Alison (Katherine Heigl) allan gyda Debbie ei chwaer (Leslie Mann) yn dathlu cael ei dyrchafu'n gyflwynydd gyda'r cwmni teledu mae'n gweithio iddo mae'n cyfarfod llabwst diog o'r enw Ben (Seth Rogen) ac yn ei meddwdod yn mynd ag o adref gyda hi i'w gwely.

Wyth wythnos yn ddiweddarach mae'n darganfod ei bod yn feichiog ac mai'r tad ydi'r llabwst anaeddfed sy'n treulio'i ddyddiau gyda ffrindiau yr un mor ddiwerth yn gwylio'r darnau noeth mewn ffilmiau er mwyn creu gwefan ohonyn nhw.

Ar wahân i'r noson annoeth honno o chwant does dim yn gyffredin rhyngddo ef ag Alison - ond am reswm nad yw'n cael ei egluro'n iawn mae hi'n penderfynu cadw a magu eu hepil damweiniol. Eu helyntion rhwng y cenhedlu a'r geni yw busnes y ffilm.

Y canlyniad
Bydd y rhai a welodd The 40 Year Old Virgin yn gwybod beth sydd gan Apatow i'w gynnig a fyddan nhw ddim yn cael eu siomi.

Mae'r hiwmor yn fras, yn gwrs ac yn "adult" chwedl yr hyrwyddwyr.

Ond yn y dull Americanaidd mae'r rhamantus a'r feelgood yn drech na'r cyfan yn y diwedd a'r gynulleidfa yn ysu i gael gweld a fydd y mochyn Ben yn tyfu'n dad cyfrifol.

Go brin y bydd yn difetha'r ffilm i neb cael gwybiod fod y pâr cwbl anghymarus yn closio ac ar erchwyn dyfodol hapus.

Ond mae lle yma am ddilyniant helyntion magu'r babi siŵr o fod.

Darnau gorau

  • Mae nifer o olygfeydd cofiadwy sy'n cynnwys yr un lle mae Ben yn ei chael yn anodd cael cyfathrach rywiol â'r Alison feichiog.

  • Ymateb Debbie pan wrthodir mynediad iddi hi ag Alison i glwb nos am ei bod yn rhy hen!

  • Ben yn gofyn i Alison ei briodi gyda blwch modrwy gwag i'w gadw ganddi nes y gall fforddio modrwy.

  • Ffrae Debbie a'i gŵr wrth y bwrdd.

  • Cyfweliadau Alison gyda'i chyflogwyr.

    Perfformiadau
  • Yr un sy'n goleuo'r ffilm ydi Leslie Mann - gwraig y cyfarwyddwr, Apatow - fel y chwaer hynaf y mae Alison yn byw gyda hi a'i gŵr.

    Daw â rhywbeth arbennig i bob golygfa mae ynddi ac mae'r berthynas rhyngddi hi a'i gŵr, Pete, (Paul Rudd) yn haen sy'n cyfoethogi'r ffilm yn arw.

    Hebddi hi byddai'n ffilm llawer tlotach.

  • Er nad ydyn nhw ond ar y sgrin ddwywaith ac am funudau yn unig, dau arall sy'n godro popeth o'u rhannau yw penaethiaid Alison yn ei gwaith, Jack (Alan Tudyk) ac, yn arbennig, Jill (Kristen Wiig) sy'n medru dweud cyfrolau gydag ychydig eiriau ac edrychiad.

    Maen nhw gystal nes bo rhywun yn siomedig na fu rhagor o gyfarfyddiadau rhyngddyn nhw ag Alison.

    Ambell i farn
    Y gamp yw dod o hyd i unrhyw un sydd ddim yn canmol i'r cymylau gyda'r Guardian, y Telegraph a'r Independent on Sunday yn rhoi 8, 8 a 9 o bwyntiau yn ôl siart grynodeb wythnosol y Guardian.

    Y Telegraph sy'n difetha'r sgôr ar draws y bwrdd gyda 3 marc a'r farn mai llabwst anaeddfed na all gynnal na pherthynas na ffilm yw Ben.

    Mae'r gwirionedd rywle rhwng y pegwn hwn a'r gorganmol.

    Gwerth ei gweld?
    Fel gyda chymaint o ffilmiau y dyddiau hyn mae syniad da wedi ei ymestyn yn rhy hir yn Knocked Up ac fe fyddai ar ei hennill o fod wedi hepgor rhyw ugain munud.

    Ond er nad yw'r ffilm gystal â'r holl ganmol mae'n sicr werth ymweliad â'r sinema - ac mae'n deyrnged i Apatow iddo odro cymaint o stori mor wantan a chyfuno mor ddeheuig gymaint o wirioneddau a hiwmor.

    Ond fel y dywed adolygydd arall, dydi hi ddim cystal ag i'ch deffro'n chwerthin ganol nos!


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý