Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Assault on Precinct 13
Hen olyniaeth anrhydeddus o fod dan warchae!

15

Tair seren allan o bump

Y sêr
Ethan Hawke, Laurence Fishburne, Maria Bello, Drea de Matteo, Gabriel Byrne, Brian Dennehy.

Cyfarwyddwr
Jean-François Richet

Sgrifennu
James DeMonaco

Hyd
108 munud

Sut ffilm
Ail-bobiad o ffilm o'r un enw gan John Carpenter yn 1976 a honno wedi ei sbardunogan ffiulm gowboi Howard Hawks yn y pumdegau, Rio Bravo efo John Wayne, Dean Martin, Ricky Nelson a Walter Brennan.

Er i Carpenter fwriadu ei Precinct 13 ef yn deyrnged i Rio Bravo ac er i Precinct fod yn ffilm ddigon derbyniol doedd hi ddim gystal a champwaith Hawks.

Yn yr un modd dydi Assault on Precinct 13 2005 ddim cystal ag un 1976 - yn bennaf oherwydd newidiadau yn y stori sy'n ei gwneud yn llai credadwy.

Serch hynny, mae'n well na sawl ffilm sy'n cyrraedd y sinema y dyddiau hyn ac wedi dygymod yn eithaf â'r daith o Texas yn yr 1880au a thrwy Los Angeles 1976 cyn cyrraedd Detroit 2005!

Y stori
Mae hi'n noson olaf gorsaf heddlu Precinct 13 yn Detroit gyda fawr o neb ar ôl yno i dwtio a chau'r drws am y tro olaf.

Yn annisgwyl mae llond bws o droseddwyr yn gorfod aros yno wedi eu rhwystro ar eu taith gan storm enbyd o eira.

. Y pen troseddwr yw Marion Bishop (Laurence Fishburne), pen bandit y mae nifer o heddlu'r ddinas yn ei boced ers blynyddoedd lawer.

A'r heddlu llwgr hynny dan arweiniad uchel swyddog, Marcus Duvall (Gabriel Byrne) sy'n rhoi'r orsaf dan warchae er mwyn lladd Bishop cyn iddo fedru tystillaethu yn eu herbyn mewn llys.

Drwg hyn yw, fod plismyn yr orsaf dan fygythiad hefyd a'u bywydau hwythau mewn cymaint o berygl â Bishop.

Dan gawodydd o ffrwydron a bwledi Sgt. Roenick (Ethan Hawke) sy'n gorfod cydgordio pethau o fewn yr orsaf gyda chymorth Iris (Drea de Matteo) ei ysgrifenyddes hirgoes a rhywiol, Jasper (Brian Dennehy) yr hen blismon profiadol, hoffus, sy'n rhaid ei gael ym mhob ffilm heddlu a'r Dr Alex Sabian (Maria Bello), seiciatrydd Roenick - achos fyddai hi ddim yn ffilm onibai fod yr 'arwr' dan rhyw wendid ac yn gorfod wynebu hunllefau personol.

Mor ffyrnig yw'r ymosodiad ar yr adeilad gorfodir Roenick i arfogi troseddwyr y bws a hynny'n creu tyndra ac ansicrwydd ychwanegol o fewn yr orsaf.

Ar ben hynny, pan ddychwel plismon arall i'r orsaf mae amheuaeth yn codi a oes bradwr yn eu plith!

Y cyfan yn sicrhau cawl - eildwym mae'n wir - ond digon blasus o drais, tyndra, gwrthdaro ac ansicrwydd.

Y canlyniad
Ffilm gyffrous gyda digon o dyndra ond gyda phlot bregus iawn gyda mwy nag un twll ynddo - ond hawdd iawn peidio sylwi ar hynny.

Mae'r cychwyn braidd yn flêr a chymysglyd ond unwaith mae'r adeilad dan warchae mae pethau'n symud yn sydyn a chyffrous.

Mae'r ansicrwydd ynglŷn â phwy gellir ei drystio yn cael ei gynnal yn dda - er nad yw datgelu'r bradwr ddim mor ofnadwy o annisgwyl ag y gellid disgwyl.

Y darnau gorau
Yr uchafbwynt yn nhywyllwch y goedwig - gwneir defnydd da o sŵn traed yn yr eira.

Mae saethu oeraidd un o'r cymeriadau a geisiodd ddianc yn ysgytwol ac annisgwyl.

Dianc yn y car.

Perfformiadau
Heb os, Fishburne, fel y dihiryn bygythiol, sy'n cario'r ffilm. O ean llais ac ymarweddiad mae'n wych.

Dydi Ethan Hawke ddim yn argyhoeddi gymaint fel y plismon sy'n ceisio dod i dermau â chamwri yn y gorffennol ond Gabriel Byrne yn dda fel y plismon drwg sydd mewn twll.

Er yn fwy o addurniadau na dim arall mae'r ddwy ferch, de Matteo a Bello, yn gwneud eu gorau gyda'u rhannau hwy.

Gystal â'r trelar?
Ydi..

Ambell i farn
Bu'r beirniaid yn ddigon caredig ond mwy nag un heb ei argyhoeddi gan y stori ac ambell un yn holi faint o wir angen oedd yna i ail-wneud ffilm 1976 Carpenter gan nad yw hon yn cynnig unrhyw welliant nac unrhyw weledigaeth newydd.

Awgrymwyd y gallai'r ail wneud fod yn sarhad ar Carpenter sy'n dal yn fyw.

Geiriau i'w cofio
"Mi wnaethom ni adael iddo fyw unwaith a bu bron iddo fo'n cael ni - os gwanwn i adael iddo fo fyw yr eildro mi fyddwn ni'n haeddu cael ein lladd."

"Rydw i'n gwybod 'chydig am farw. Mi allwch chi wneud hynny gyda hunan dosturi neu wneud hynny hebddo."

Ond mae'r ffilm yn haeddu gwell na'r hen gaseg, "Mae hi'n ddistaw iawn allan yna nawr - a dyna sy'n fy mhoeni i."

Gwerth mynd i'w gweld?
Ydi.

Mae'n arbennig o ddifyr ei chymharu a'i rhagflaenydd ac yn enwedig y clasur Rio Bravo sydd gystal ffilm heddiw ag oedd hi pan wnaed hi gyntaf gan Howard Hawks yn 1959 gan beri iddo ei dynwared gydag El Dorado yn 1967 a Rio Lobo, dipyn salach, yn 1970.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý